Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wythnos diwethaf cyhoeddais ddatganiad yn egluro sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Iechyd Cyhoeddus Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i sicrhau bod profion ar gael lle mae'r angen mwyaf, yn enwedig wrth ddelio â galw clinigol, ymateb i achosion lluosog a brigiadau o achosion, diogelu ein pobl fwyaf agored i niwed mewn cartrefi gofal a sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yn gallu parhau.

Rydym yn gwybod na fydd anawsterau capasiti o fewn rhwydwaith Labordai Goleudy Llywodraeth y DU yn cael eu datrys am sawl wythnos ac rydym yn parhau i weithredu mesurau i leihau’r effaith ar brofion yng Nghymru.

Gan adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi’i wneud i ychwanegu at gapasiti’r Labordai Goleudy drwy labordai a weithredir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, rydym nawr yn gallu prosesu 28,000 o brofion ychwanegol yr wythnos, ac mae capasiti pellach ar gael i reoli brigiadau o achosion ledled Cymru.

Rydym yn parhau i ddefnyddio Unedau Profi Symudol a weithredir gan Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i gynorthwyo mewn mannau lle ceir achosion lluosog a  brigiadau o achosion. Mae pum Uned Profi Symudol eisoes ar waith yng Nghaerffili a Rhondda Cynon Taf. Ar ben y rhain, gyda chymorth cydweithwyr yn GIG Cymru a’r awdurdodau lleol, bydd Uned Profi Symudol ychwanegol, sydd â chapasiti ar gyfer 300 o brofion y dydd, yn darparu capasiti profi ychwanegol yn rhanbarth Cwm Taf Morgannwg.

Mae’r materion sy’n effeithio ar y Labordai Goleudy o ganlyniad rhannol i gynnydd sylweddol yn y galw. Rydym yn prosesu nifer sylweddol yn fwy o brofion bob dydd nag ar unrhyw adeg arall yn ystod yr argyfwng hwn gan brosesu bron i 10,000 o brofion y dydd ar gyfer dinasyddion Cymru. Mae’n edrych yn debyg y bydd y lefel hon o brofion yn parhau.

I’n helpu ni, mae’n bwysig nad yw unigolion ond yn archebu prawf os oes ganddynt y symptomau canlynol:

  • tymheredd uchel
  • peswch cyson newydd
  • colli eich synnwyr o arogl neu flas

Dylech hunanynysu os oes gennych unrhyw un o’r symptomau hyn, neu os bydd swyddog olrhain cysylltiadau yn gofyn ichi wneud hynny.

Drwy ddilyn y cyngor hwn, byddwn yn gallu sicrhau bod yr adnoddau sydd ar gael inni yn cael eu defnyddio mor effeithiol â phosibl.