Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Tachwedd 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae gweithlu'r GIG sydd wedi'u haddysgu a'u hyfforddi'n dda yn hanfodol er mwyn darparu gofal o safon uchel i bobl ledled Cymru a gwella safonau yn ein gwasanaeth iechyd.

Ar 14 Ebrill, cyhoeddwyd yr adolygiad o Fuddsoddi mewn Addysg i Weithwyr Iechyd Proffesiynol (yr adolygiad), o dan arweiniad Mel Evans, OBE. Fe'i comisiynwyd gan Lywodraeth Cymru er mwyn ystyried y buddsoddiad mewn addysg i weithwyr iechyd proffesiynol ac a yw'n cyflawni'r canlyniadau cywir i Gymru ac i'n gwasanaeth iechyd.

Roedd yr adolygiad yn sbardun i drafod materion allweddol sy'n ymwneud ag addysgu a hyfforddi'r gweithlu gofal iechyd. Gofynnais i'r panel adolygu ailgynnull eto yn yr haf i ystyried dros 70 o gyfraniadau a ddaeth i law ar ôl i'r adolygiad gael ei gyhoeddi. Mae'r gwaith hwn bellach wedi’i gwblhau.


Cyflwynodd y panel dri argymhelliad allweddol:

  • Yr angen am weledigaeth strategol ddiwygiedig i GIG Cymru ar gyfer 2015-30, ar sail gofal iechyd darbodus, a ddylai fod yn sylfaen ar gyfer strategaeth y gweithlu;
  • Datblygu diwylliant dysgu GIG Cymru;
  • Creu un corff ar gyfer cynllunio'r gweithlu, datblygu a chomisiynu addysg a hyfforddiant.


Law yn Llaw at Iechyd oedd ein strategaeth gyffredinol, ond mae'n rhaid i ni adeiladu ar y gwaith hwn bellach, gan gynnwys yr egwyddorion gofal iechyd darbodus a darparu ar gyfer cenhedlaeth sydd mor gyfarwydd â thechnoleg, lle mai integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yw'r norm yn hytrach na'r eithriad a lle mai gofal yn y gymuned yw ysbyty'r dyfodol.

Tynnodd yr adolygiad sylw at y ffaith fod y rhan fwyaf o weithlu GIG Cymru yn y dyfodol eisoes yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd heddiw. Os ydym ni am gael gofal iechyd o safon uchel, mae'n rhaid i ni fuddsoddi yn ein gweithlu - mae'n rhaid i ni ddarparu cyfleoedd i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ddatblygu'r sgiliau, y wybodaeth a'r profiad sydd eu hangen arnynt, wrth iddynt ddarparu gofal iechyd. Mae'n rhaid i'r GIG fod yn sefydliad dysgu, yn ogystal â gwasanaeth iechyd.

Mae dylunio a datblygu'r gweithlu ymhlith rhai o'n cyfryngau mwyaf grymus sydd gennym er mwyn creu system gofal iechyd darbodus. Bydd gofyn bod yn fwy hyblyg o ran addysg a hyfforddiant, gydag opsiynau i gamu i mewn ac allan ar draws amrywiaeth eang o raglenni. Yn ystod y flwyddyn nesaf, byddwn yn gweithio gyda'r sector addysg i sefydlu mwy o hyblygrwydd yn y rhaglenni addysg a hyfforddiant sydd eisoes yn bodoli.

Mae'r adolygiad yn canolbwyntio ar bwysigrwydd cael y diwylliant dysgu priodol a gwneud i bobl ifanc fod yn fwy ymwybodol o'r ystod lawn o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael yng Nghymru. Mae hefyd yn tynnu sylw at yr angen i gynyddu faint o brofiad gwaith sydd ar gael i'r rheini sydd â diddordeb mewn ymuno â'r sector gofal.

Mae yna rai cynlluniau rhagorol mewn ardaloedd ledled Cymru, ond er mwyn datblygu hyn ymhellach, mae'n rhaid i ni nodi'r ystod bresennol o yrfaoedd; ehangu mentrau a digwyddiadau mynediad ledled Cymru a sefydlu dull i hyrwyddo'r cyfleoedd hyn.

Mae dros 10,000 o fyfyrwyr a hyfforddeion yn elwa o raglenni sy'n cael eu hariannu'n ganolog yng Nghymru. Byddwn yn ystyried sut gallant gyfrannu at y diwylliant dysgu hwn fel rhan o'u rhaglenni addysg a hyfforddiant. Bydd y gwaith hwn yn dod at ei gilydd mewn cynhadledd genedlaethol ar ehangu mynediad at yrfaoedd ym maes iechyd, a gynhelir gan Lywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf.

Bydd yr argymhelliad allweddol olaf - un corff sy'n dwyn ynghyd swyddogaethau cynllunio'r gweithlu'n strategol, datblygu a chomisiynu addysg a hyfforddiant -  yn helpu i fynd i'r afael â'r anawsterau y mae nifer o unigolion a sefydliadau'n cytuno sy'n bodoli o fewn y trefniadau hyfforddiant ac addysg gofal iechyd presennol.

