Neidio i'r prif gynnwy

Jeff Cuthbert, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Tachwedd 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mawrth 19 Tachwedd, dywedais wrth yr aelodau fy mod yn bwriadu ymateb ar ran Llywodraeth Cymru i Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2012-13.

Mae'n hymateb yn ymdrin yn fanwl â'r materion unigol a godwyd gan y Comisiynydd yn ei adroddiad, ac yn adlewyrchiad clir o'r cynnydd sylweddol a wnaed yng Nghymru i osod hawliau plant wrth galon ein polisi a'n deddfwriaeth.  Ni oedd y wlad gyntaf yn y DU wrth gwrs i ymgorffori CCUHP yn y gyfraith, ac mae'n amlwg o'i adroddiad bod y Comisiynydd yn cydnabod ein hymrwymiad at hawliau plant.

Ynghyd â'n hymateb, rydym hefyd yn cyhoeddi amcangyfrif o gyllideb y Comisiynydd.  Mae Paragraff 6(2) Atodlen 2 Deddf Safonau Gofal 2000 yn nodi bod rhaid i'r Comisiynydd baratoi amcangyfrif incwm a chostau a'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru, a bod rhaid i Lywodraeth Cymru gyflwyno'r amcangyfrif hwnnw gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.  Cyflwynwyd yr amcangyfrif i'r Swyddfa Gyflwyno heddiw.

Hoffwn ddiolch i'r Comisiynydd am ei adroddiad. Rwy'n siŵr y bydd ein hymateb yn dangos iddo ein bod yn cymryd ei adroddiad o ddifrif, ac y bydd ganddo hyder yn ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i weithredu'r CCUHP.      
Atodir copi o ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Comisiynydd ac amcangyfrif o gyllideb y Comisiynydd gyda'r Datganiad hwn.