Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Hydref 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 14 Gorffennaf, cyhoeddais yn llawn a heb ei olygu, adroddiad annibynnol Dr Margaret Flynn i achosion o esgeulustod a cham-drin yn ne-ddwyrain Cymru a ddaeth yn adnabyddus fel Ymgyrch Jasmine, sef enw ymchwiliad cysylltiedig gan yr heddlu. Roedd adroddiad Dr Flynn yn manylu mewn cronoleg a dadansoddiad cynhwysfawr y drasiedi a ddigwyddodd i dros gant o ddioddefwyr a'u teuluoedd.  

Bydd Aelodau'n cofio yn y cyfarfod llawn ar y diwrnod hwnnw, sut y daeth pob ochr o’r Cynulliad ynghyd i gydymdeimlo â'r teuluoedd dan sylw, ac i ymrwymo i weithio gyda'i gilydd i wneud yn siŵr na fyddai’r digwyddiadau erchyll hyn yn digwydd eto yn y dyfodol. 

Roedd adroddiad Dr Flynn yn cynnwys 12 o argymhellion pwysig. Wrth wneud Datganiad Llafar ar y diwrnod pan gyhoeddwyd yr adroddiad, ymrwymais i ddychwelyd at aelodau yn y sesiwn hon i roi’r newyddion diweddaraf iddynt am ymateb Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, gan fod mwyafrif yr argymhellion yn ymwneud â sefydliadau y tu allan i gylch gwaith Llywodraeth Cymru, dywedais wrth aelodau ar y diwrnod hwnnw hefyd fy mod wedi ysgrifennu at yr amrywiol bartïon, i ofyn am eu hymateb.

Felly, gallaf heddiw amlinellu ymateb Llywodraeth Cymru i'r pedwar argymhelliad a gyfeiriwyd ati neu at y GIG yng Nghymru, ynghyd â'r rheini gan gyrff perthnasol eraill. Rwyf wedi cyhoeddi'r ymatebion hyn.


Argymhelliad 1

1. y sector cartrefi gofal preswyl a nyrsio:

(i) yn cael ei wneud yn sector o bwys strategol cenedlaethol i Gymru, gan gydnabod bod buddsoddiad isel yn y system gofal iechyd yn golygu costau uwch i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a bod hynny'n effeithio ar botensial economaidd drwy fethu hyrwyddo gweithlu modern a hyfforddedig

(ii) mabwysiadu polisïau clir i reoleiddio a galluogi ymyriad yn y 'farchnad' gofal cymdeithasol i wella ansawdd y gofal drwy fynd i'r afael yn uniongyrchol â materion fel cyflog ac amodau gwaith, lefelau staffio a gwybodaeth ac arbenigedd comisiynwyr gwasanaethau a ariennir yn gyhoeddus

(iii) sicrhau bod rheolwyr cartrefi gofal wedi eu cofrestru, ac yn aelodau o gorff proffesiynol sy'n pennu safonau proffesiynol, yn meddu ar bwerau disgyblu ac yn rhoi llais iddynt ar bolisi cenedlaethol, a

(iv) datblygu dangosyddion ansawdd credadwy i lywio cynllunio strategol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhelliad hwn.

Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno â Dr Flynn bod y sector gofal cymdeithasol yn sector o bwys cenedlaethol mawr. Mae hyn yn wir nid yn unig oherwydd ei bwysigrwydd ym mywydau nifer o bobl, ond oherwydd ei berthynas agos â gwasanaethau cyhoeddus eraill - iechyd yn amlwg, ond hefyd tai, hamdden ac amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus. 

Mae ein Bil Rheoleiddio ac Arolyguac Gofal Cymdeithasol (Cymru)  yn amlinellu pwerau newydd i Weinidogion Cymru lywio'r farchnad yn y ffordd a ddisgrifir gan Dr Flynn. Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd yn ymchwilio ar hyn o bryd i sut y mae pethau fel cyflog ac amodau yn effeithio ar ansawdd gwasanaethau yn y sector. 

Credaf fod sefydlu Gofal Cymdeithasol Cymru drwy'r Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) yn ddull pwerus i gyflawni argymhellion Dr Flynn mewn perthynas â rheolwyr. Bydd yn cadw cofrestr o reolwyr, rhoi llwybr clir iddynt ar gyfer datblygu gyrfa a chynnig fforwm iddynt drafod a chyfrannu at ddatblygu syniadau ar bob lefel.  

