Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n croesawu adroddiad blynyddol 2019-20 Comisiynydd Plant Cymru, sy’n cynnwys 18 o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru.

Heddiw, rwy’n cyhoeddi ein hymateb cynhwysfawr i bob un o’r argymhellion hyn, ynghyd â gwybodaeth am y camau rydym eisoes wedi eu cymryd neu’n bwriadu eu cymryd. Rwy’n falch iawn y gallwn dderbyn neu dderbyn mewn egwyddor bob un o’r argymhellion, namyn un.

Mae’r ymateb hwn yn dangos y pwys a roddwn ar hawliau plant yng Nghymru, ac mae’n adeiladu ar ein hanes balch o hyrwyddo hawliau plant a’n hymrwymiad i sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd, ac y gall wireddu ei botensial yn llawn.

Rwy’n ddiolchgar i’r comisiynydd am ei gwaith yn cynrychioli llais plant a phobl ifanc. Hoffwn ddiolch iddi am ei gwaith ar ran plant a phobl ifanc yn ystod y pandemig, yn enwedig arolwg Coronafeirws a Fi, a gynhaliodd mewn partneriaeth â’r Senedd Ieuenctid, Plant yng Nghymru a Llywodraeth Cymru. 

Adroddiad Blynyddol 2019-20 Comisiynydd Plant Cymru

Cyfrifon Blynyddol 2019-20 Comisiynydd Plant Cymru

https://llyw.cymru/adroddiad-blynyddol-comisiynydd-plant-cymru-2019-i-2020-ymateb-llywodraeth-cymru