Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog i Gymru 

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Tachwedd 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwy’n falch fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi ymateb cychwynnol heddiw i adroddiad cyntaf y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (‘Comisiwn Silk’). Amgaeaf gopi o Ddatganiad Ysgrifenedig Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a osodwyd yn y Senedd yn gynharach heddiw.

Mae’r Datganiad Ysgrifenedig yn cadarnhau y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymateb yn gadarnhaol i argymhellion y Comisiwn ynglŷn â diwygio ariannol, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a phob Plaid yn y Cynulliad Cenedlaethol. Bydd diwygiadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd yn galluogi Llywodraeth Cymru i fenthyca er mwyn buddsoddi mewn seilwaith.  

Byddaf yn rhoi gwybodaeth bellach mewn Datganiad Llafar i’r Cynulliad ar y cyfle cynharaf.