O ran dangosyddion ansawdd, mae'r Llywodraeth wedi nodi o'r dechrau gwasanaeth hwn ei hymrwymiad i roi dulliau effeithiol ar waith i fesur yr effaith y mae gwasanaethau yn ei chael ar fywydau pobl. Mae'r fframwaith canlyniadau cenedlaethol ar gyfer pobl sydd angen gofal a chymorth o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn nodi beth mae llesiant yn ei olygu i bobl sydd angen gofal a chymorth a sut y byddwn yn mesur a yw llesiant yn cael ei gyflawni. Bydd nifer o wasanaethau yn cefnogi pobl i gyflawni llesiant, ac mae hyn yn cynnwys y sector cartrefi gofal preswyl a nyrsio. Bydd y fframwaith canlyniadau yn darparu gwell tryloywder ar p'un a yw gwasanaethau gofal a chymorth yn gwella canlyniadau llesiant ar gyfer pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth yng Nghymru gan ddefnyddio dangosyddion cyson y mae modd eu cymharu. Bydd hyn yn dangos beth sydd angen ei wneud i wella llesiant pobl yn hytrach na chanolbwyntio ar y prosesau sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau cymdeithasol.


Argymhelliad 2

2. Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn sicrhau bod:
(i) arwyddocâd briwiau pwysedd dwfn yn cael ei ddyrchafu i gyflwr hysbysadwy
(ii) uwch-glinigwyr, gan gynnwys Cofrestryddion, Meddygon Teulu a Nyrsys Hyfywedd Meinwe, yn cymryd rôl arweiniol i atal briwiau pwysedd y gellir eu hosgoi ac i ddatblygu Cofrestrfa Glwyfau Genedlaethol, gyda chymorth y Ganolfan Arloesi ym maes Gwella Clwyfau
(iii) uwch-glinigwyr yn gyfrifol am hysbysu Iechyd Cyhoeddus Cymru am friwiau pwysedd dwfn a
(iv) lle mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cael ei hysbysu am fodolaeth briwiau pwysedd dwfn, bod proses lle mae'r wybodaeth honno yn cael ei chyfleu i Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru neu Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac awdurdodau comisiynu priodol yn ogystal â theuluoedd pobl


Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhelliad hwn.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno system monitro ac adrodd newydd i gofnodi a chyhoeddi achosion o niwed pwysedd y gellir ei osgoi mewn cartrefi gofal a chynyddu'r cymorth sydd ar gael i fynd i'r afael â methiannau yn y system.

Bydd rhaglen raddol o waith yn cael ei chynnal i gyflwyno system adrodd newydd fel bod modd adrodd ar achosion fesul mis; yna, caiff yr wybodaeth hon ei chyhoeddi ar wefan gyhoeddus.. Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhan o'r gwaith datblygu hwn i sicrhau bod ei swyddogaeth arsyllu a'i swyddogaeth i wella gwasanaethau yn cael eu defnyddio dan y trefniadau newydd.

Wrth wneud y gwaith hwn, derbynnir y bydd diffiniadau Panel Cynghori Ewrop ar wlserau yn cael eu defnyddio. Felly, bydd y system adrodd newydd a'r gofrestrfa clwyfau y cyfeirir atynt yn yr argymhellion yn canolbwyntio ar wlserau gradd 3, 4 a rhai nad oes modd eu gosod mewn unrhyw ddosbarth.

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn bod cyflwyno'r trefniant newydd hwn yn rhoi ysgogiad i welliannau a welwyd eisoes o ganlyniad i argymhellion Ymddiried mewn Gofal (2014) yn y GIG yng Nghymru.


Argymhelliad 3

3. proses Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed:
(i) diffinio ei swyddogaethau'n fwy cul ac yn fwy realistig
(ii) cryfhau canlyniadau amddiffynnol i unigolion lle ceir honiad neu dystiolaeth bod niwed wedi digwydd, drwy sicrhau bod naill ai asesiad gofal neu adolygiad o gynllun gofal yr unigolyn hwnnw yn cael ei gynnal. Dylai'r broses arwain at weithredu penodol yn hytrach na phenderfyniad yn unig, er enghraifft penderfyniad o gam-drin sefydliadol
(iii) sicrhau bod y GIG yn atebol am gyflawni ei gyfrifoldeb arweiniol ar gyfer ymchwilio i gyflyrau mawr a allai fod yn farwol fel briwiau pwysedd dwfn yn y sector gofal preswyl a nyrsio


Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhelliad hwn.

