Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones, Prif Weinidog i Gymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Ionawr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol bellach wedi sefydlu ei hun fel conglfaen i’r Gymraeg a Chymreictod. O’r diwrnod y  maent yn cyhoeddi’r ardal nesaf i ymweld â hi, mae cyfleoedd i bawb o bob oedran i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau yn eu cymunedau lleol. Mae’r holl weithgareddau sydd ynghlwm â threfnu Eisteddfod, y broses o sefydlu pwyllgorau lleol, y casglu arian, yna yr ŵyl ei hun a’r holl ymwelwyr sy’n cael eu denu yno o bob cwr o Gymru a thu hwnt, i’r gwaddol sy’n cael ei adael ar ôl, yn cyfrannu at nod y Llywodraeth o weld yr iaith Gymraeg yn ffynnu. Mae’r Eisteddfod Genedlaethol a’r gwaith datblygu cymunedol sy’n rhan greiddiol ohoni, yn bwysig iawn yng nghyd-destun Strategaeth Gymraeg y Llywodraeth, Iaith Fyw:Iaith Byw, yn enwedig yn sgil canlyniadau Cyfrifiad 2011.

Yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg 2012 fe ofynnodd  y cyn-Weinidog dros Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews AC, a ddylai’r Eisteddfod Genedlaethol foderneiddio.  Sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen ym mis Hydref 2012 er mwyn adolygu’r trefniadau a chyflwyno argymhellion iddo ar sut i gyflawni hyn. Cadeirydd y Grŵp oedd Roy Noble. Cafodd yr Adroddiad llawn ei gyhoeddi 24 Hydref 2013 ac ynddo cyflwynwyd 9 o argymhellion. I weld copi llawn o’r adroddiad ewch ar-lein.

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu'r adroddiad a'i argymhellion. Mae'r argymhellion a geir yn adroddiad y Grŵp yn cyd-fynd yn agos â chyfeiriad presennol ein polisïau fel y'i hamlinellwyd yn ein Strategaeth Iaith Iaith Fyw: Iaith Byw. Rydym yn falch o fedru derbyn yr argymhellion mewn egwyddor a thra ein bod angen ystyried rhai o’r argymhellion hirdymor ymhellach oherwydd y goblygiadau ariannol, rydym yn cefnogi bwriad y camau gweithredu a gynigir.

Mae’r argymhellion sy’n cael eu cynnig yn yr adroddiad yn synhwyrol ac yn cynnig cyfeiriad clir i ddulliau o foderneiddio’r Eisteddfod Genedlaethol. Bydd Llywodraeth Cymru yn dyrannu £90,000 i’r Eisteddfod Genedlaethol yn ychwanegol i’r grant blynyddol i hyrwyddo’r Gymraeg er mwyn eu cynorthwyo i weithredu nifer o’r argymhellion.  Byddwn nawr yn cynnal trafodaethau pellach gyda’r Eisteddfod er mwyn iddynt hwythau gael y cyfle i ymateb i’r argymhellion ac edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio gyda’r Eisteddfod Genedlaethol i’r dyfodol.