Neidio i'r prif gynnwy

John Griffiths, Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Diwylliant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Gorffennaf 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 30 Ebrill, cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru ail ran ei Adolygiad o Lifogydd Arfordirol gyda 47 o argymhellion. Croesawyd yr adroddiad hwn yn helaeth gan y rhai oedd ynghlwm ag ef a chan bob plaid wleidyddol.  Gan fod yr adroddiadau wedi’u cyhoeddi mor brydlon mae Llywodraeth Cymru wedi gallu gweithredu’n gyflym i gefnogi’r cymunedau yr effeithiwyd arnynt a defnyddio’r adroddiad yn sail ar gyfer diogelu cymunedau’r arfordir.

Mewn datganiad ar 6 Mai 2014, fe wnaeth fy rhagflaenydd groesawu’r meysydd blaenoriaeth a nodir yn yr adroddiad. Mae pob argymhelliad wedi cael ei ystyried yn fanwl erbyn hyn, gyda mewnbwn gan fy nghyd Weinidogion, Gweinidog yr Economi Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a’r Gweinidog Cyllid ac rwy’n gallu derbyn pob un o’r 47 argymhellion, 42 yn llwyr a 5 mewn egwyddor.

Yr argymhelliad cyntaf yw cyflwyno cynllun i nodi sut mae’r argymhellion yn cael eu cyflawni a nodi’r blaenoriaethau, yr arweinwyr priodol a’r adnoddau sydd eu hangen. Gofynnwyd i Cyfoeth Naturiol Cymru arwain ar y gwaith hwn gan weithio ar y cyd â Swyddogion Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Rheoli Perygl eraill. Rhaid i’r gwaith hwn gael ei gyflawni ar y cyd os yw i lwyddo; bydd angen i wahanol  adrannau’r Llywodraeth gyfrannu yn ogystal â’r awdurdodau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.

Roedd nifer o’r argymhellion yn tanlinellu pwysigrwydd parhau i fuddsoddi mewn mesurau rheoli llifogydd ac erydu arfordirol. Rydym yn parhau i gydweithio’n agos â Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol i nodi ac ariannu cynlluniau sy’n helpu i wrthsefyll llifogydd difrifol ar hyd ein harfordir ac yn lleihau’r perygl i bobl a lleoedd drwy reoli adnoddau naturiol, cynlluniau traddodiadol amddiffyn rhag llifogydd ac addasu i’r arfordir.

Rwy’n disgwyl i raglen lawn o gynlluniau gael eu dwyn ymlaen gan yr Awdurdodau Rheoli Perygl ac mae fy swyddogion wedi gofyn yn ddiweddar i’r Awdurdodau gyflwyno cynigion ychwanegol er mwyn sicrhau bod ein cymunedau’n parhau i wrthsefyll pob math o lifogydd.

Dros y misoedd nesaf, byddaf i a’r Gweinidog Cyllid yn gweithio gyda’n partneriaid cyflenwi ni yn yr awdurdodau lleol i archwilio’r achos dros gael rhaglen amddiffyn rhag llifogydd a gyllidir mewn ffordd ddyfeisgar ac arloesol. Gwneir cyhoeddiadau pellach am y cynllun hwn yn yr hydref.

Roedd yr adolygiad yn amlygu pwysigrwydd egluro’r cyfrifoldebau dros lifogydd a’r arfordir. Mae rhwydwaith yr amddiffynfeydd arfordirol yn un cymhleth ac mae angen  i’r berchenogaeth a chyfrifoldebau gael eu diffinio’n gwbl glir er mwyn gallu rheoli gweithgareddau rheoli llifogydd a pheryglon i’r arfordir yn effeithlon.

Mae’r argymhellion yn nodi’r angen hefyd i weithio gyda’n cymunedau i wella dealltwriaeth y cyhoedd o beryglon llifogydd ac i gynyddu’r gallu i wrthsefyll. Dyma elfen allweddol o’n ffordd ni o ymdrin â lifogydd. Rwy’n disgwyl i Cyfoeth Naturiol Cymru osod esiampl wrth gyfleu a throsglwyddo gwybodaeth a chyngor ac mae’r cyngor a ddarperir drwy eu Rhaglen Ymwybyddiaeth Llifogydd nhw yn rhagorol.

Er bod argymhellion yr adroddiad yn canolbwyntio ar lifogydd arfordirol mae angen parhau i fod yn ymwybodol o’r materion sy’n gysylltiedig â phob ffynhonnell o lifogydd a dylid ystyried llawer o’r argymhellion yng nghyd-destun ffynonellau eraill.

Wrth i lefel y môr godi a’r hinsawdd newid, bydd stormydd mawr fel y rhai gawson ni’r gaeaf diwethaf yn dod yn fwyfwy cyffredin, gan effeithio ar ein harfordir. Bydd yn hollbwysig gweithredu argymhellion yr adolygiad hwn er mwyn paratoi ar gyfer yr heriau hyn a gwella’r gallu i wrthsefyll ar hyd yr arfordir. Bydd y cysylltiadau cadarn sydd wedi’u meithrin wrth gynnal yr adolygiad hwn yn help wrth gyflawni’r argymhellion ac yn ein galluogi ni i ddod yn genedl gryfach yn wyneb digwyddiadau o’r fath.

Y cam nesaf yn y broses yw paratoi cynllun cyflawni i fwrw ymlaen â’r argymhellion sydd yn yr adolygiad. Rwy’n falch o glywed bod Cyfoeth Naturiol Cymru eisoes yn cydweithio â Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Rheoli Perygl eraill ar y gwaith hwn a byddaf yn rhoi gwybod i’r Gweinidogion am y cynnydd a wneir.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.