Rwy'n credu bod angen newid, gydag un ffrwd ariannu, hyblyg, heb unrhyw ffiniau mympwyol a hanesyddol, yn sylfaen i hynny. Bydd un set newydd o drefniadau yn sicrhau nad yw penderfyniadau ynghylch buddsoddi a chynllunio proffesiynau unigol yn cael eu gwneud ar eu pen eu hunain - mae cryn gyd-ddibyniaeth ar draws y proffesiynau. Mae'n rhaid i benderfyniadau am addysg a hyfforddiant fod yn seiliedig ar anghenion cleifion a phoblogaethau lleol a dull holistaidd tuag at y gweithlu.

Serch hynny, os ydym ni am symud tuag at set newydd o drefniadau, bydd angen model gweithredu clir i gyflawni yn erbyn blaenoriaethau Cymru. Fel y cydnabuwyd gan y panel adolygu, mae angen gwneud rhagor o waith i bennu'r model hwn yn iawn, gan gynnwys ei gostau a'i fanteision, cyn gallu gwneud penderfyniad terfynol ynghylch amserlenni ar gyfer gweithredu.

Unigolyn fydd yn arwain y gwaith hwn, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Bydd grŵp cyfeirio rhanddeiliaid yn cael ei sefydlu i dywys y gwaith hwn a bod yn gyfaill beirniadol wrth i'r gwaith symud ymlaen. Rwyf am i'r gwaith hwn gael ei gwblhau o fewn chwe mis ac rwy'n disgwyl i sefydliadau weithio gyda'i gilydd i sefydlu'r trefniadau gorau posib ar gyfer Cymru.Yn y cyfamser, ac wrth symud y gwaith hwn yn ei flaen, rwy'n disgwyl y bydd yr holl sefydliadau sy'n ymwneud â chynllunio'r gweithlu, cynllun y sefydliad a chomisiynu addysg yn gweithio'n fwy strategol ac ar y cyd. Rwyf hefyd am weld cynnydd sylweddol o ran sicrhau mwy o dryloywder ac atebolrwydd dros y flwyddyn nesaf, gan gynnwys yng nghyswllt lefel a natur buddsoddiad sefydliadau unigol y GIG ar hyd a lled Cymru.

Gofynnwyd i'r adolygiad ystyried a fyddai cynlluniau seiliedig ar gymhelliant yn helpu i recriwtio a chadw gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i Gymru ac yng Nghymru. Daeth yr adolygiad i'r casgliad mai'r prif gyfrwng dros ddenu gweithwyr proffesiynol i'r GIG yng Nghymru yw'r profiad gweithio-dysgu a'r amgylcheddau lle byddant yn gweithio.

Serch hynny, mae rhai arbenigeddau a meysydd lle mae Cymru - yn ogystal â gweddill y DU - yn cael anawsterau recriwtio. Roedd y panel yn ystyried bod dull gweithredu lle byddai cyfnod o wasanaeth yn gysylltiedig ag ariannu rhaglenni hyfforddi, yn gam ymlaen i'w groesawu.

Yn hyn o beth, byddwn yn aildrefnu ein buddsoddiad mewn addysg feddygol er mwyn darparu mwy o gyfran i'r rheini sy'n ymrwymo eu hunain i'r GIG yng Nghymru. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi yn dilyn adolygiad Syr Ian Diamond o drefniadau cyllid myfyrwyr yng Nghymru.

Mae'r datganiad hwn wedi canolbwyntio ar argymhellion allweddol yr adolygiad. Mae'r adolygiad yn cyflwyno llawer mwy, gan gynnwys yr angen i fabwysiadu dull gweithredu amlddisgyblaethol ar gyfer hyfforddi a rhoi mwy o sylw i'r gofal a ddarperir yn y gymuned fel rhan o'r hyfforddiant hwnnw.

Mae'r argymhellion hyn eisoes yn sylfaen ar gyfer ein cynllun ar gyfer y gweithlu gofal sylfaenol, a fydd yn cael ei ailgyhoeddi yr wythnos hon, yn dilyn cyfnod o ymgysylltu â rhanddeiliaid. Mae hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd ailystyried dulliau ariannu addysg yng Nghymru ar hyn o bryd, gan gynnwys model ariannu cyfredol SIFT a chymhellion posib.

Hoffwn ddiolch i aelodau'r panel adolygu – Mel Evans, yr Athro Ceri Phillips, Dick Roberts a Dr David Salter – am eu gwaith caled. Mae'r adolygiad wedi bod yn gyfrwng i drin a thrafod materion pwysig sy'n ymwneud ag addysg a hyfforddiant gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru.

Mae llawer o gefnogaeth dros newid - mae'r syniadau ar gyfer newid wedi'u trafod yn helaeth; nawr mae'n rhaid eu llunio a'u gwerthuso'n briodol, er mwyn sicrhau bod y trefniadau gorau posib ar waith i addysgu a hyfforddi gweithlu'r dyfodol ar gyfer ein GIG.