Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Rwy’n falch o gyhoeddi fy mod wedi derbyn argymhellion y Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion ar brif gyflogau ar gyfer 2026-27. Mae hyn yn golygu y bydd pawb sy'n cael eu cyflogi gan y GIG ar delerau ac amodau meddygol a deintyddol yn cael dyfarniad cyflog, a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2026.
Rwyf wedi derbyn argymhelliad y Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion ar gyfer cynnydd cyfunol o 3.5% yn effeithiol o 1 Ebrill ymlaen ar gyfer y grwpiau a ganlyn:
- Meddygon ymgynghorol
- Meddygon a deintyddion ag arbenigedd, meddygon a deintyddion arbenigol a meddygon a deintyddion arbenigol cyswllt (SAS)
- Meddygon a deintyddion preswyl
- Meddygon a gyflogir yn lleol
Rwyf hefyd wedi derbyn argymhelliad y Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion i roi cynnydd cyfunol o 3.75% yn effeithiol o 1 Ebrill i dalu am ddeintyddion cyflogedig sy'n gweithio mewn Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol a'r Gwasanaeth Deintyddol Cyhoeddus.
Rwyf hefyd yn derbyn mewn egwyddor argymhelliad y Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion i roi codiad cyflog o 3.5% ar gyfer meddygon teulu ar gontract, a chynnydd o 3.75% i elfen gyflog y contractau deintyddol. Fodd bynnag, mae rhoi’r codiadau cyflog a argymhellwyd ar waith ar gyfer meddygon teulu a deintyddion dan gontract, a sut y caiff hyn ei ystyried ochr yn ochr â newidiadau cyffredinol i’r contract, yn benderfyniad i’r llywodraeth nesaf.
Er nad yw o fewn cwmpas argymhellion y Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion, rwyf wedi ymrwymo i sicrhau codiadau cyflog teg a chymesur ar draws gofal sylfaenol yn ei gyfanrwydd, gan gynnwys fferyllfeydd cymunedol, optometreg y GIG a’r holl staff sy’n gweithio mewn timau practisau cyffredinol a thimau deintyddol y GIG. Maen nhw’n chwarae rhan hanfodol o ran darparu gofal o ansawdd uchel i bobl Cymru, ac mae’n iawn ein bod ni’n cydnabod hyn.
Mae'r Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion wedi gwneud nifer o argymhellion ychwanegol nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â phrif gyflogau. Bydd y rhain yn cael eu hystyried ar wahân ac ar y cyd â phartneriaid er mwyn peidio ag oedi'r cyhoeddiad hwn.
Hoffwn ddiolch i holl staff y GIG am eu hymroddiad parhaus a’u gwaith diflino. Mae eich ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau a gofal arbennig yn cael ei werthfawrogi'n fawr.