Drwy ein Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, rydym yn darparu fframwaith cryfach i amddiffyn oedolion sy’n agored i niwed, a luniwyd drwy raglen gynhwysfawr o ymgysylltu a chyd-gynhyrchu gyda’r sector a dinasyddion.

Bydd y gwaith hwn yn cryfhau ac yn gwella arferion diogelu, gan roi cyfarwyddiadau i fyrddau iechyd a phartneriaid perthnasol eraill wrth arfer eu dyletswydd i adrodd am oedolion yr amheuir eu bod yn cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso, neu sydd mewn perygl o fod. Rhaid i ganlyniad ymholiad diogelwch gael ei gofnodi yng nghynllun gofal a chymorth unigolyn, gan gynnwys pa gamau diogelwch a chamau gweithredu cysylltiedig a gaiff eu cymryd a chan bwy, er mwyn sicrhau canlyniadau gwell ar gyfer yr unigolyn hwnnw.          

Bydd canllawiau a gweithdrefnau diwygiedig yn deillio o weithredu’r Ddeddf ym mis Ebrill 2016, ac yn sicrhau mwy o atebolrwydd ac arferion cyson gan weithwyr proffesiynol ar bob lefel ar draws y maes iechyd, awdurdodau lleol a’r heddlu i amddiffyn oedolion a phlant sy’n agored i niwed. Bydd hyn yn sicrhau ymatebion priodol ac amserol i bryderon sy’n adlewyrchu cyfrifoldebau penodol partneriaid diogelu, yn unigol a gyda’i gilydd, i arwain a mynd i’r afael   phryderon neu gyflyrau, gan gynnwys briwiau pwysedd dwfn. Bydd y gwersi sy'n deillio o achosion fel hyn yn cael eu defnyddio i wneud gwelliannau ar draws sefydliadau fel rhan o amgylchedd o heriau cadarn a chefnogol.

Argymhelliad 4

4. Dylid cynnal cwest, er gwaethaf y ffaith bod marwolaethau Stanley Bradford, Megan Downs, Edith Evans, Ronald Jones ac eraill yn hysbys i’r Crwner ac wedi’u cofrestru eisoes

Derbyniais ymateb gan Grwner Gwent, David T Bowen ar 21 Awst. Mae eisoes wedi cynnal cyfarfodydd gyda chynrychiolwyr o Ymgyrch Jasmine a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i drafod ffordd ymlaen.

Ysgrifennodd Mr Bowen i mi eto ar 30 Medi gyda diweddariad, gan ddweud ei fod mewn cysylltiad â rhanddeiliaid perthnasol ac mae bellach yn gwbl glir bod nifer o'r marwolaethau y cyfeirir atynt yn adroddiad Dr Flynn digwydd y tu allan i'w awdurdodaeth. Mr Bowen yn dod i'r casgliad ei ddiweddariad drwy rhoi tawelwch meddwl i mi lle y mae ganddo awdurdodaeth, a lle mae'r gyfraith yn mynnu, bydd cwest yn cael ei gynnal ac mae eisoes yn gweithio i'r perwyl hwnnw.

Argymhelliad 5

5. Bod Heddlu Gwent yn rhoi’r wybodaeth a baratowyd gan aelodau'r panel arbenigol i deuluoedd y bobl hŷn yn y chwe chartref sy’n rhan o Ymgyrch Jasmine ac yn sicrhau bod y teuluoedd hyn yn cael cymorth yn ystod y broses hon ac ar ôl hynny

Ysgrifennodd Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Jeff Farrar ataf yn gyntaf ar 15 Gorffennaf yn cydnabod adroddiad Dr Flynn ac yn cefnogi'r argymhelliad y dylai Heddlu Gwent roi’r wybodaeth gan y panel o arbenigwyr, i deuluoedd. Fodd bynnag, er mai Heddlu Gwent fyddai’n dal yr wybodaeth hon, byddai angen i Mr Farrar drafod y mater gyda'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a Gwasanaeth Erlyn y Goron i sicrhau ei fod yn gyfreithiol briodol i wneud hynny gan mai'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch sydd bellach yn gyfrifol am erlyniad Dr Das, erlyniad sydd wedi’i atal ar hyn o bryd.
Ar 25 Medi, derbyniais ail lythyr yn dweud bod cyfarfod wedi’i gynnal rhwng Heddlu Gwent, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a Gwasanaeth Erlyn y Goron. Mae Mr Farrar yn mynd ymlaen i ddweud, yng ngoleuni ymchwiliadau’r crwner sydd ar y gweill, ac y mae disgwyl iddynt gael eu cynnal gan Mr David Bowen, Crwner Ei Mawrhydi yng Ngwent, y gallai tystion arbenigol gael eu galw i roi tystiolaeth yn y gwrandawiadau hyn, ac y byddai datgelu’r wybodaeth hon ar hyn o bryd yn niweidiol i ymchwiliadau’r crwner.

