Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones, Prif Weinidog i Gymru a Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Rhagfyr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rhaglen dysgu oedolion yn y gymuned yw Cymraeg i Oedolion (CiO).  Nod rhaglen Cymraeg i Oedolion yw darparu cyfleoedd i oedolion ddysgu Cymraeg yn eu cymunedau lleol, yn eu gweithleoedd neu gyda'u teuluoedd, i'w galluogi i ddefnyddio'r iaith a chyfrannu at nod y Llywodraeth o weld yr iaith yn ffynnu. Mae pwysigrwydd parhaus Cymraeg i Oedolion o ran cynnig cyfleoedd i oedolion ddysgu Cymraeg yn cael ei bwysleisio yn Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg y Llywodraeth. Mae'r rhaglen hefyd yn bwysig yng nghyd-destun Strategaeth y Gymraeg y Llywodraeth, Iaith Fyw:Iaith Byw, yn enwedig yn sgil canlyniadau Cyfrifiad 2011.

Ar 9 Gorffennaf 2012, cyhoeddwyd adolygiad o’r rhaglen Cymraeg i Oedolion. Gofynnwyd i’r Grŵp annibynnol, a gadeiriwyd gan Dr Haydn Edwards, i adolygu darpariaeth Cymraeg i Oedolion o ran cyrhaeddiad dysgwyr, cynnwys y cwricwlwm, strwythurau darparu a gwerth am arian.  Cyhoeddwyd adroddiad y Grŵp Adolygu ‘Codi golygon: adolygiad o Gymraeg i Oedolion’ ar 15 Gorffennaf 2013 a gellir ei weld ar lein.

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu'r adroddiad a'i argymhellion. Mae'r rhan fwyaf o’r argymhellion a geir yn adroddiad y Grŵp yn cyd-fynd yn agos â chyfeiriad presennol ein polisïau fel y'i hamlinellwyd yn y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg a Strategaeth y Gymraeg. Rydym yn falch o fedru derbyn y mwyafrif ohonynt. Mae angen ystyried rhai ymhellach, ond rydym yn cefnogi bwriad y camau gweithredu a gynigir. Gellir gweld ymateb manwl i argymhellion y Grŵp Adolygu ar lein.

Bydd Llywodraeth Cymru nawr yn symud ymlaen i wireddu’r argymhellion mewn partneriaeth gyda’r darparwyr a rhanddeiliaid allweddol. Rhagwelir na fydd yr Endid Cenedlaethol yn cael ei sefydlu tan fis Medi 2015 ar y cynharaf. Fodd bynnag, yn y cyfamser bydd gwaith yn mynd rhagddo i:

  • leihau nifer y darparwyr o’r 27 presennol i rhwng 10 a 14;
  • ail-ystyried y model cyllido craidd ar gyfer darpariaeth Cymraeg i Oedolion i gyd-fynd â’r adolygiad o’r system cynllunio ac ariannu ôl-16;
  • gwneud newidiadau i’r prosesau asesu ac achredu;
  • ail-edrych ar y cwricwlwm i sicrhau ei fod yn addas i’r diben; ac 
  • ymgymryd ag elfennau eraill o’r gwaith datblygu sy’n cynnwys strategaeth farchnata genedlaethol, y defnydd o e-ddysgu, darpariaeth Cymraeg yn y Gweithle a gweithgareddau dysgu anffurfiol.

Yn ogystal â chyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i’r adolygiad Cymraeg i Oedolion, rydym heddiw hefyd yn cyhoeddi dyraniadau cyllido dangosol ar gyfer y rhaglen Cymraeg i Oedolion ar gyfer 2014-15.

Yng ngoleuni’r setliad ariannol presennol, byddai’n anodd amddiffyn y rhaglen Cymraeg i Oedolion rhag unrhyw doriadau.  Felly, awgrymir y bydd toriad dangosol o 8% ar gyfer y rhaglen Cymraeg i Oedolion.  Gan bod y rhaglen Cymraeg i Oedolion yn allweddol i gynyddu nifer yr oedolion yng Nghymru sy’n gallu siarad a defnyddio’r Gymraeg, a gan bod yr adolygiad o’r rhaglen Cymraeg i Oedolion wedi’i gyhoeddi gan gynnwys nifer o argymhellion i wella’r ddarpariaeth, rydym wedi cymryd camau i gadw’r toriadau i isafswm.

Mae darpariaeth barhaus y rhaglen Cymraeg i Oedolion yn ymrwymiad allweddol gan Lywodraeth Cymru ac edrychwn ymlaen i wireddu argymhellion y Grŵp Adolygu er mwyn datblygu’r rhaglen ymhellach.