Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip
Rwy'n croesawu adroddiad blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2022-23, sy'n cynnwys 30 o argymhellion ar draws 17 o feysydd polisi Llywodraeth Cymru.
Heddiw, rwy'n cyhoeddi ein hymateb i'r argymhellion.
Mae'r adroddiad blynyddol yn adlewyrchu'r camau a gymerwyd gan y Comisiynydd i ddiogelu a hyrwyddo hawliau plant yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac yn tynnu sylw at yr ystod o waith rydym ni yn Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi ein plant a’n pobl ifanc.
Trafodwyd yr adroddiad yn y Cyfarfod Llawn ar 17 Hydref a hoffwn ddiolch i Aelodau'r Senedd am eu cyfraniadau ystyriol i'r ddadl. Rydym wedi'u hystyried wrth lunio'r ymateb.
Mae'r ymateb hwn yn tanlinellu ein hymrwymiad parhaus i ddiogelu hawliau plant yng Nghymru. Mae rôl annibynnol y Comisiynydd yn hanfodol o ran dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, a byddwn yn parhau i weithio gyda hi er budd pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru.