Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Awst 2016 cyhoeddais fy mwriad i sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i adolygu gweithgareddau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac i roi argymhellion ar y ffordd ymlaen. Byddai’r adolygiad yn llywio penderfyniadau polisi a chyllido ynglŷn â’r Coleg i’r dyfodol.
Fel rhan o gylch gorchwyl y grŵp roedd i archwilio’r posibilrwydd o ehangu cylch gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gynnwys addysg bellach, mewn ymateb i ymrwymiad yn rhaglen 5 mlynedd Llywodraeth Cymru, Symud Cymru Ymlaen.

Ar 25 Gorffennaf eleni, cyhoeddwyd yr adroddiad terfynol Adolygiad o Weithgareddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol oedd yn cynnwys 25 o argymhellion gyda’r mwyafrif yn berthnasol i’r Coleg ac addysg uwch, ac mae’n bleser gennyf ymateb yn ffurfiol ac yn llawn i’r argymhellion heddiw.

Mae’r Coleg wedi croesawu’r adroddiad ac eisoes wedi dechrau gweithredu rhai o’r prif argymhellion.  O’r 25, mae tri yn ymwneud â chyfrifoldebau’r Coleg yn cael eu hymestyn i gynnwys y sector ôl-16 ac yn rhoi arweiniad clir ar sut y dylai hyn ddigwydd.  Mae’r cynnig yn gyfle i ddatblygu cynllun gweithredu fydd yn cael gwir ddylanwad ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ôl-16.

Bydd y Coleg yn sefydlu Bwrdd Cynllunio arbenigol o blith rhanddeiliaid perthnasol gyda chynrychiolaeth o’r sectorau addysg bellach a dysgu’n seiliedig ar waith.  Pwrpas y bwrdd fydd cynghori ar y dulliau gweithredu angenrheidiol er mwyn datblygu darpariaeth ôl-16 a llunio cynllun gweithredu ffurfiol i’r dyfodol.  Gwneir hyn mewn partneriaeth â swyddogion Llywodraeth Cymru a disgwyliaf i’r Bwrdd fod yn feiddgar ac uchelgeisiol yn eu hargymhellion.

I gyd-fynd â sefydlu’r Bwrdd Cynllunio, mi fydd y Coleg yn sefydlu grŵp cyflawni mewnol o blith ei staff presennol, i gefnogi gwaith y Bwrdd ac arwain ar gynlluniau dechreuol yn y sectorau addysg bellach a dysgu’n seiliedig ar waith ac ymateb i’r cyfrifoldebau newydd.

Yn ystod yr haf, cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar y pryd gynllun y Llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn strategaeth Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr. Yn y strategaeth ceir nod penodol i:
Datblygu darpariaeth addysg ôl-orfodol sy'n cynyddu cyfraddau dilyniant ac yn cefnogi pawb, ni waeth pa mor rhugl eu Cymraeg, i ddatblygu sgiliau yn yr iaith i'w ddefnyddio’n gymdeithasol ac yn y gweithle.

Rwy’n falch bod y Coleg yn gallu ymgymryd â’r argymhellion hyn gan gyfrannu at gyflawni’r nod strategol yma.

Bydd y cynllun gweithredu yn dechrau ar y newidiadau yn ystod y cyfnod cyn i’r Comisiwn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol gael ei sefydlu, ac mi fydd hyn yn arwain at bolisi cyfrwng Cymraeg ôl-16 mwy integredig i gyd-fynd â dyletswyddau’r Comisiwn yn y dyfodol.

http://gov.wales/topics/educationandskills/allsectorpolicies/welshmededuca/review-of-the-activities-of-the-coleg-cymraeg-cenedlaethol/?lang=cy