Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cafodd Comisiwn y Gyfraith ar gyfer Cymru a Lloegr ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad manwl o'r fframwaith deddfwriaethol sy’n ymwneud â diogelwch tomenni glo yng Nghymru. Daeth yr adolygiad i ben ar 24 Mawrth 2022 drwy gyhoeddi ei adroddiad ‘Rheoleiddio Diogelwch Tomennydd Glo yng Nghymru’ er mwyn i Lywodraeth Cymru ei ystyried. Cafodd yr adroddiad terfynol hefyd ei osod gerbron Senedd Cymru a'i gyhoeddi ar wefan Comisiwn y Gyfraith.  

Yn unol â'r protocol a gytunwyd rhwng Gweinidogion Cymru a Chomisiwn y Gyfraith ar 2 Gorffennaf 2015, mae ymateb interim y Llywodraeth ar yr Adroddiad i'w ddarparu i Gomisiwn y Gyfraith o fewn 6 mis i'w gyflwyno a'i gyhoeddi. Mae ymateb manylach i'w ddarparu o fewn 12 mis.

Heddiw, mae'n bleser gennyf gyhoeddi ymateb interim Llywodraeth Cymru i'r Adroddiad. Yn benodol, mae'n nodi ymateb y Llywodraeth i farn Comisiwn y Gyfraith ar sut mae'r gyfundrefn bresennol yn ymwneud yn bennaf â diwydiant gweithredol ac nid yw'n briodol heddiw bellach oherwydd:

    • nid oes unrhyw ofynion mewn deddfwriaeth i arfer cysondeb wrth fynd ati i gategoreiddio, nid oes unrhyw ofynion o ran y lefelau gofynnol o arbenigedd nac o ran arfer cysondeb wrth gynnal archwiliadau;
    • mae’r pwerau sydd ar gael i awdurdod lleol ymyrryd yn gyfyngedig, er enghraifft, dim ond pan fo'n ystyried bod ansefydlogrwydd;
    • nid oes gan yr awdurdodau lleol unrhyw bŵer i oruchwylio gwaith cynnal a chadw rheolaidd ar domenni ac nid oes ganddynt unrhyw bwerau i orfodi perchennog tomen i ymgymryd â hyd yn oed y gofynion cynnal a chadw sylfaenol er mwyn sicrhau bod tomen yn ddiogel;
    • nid yw archwiliadau a gwaith cynnal a chadw ar domenni glo nas defnyddir yn cael eu goruchwylio na’u monitro mewn unrhyw ffordd.

Gellir gweld yr ymateb interim yma:

https://llyw.cymru/ymateb-interim-ir-adroddiad-ar-reoleiddio-diogelwch-tomenni-glo-yng-nghymru

Rydym yn parhau i ystyried y 36 o argymhellion a nodwyd yn yr Adroddiad, a fydd yn ganolbwynt i'n hymateb manwl i'w gyhoeddi ym mis Mawrth 2023.