Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n falch o gyhoeddi fy mod wedi derbyn argymhellion Corff Adolygu Cyflogau’r GIG a’r Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion ar gyfer 2025-26. Mae hyn yn golygu y bydd staff y GIG sydd ar delerau ac amodau Agenda ar gyfer Newid a Meddygol a Deintyddol yn cael dyfarniad cyflog uwch na chwyddiant, wedi’i ôl-ddyddio i 1 Ebrill 2025.

Argymhellodd Corff Adolygu Cyflogau’r GIG gynnydd cyfunol o 3.6% yn effeithiol o 1 Ebrill 2025 ymlaen ar gyfer holl bwyntiau cyflog Agenda ar gyfer Newid. Mae staff a gyflogir o dan y telerau ac amodau hyn yn cynnwys nyrsys, glanhawyr, porthorion a gweithwyr cymorth gofal iechyd. Yn sgil derbyn yr argymhellion hyn, rydym wedi ymrwymo i wneud y canlynol:

  • Codi holl bwyntiau cyflog staff Agenda ar gyfer Newid 3.6% ar sail gyfunol, o 1 Ebrill 2025 ymlaen.
  • Gwneud cynnydd sylweddol tuag at gytuno â Chyngor Staff y DU ar gynllun i wneud diwygiadau strwythurol cyn i gylch cyflogau 2026-27 ddechrau. Fodd bynnag, bydd angen i Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y DU arwain trafodaethau â Thrysorlys y DU i sicrhau cyllid ychwanegol yn yr Adolygiad Gwariant sydd ar ddod er mwyn ariannu’r gwaith diwygio.
  • Ar gyfer staff a gafodd gyfradd y Living Wage Foundation ar 1 Ebrill 2025, nid yw’r dyfarniad o 3.6% ar ben hynny, gan mai taliad ymlaen llaw oedd hwnnw. 

Rwyf wedi derbyn argymhelliad y Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion ar gyfer cynnydd cyfunol o 4% yn effeithiol o 1 Ebrill 2025 ymlaen ar gyfer y grwpiau a ganlyn:

  • Ymgynghorwyr
  • Meddygon a deintyddion ag arbenigedd, meddygon a deintyddion arbenigol a meddygon a deintyddion arbenigol cyswllt (SAS)
  • Meddygon a deintyddion preswyl
  • Deintyddion cyflogedig, gan gynnwys y rhai sy’n gweithio mewn gwasanaethau deintyddol cymunedol a’r gwasanaeth deintyddol cyhoeddus
  • Ymarferwyr meddygol cyffredinol dan gontractau annibynnol
  • Ymarferwyr cyffredinol cyflogedig

Rwyf hefyd yn derbyn argymhelliad y Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion o gynnydd ychwanegol gwerth £750 ar gyfer holl bwyntiau cyflog meddygon a deintyddion preswyl. 

Rwyf hefyd wedi derbyn yr argymhelliad i gynyddu’r dyfarniadau Effaith Glinigol Cenedlaethol yng Nghymru o 1 Ebrill 2025 ymlaen i £10,500, £21,000, £31,500 a £42,000 ar draws y pedair lefel.

Cytunwyd ar argymhellion a ganlyn y Corff Adolygu Meddygon ac rwyf wedi gofyn i’m swyddogion ddechrau ystyried y canlynol gydag undebau llafur mewn partneriaeth gymdeithasol:

  • Bod llywodraethau yn ystyried fframwaith cyflog ar wahân ar gyfer meddygon a gyflogir yn lleol.
  • Bod llywodraethau yn cynnal adolygiad o ddilyniant cyflog ar gyfer deintyddion cyflogedig sy’n gweithio mewn gwasanaethau cymunedol i asesu a yw’r strwythur gwobrwyo yn briodol i gynnal y gwaith o recriwtio deintyddion, eu cadw a darparu gwasanaethau.

Bydd y codiad cyflog o 4% a argymhellwyd ar gyfer ymarferwyr cyffredinol a deintyddion dan gontract yn cael ei ystyried ochr yn ochr â chytundeb contract cyffredinol mewn trafodaethau teirochrog, y bwriedir eu cynnal cyn bo hir. Ein nod fydd sicrhau’r buddsoddiad hwn mewn gwasanaethau gofal sylfaenol cyn gynted â phosibl, gan fwrw ati â’n rhaglen barhaus o ddiwygio contractau i sicrhau gwell mynediad i’r cyhoedd at wasanaethau o ansawdd uchel. 

Er nad yw o fewn cwmpas argymhellion y Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion, rydym am weld codiadau cyflog teg a chymesur ar draws gofal sylfaenol, gan gynnwys fferyllfeydd cymunedol, optometreg y GIG a’r holl staff sy’n gweithio mewn timau practisau cyffredinol a thimau deintyddol. Mae hyn yn cydnabod y rôl hanfodol y mae gofal sylfaenol, a’i staff, yn ei chwarae wrth ddarparu gwasanaethau hanfodol i bobl ledled Cymru. 

Hoffwn ddiolch i holl staff y GIG am eu hymroddiad parhaus a’u gwaith diflino. Mae eich ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau a gofal arbennig yn cael ei werthfawrogi’n fawr.