Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Tachwedd 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 4 Tachwedd 2015, cyhoeddodd Comisiynydd Plant Cymru ei Hadroddiad Blynyddol  sy'n arolwg  o'r gwaith a wnaed gan ei swyddfa rhwng 1 Ebrill 2014 a 31 Mawrth 2015.  Mae'n cyfeirio at waith allweddol sydd i'w wneud yn y flwyddyn i ddod ac yn nodi sawl maes lle mae'n galw ar y Llywodraeth i weithredu ynghylch materion allweddol sy'n cael effaith ar blant a phobl ifanc yng Nghymru.

Gwnaethom drafod yr Adroddiad hwn yn y cyfarfod llawn ar 17 Tachwedd, pan ddywedais wrth yr Aelodau fy mod yn bwriadu ymateb yn llawn ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'r Comisiynydd wedi codi materion sy'n ymwneud â chyfrifoldebau nifer o weinidogion. Maen nhw i gyd wedi cyfrannu at yr ymateb terfynol hwn rwy'n ei gyhoeddi heddiw.

Rwy'n falch o'r cynnydd rydym eisoes wedi'i wneud o ran y mwyafrif llethol o'r materion a grybwyllwyd.  Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddais ein Rhaglen ar gyfer Plant a Phobl Ifanc sy'n nodi'r gwaith rydym wedi'i wneud yn y Rhaglen Lywodraethu i gryfhau hawliau plant ac i wneud Cymru'n lle gwych i fyw iddyn nhw. Mae rhagor i'w wneud bob amser. Fodd bynnag, nid  yw ein hymrwymiad i blant a'u hawliau wedi simsanu erioed.

Rwy'n diolch i'r Comisiynydd am ei hadroddiad.  Rwy'n hyderus y bydd ein hymateb, sydd ar gael drwy glicio ar y ddolen isod,  yn rhoi sicrwydd iddi o'n hymrwymiad i'n dinasyddion iau.