Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mawrth 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Ionawr 2013, sefydlodd fy rhagflaenydd grŵp llywio annibynnol i ystyried dyfodol cyfrifiadureg a TGCh mewn ysgolion yng Nghymru. Ymhlith aelodau'r grŵp, roedd cynrychiolwyr o amrywiol randdeiliaid allweddol. Fe'i cadeiriwyd gan Stuart Arthur o Box UK, Tom Crick o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd a Janet Hayward o Ysgol Gynradd Tregatwg. Cafodd y grŵp orchwyl i lunio adroddiad yn amlinellu ei argymhellion ar gyfer y ffordd ymlaen. Ymhlith y themâu a gafodd eu hystyried yn yr adroddiad, roedd:

  • ‘Mae angen i 'TGCh' mewn ysgolion gael ei hailfrandio a'i hailwampio ac mae angen sicrhau ei bod yn berthnasol i'r presennol ac i'r dyfodol.
  • Man cychwyn yn unig yw llythrennedd digidol - mae angen addysgu dysgwyr i greu yn ogystal â defnyddio.
  • Dylid cyflwyno cyfrifiadureg yn yr ysgol gynradd a'i datblygu yn holl gyfnodau'r cwricwlwm er mwyn i ddysgwyr fedru symud ymlaen i ddilyn gyrfa yn y sector.
  • Dylai sgiliau, megis datrys problemau mewn modd creadigol, fod yn rhan o'r cwricwlwm.
  • Mae angen mynd ati, mewn partneriaeth ag ysgolion, Addysg Uwch a'r diwydiant, i ddatblygu cymwysterau diwygiedig.

Roedd adroddiad y Grŵp Llywio TGCh (dolen allanol), a gyhoeddwyd ym mis Hydref, yn gofyn rhai cwestiynau pwysig iawn ac yn ymchwilio i themâu yr ymrwymais i’w hystyried yn ystod cyfnod nesaf ein hadolygiad o'r cwricwlwm a threfniadau asesu yng Nghymru. Ar 12 Mawrth, cyhoeddais fy mod wedi penodi'r Athro Graham Donaldson i ddatblygu'r gwaith hwn fel cadeirydd adolygiad annibynnol pellgyrhaeddol. Rwy'n siŵr y bydd adroddiad y grŵp yn hynod werthfawr i'w waith wrth iddo dynnu argymhellion ynghyd a fydd wedi’u cynllunio i gefnogi gwaith i ddarparu Cwricwlwm i Gymru.

Cyhoeddais fy ymateb dros dro i adroddiad y Grŵp Llywio TGCh (dolen allanol) heddiw a
hoffwn ddiolch unwaith yn rhagor i Janet, Stuart, Tom, ac aelodau'r grŵp am eu holl waith i lunio'r adroddiad a'i argymhellion. Hoffwn ddiolch hefyd i bawb a fu'n gweithio gyda hwy, a gyfrannodd at eu gwaith ac i'r rheini a ymatebodd i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd.