Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi fy mod heddiw yn derbyn yr argymhellion a wnaed gan Gorff Adolygu Cyflogau'r GIG o 1 Ebrill 2026 ymlaen.
Argymhellodd y Corff gynnydd cyfunol o 3.3% yn effeithiol o 1 Ebrill 2026 ymlaen ar gyfer holl bwyntiau cyflog Agenda ar gyfer Newid. Mae staff a gyflogir o dan y telerau ac amodau hyn yn cynnwys nyrsys, glanhawyr, porthorion a gweithwyr cymorth gofal iechyd.
Mae dadansoddiad economaidd y Corff yn dangos bod y cynnydd hwn yn uwch na'r rhagolygon chwyddiant presennol ar gyfer Banc Lloegr a'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol. Mae'r Swyddfa yn disgwyl i'r gyfradd chwyddiant gyrraedd uchafbwynt erbyn trydydd chwarter 2025 a gostwng yn raddol i'r targed o 2% yn chwarter cyntaf 2027.
Yn sgil derbyn argymhellion y Corff, rydym wedi ymrwymo i wneud y canlynol:
- Codi holl bwyntiau cyflog staff Agenda ar gyfer Newid 3.3% ar sail gyfunol, o 1 Ebrill 2026 ymlaen.
- Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi ei bwriad i dalu'r cyflog byw gwirioneddol (cyfradd y Living Wage Foundation) o 1 Ebrill 2026 ymlaen. Mae hyn yn golygu y bydd y cynnydd ar gyfer staff y GIG ar y cyflogau isaf yn amrywio o 3.8% i 5.9% o ganlyniad, sy'n sylweddol uwch na chwyddiant.
Fel rhan o'r pecyn cyflog cyffredinol, ochr yn ochr â derbyn argymhelliad y Corff ynglŷn â chyflogau, byddwn yn parhau i wneud cynnydd ar draws y tair cenedl gyda Chyngor Staff y GIG i gytuno ar welliannau i'r strwythur cyflog Agenda ar gyfer Newid, a gweithredu'r gwelliannau hynny.
Bydd y rhain yn adeiladu ar y trafodaethau adeiladol hyd yn hyn gydag undebau ynghylch mandad a ariennir dros sawl blwyddyn ar gyfer diwygiadau strwythurol i Agenda ar gyfer Newid yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Mae ein blaenoriaethau ar gyfer diwygio strwythurol yn cynnwys gwella cyflogau ar gyfer staff ar y cyflogau isaf a chyflogau ar gyfer graddedigion. Ar ôl cytuno arnynt, bydd y diwygiadau hyn yn effeithiol o fis Ebrill 2026 ymlaen ac wedi'u hôl-ddyddio i'r dyddiad hwnnw.
Hoffwn ddiolch i holl staff y GIG yng Nghymru am eu hymroddiad parhaus a'u gwaith diflino. Mae eich ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau a gofal arbennig yn cael ei werthfawrogi'n fawr.
