Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, cyflwynodd y Canghellor gasgliad Adolygiad Gwariant y DU 2025, sy'n amlinellu cynlluniau Llywodraeth y DU i fuddsoddi yn niogelwch, iechyd ac economi'r DU. Mae'r Datganiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y goblygiadau uniongyrchol i Gymru.

Nododd y Canghellor gynlluniau i greu a chefnogi swyddi a ffyniant; gwella sefyllfa ariannol y DU; ac adeiladu ar y sylfeini a osodwyd yng Nghyllideb yr Hydref y llynedd.

Mae ymagwedd Llywodraeth y DU at roi hwb i gyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a seilwaith wedi'i chymeradwyo gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a'r Gronfa Ariannol Ryngwladol. Cofnododd y DU y twf economaidd uchaf ymhlith gwledydd y G7 yn chwarter cyntaf y flwyddyn.

Mae'r Adolygiad Gwariant yn pennu cyllidebau adnoddau ar gyfer y tair blynedd nesaf hyd at 2028-29 a chyllidebau cyfalaf ar gyfer y pedair blynedd nesaf hyd at 2029-30. Bydd Llywodraeth Cymru yn cael swm ychwanegol o £5bn mewn cyllid adnoddau a chyfalaf dros gyfnod yr adolygiad gwariant, gan gynnwys £1bn yn ychwanegol yn 2026-27, £1.6bn yn 2027-28 a £2.4bn yn 2028-29. Yn ogystal, byddwn yn cael £4m yn ychwanegol yn y flwyddyn ariannol bresennol. Mae hyn i gyd yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn cael swm sylweddol fwy o gyllid i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus a buddsoddi mewn seilwaith nag yr oedd Llywodraeth flaenorol y DU wedi ymrwymo iddo dros gyfnod yr adolygiad gwariant blaenorol. 

Rwy'n falch bod Llywodraeth y DU wedi parhau i roi swm cyfatebol i'n buddsoddiad ninnau ar gyfer diogelwch tomenni glo, gan ddarparu £118m yn ychwanegol dros 3 blynedd, ar ben y £25m a gyhoeddwyd yng Nghyllideb y DU y llynedd. Ynghyd â'r buddsoddiad o dros £100m a wnaed gan Lywodraeth Cymru hyd yn hyn, mae ein hymrwymiad ar y cyd rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i fuddsoddi yn niogelwch tomenni glo bellach yn swm o dros £220m.

Rydym yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i fuddsoddi £445m mewn rheilffyrdd yng Nghymru. Caiff £350m ei ddarparu dros gyfnod yr adolygiad gwariant, gan gynnwys £302m i ddechrau cyflawni'r llif o flaenoriaethau ym maes gwella'r rheilffyrdd a nodwyd gan Fwrdd Rheilffyrdd Cymru a £48m ar gyfer gwelliannau i Linellau Craidd y Cymoedd. Bydd Cymru yn cael £95m hefyd drwy'r Strategaeth Seilwaith 10 mlynedd. Mae hyn yn nodi man cychwyn mynd ati o ddifrif i gyflawni argymhellion Burns yn y Gogledd a'r De, gan alluogi prosiectau i symud ymlaen. Mae hyn yn cynnwys cynyddu capasiti, gwelliannau seilwaith i hwyluso rhagor o wasanaethau, a gorsafoedd newydd ac uwchraddio cyffyrdd. Mae'n bwysig nodi bod hyn yn dechrau mynd i'r afael â'r tanwariant hanesyddol o ran buddsoddi mewn rheilffyrdd yng Nghymru.

Byddwn bellach yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i edrych ar fanylion yr Adolygiad Gwariant cyn darparu rhagor o wybodaeth am y goblygiadau i Gymru. Byddwn wedyn yn ystyried y goblygiadau i'n cyllideb, a fydd yn canolbwyntio ar flaenoriaethau Cymru a sicrhau bod gwasanaethau yn parhau i gyflawni dros bobl a busnesau ledled Cymru. Byddaf yn gwneud datganiad llafar yn nodi ein dull o fynd ati o ran Cyllideb nesaf Llywodraeth Cymru ar 1 Gorffennaf.