Argymhelliad 6

6. Bod GIG Cymru yn ystyried sut y mae uwch-glinigwyr yn ymgymryd â’r cyfrifoldeb am roi gwybod i'r Crwner am farwolaethau mewn ysbytai ac yn ystyried yr angen am ragdybiaeth gyfreithiol o blaid rhoi gwybod i'r Crwner am farwolaethau preswylwyr cartrefi preswyl a nyrsio


Mae'r argymhelliad hwn wedi'i anelu at GIG Cymru. Fodd bynnag, gan ei fod yn ymwneud â hysbysu'r crwner am farwolaethau, cyfrifoldeb y Weinyddiaeth Gyfiawnder yw hynny. Felly, rwyf wedi ysgrifennu'n bersonol at yr Ysgrifennydd Gwladol i dynnu ei sylw at adroddiad Adolygiad Flynn a gofyn iddo ymateb i'r argymhelliad hwn, y byddaf yn ei gyhoeddi cyn hir ynghyd  ’r rhai eraill, ar ein gwefan.  
Mae'n bwysig nodi fodd bynnag bod Byrddau Iechyd Lleol Cymru, ers 2012, wedi datblygu a chyflwyno proses o adolygu nodiadau achos marwolaethau cleifion sy’n marw mewn ysbytai acíwt. Mae dwy ran i’r broses hon: mae’n rhoi cyfle i nodi them u a meysydd i’w gwella; mae hefyd yn rhoi sicrwydd i deuluoedd bod y gofal wedi cael ei adolygu, ac os bydd unrhyw bryderon yn codi, yna bydd yn destun adolygiad manylach. Ar hyn o bryd, mae adolygiadau o farwolaethau wedi’u cyfyngu i ysbytai yn y rhan fwyaf o ardaloedd, ond y bwriad yw eu hehangu i gynnwys marwolaethau sy'n digwydd yn y gymuned o dan ofal meddygon teulu. Mae’r broses hon yn cael ei chynllunio i sicrhau y bydd yn gallu addasu i newidiadau a fydd yn digwydd i’r broses o lunio tystysgrifau marwolaeth yn y dyfodol, sy’n cael eu cyflwyno gan Lywodraeth y DU, gan gynnwys cyflwyno swyddi Archwilwyr Meddygol.

Fel y nodwyd yn flaenorol, nid yw mwyafrif yr argymhellion yn yr adroddiad yn ymwneud â Llywodraeth Cymru na chyrff y mae'n gyfrifol amdanynt. Fodd bynnag, rwyf wedi ysgrifennu at bob un o'r cyrff hynny yn gofyn am ymateb.

Er budd yr aelodau fodd bynnag, rwyf wedi rhestru'r argymhellion eraill isod, ynghyd â rhywfaint o wybodaeth am yr ymatebion gan y cyrff perthnasol:


Argymhelliad 7

7. Bod y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) yn:
(i) cydweithio â GIG Cymru i ganfod ffyrdd o reoli gwrthdaro buddiannau sy'n codi yn sgil derbyn cleifion Meddygon Teulu ac unigolion cofrestredig eraill y Cyngor Meddygol Cyffredin (meddygon ymgynghorol mewn ysbytai er enghraifft) i gartrefi preswyl a nyrsio lle mae meddygon o'r fath yn gyfarwyddwyr cwmni, neu'n perthyn i gyfarwyddwyr y cartrefi hyn
(ii) sicrhau bod pob Meddyg Teulu ac unigolion cofrestredig eraill y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn cael gwybod am yr hyn sy'n cyfrif fel gwrthdaro buddiannau a sut i reoli hyn yn ymarferol. O ystyried y byddai datgan gwrthdaro ar ei ben ei hun wedi bod yn ddull diogelu annigonol o ystyried canfyddiadau'r Adolygiad hwn, efallai y bydd y Cyngor Meddygol Cyffredinol am ystyried yr enghraifft benodol o glinigwyr sy’n berchen ar gartrefi nyrsio a gofal
(iii) ystyried yn ei adolygiad o'r Gofrestr Feddygol, y potensial ar gyfer cofnodi gwybodaeth am wrthdaro buddiannau sydd wedi'i ddatgan

Derbyniais ymateb gan Niall Dickson, Prif Weithredwr y Cyngor Meddygol Cyffredinol, ar 24 Awst.

Yn ei lythyr, dywedodd Mr Dickson bod y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn derbyn argymhelliad 7(i) yn llawn, ac y bydd yn cydweithio â GIG Cymru i weld pa gamau pellach y gellir eu cymryd. Mae'n dweud bod adroddiad Dr Flynn yn dangos pa mor bwysig yw bod meddygon yn agored ac yn onest wrth ddatgan unrhyw wrthdaro buddiannau posibl ac na ddylent byth â gadael i unrhyw wrthdaro o'r fath ddylanwadu ar y gofal neu'r driniaeth y mae cleifion yn eu derbyn.

Caiff Argymhelliad 7(ii) hefyd ei dderbyn, mewn egwyddor. Bydd y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn parhau i godi ymwybyddiaeth ymhlith meddygon am ein canllawiau presennol ar drefniadau ariannol a masnachol a gwrthdaro buddiannau, sy'n nodi'n glir y dylai meddygon ddatgan unrhyw fuddiannau mewn cartrefi nyrsio neu gartrefi gofal, gan gynnwys buddiannau pobl sy'n agos atynt. Mae Mr Dickson yn dweud wrthyf y bydd y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn datblygu adnoddau ychwanegol, fel astudiaethau achos, i helpu meddygon i ddeall eu cyfrifoldebau yn ymarferol.

O ran perchnogaeth cartrefi nyrsio a chartrefi gofal, bydd y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn gweithio gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i edrych ar ba gamau effeithiol pellach y gellir eu cyfiawnhau, a bydd hefyd yn gweithio gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i weld a ydynt yn dymuno rhoi unrhyw gyfyngiadau yn eu lle.

Mewn ymateb i argymhelliad 7(iii) mae Mr Dickson yn fy hysbysu eu bod eisoes yn ystyried cynnwys gwrthdaro buddiannau ar y gofrestr feddygol, fel rhan o'u hadolygiad presennol o'r Rhestr o Ymarferwyr Meddygol Cofrestredig.

Byddwn yn ysgrifennu at gyrff proffesiynol a phwyllgorau meddygol lleol meddygon teulu, i dynnu eu sylw at y negeseuon allweddol sy’n codi o’r adroddiad a'u hatgoffa i reoli gwrthdaro buddiannau (gan gynnwys cysylltiadau teuluol). Gofynnir i bob corff a phwyllgor ystyried yr argymhellion a chryfhau canllawiau sy’n ymwneud   gwrthdaro buddiannau fel sy’n briodol.
Byddwn hefyd yn ysgrifennu at y Cyngor Meddygol Cyffredinol a GIG Cymru yn gofyn iddynt gwrdd â Llywodraeth Cymru i nodi ffyrdd o waredu/ lleihau / rheoli'r achosion penodol hyn o wrthdaro buddiannau mewn perthynas â chartrefi preswyl a nyrsio pan fo meddygon yn gyfarwyddwyr cwmni, neu'n perthyn i gyfarwyddwyr y cartrefi hyn. Yn ogystal â hyn, byddwn yn gweithio'n agos ag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC), Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a'r Byrddau Iechyd i weld a oes angen ystyried unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth reoleiddiol a / neu safonau cenedlaethol.
   
Argymhelliad 8

8. Bod y Cyngor Meddygol Cyffredinol a'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn ystyried yr angen am ddiwygio parhaus i sicrhau bod gweithdrefnau addasrwydd i ymarfer yn cael eu cynnal mor gyflym ag sy'n ymarferol, wrth gynnal eu prif ddiben o amddiffyn y cyhoedd

Mewn perthynas ag argymhelliad 8, sydd wedi'i anelu'n benodol at y Cyngor Meddygol Cyffredinol a'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, gallaf gadarnhau bod y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn derbyn hyn yn llawn ac eisoes wedi ymrwymo i ddiwygio eu gweithdrefnau addasrwydd i ymarfer drwy newid y ffordd y maent yn ymchwilio i achosion a symleiddio eu prosesau dyfarnu.

Ar 4 Medi, roeddwn yn hapus cael derbyn ymateb gan Jackie Smith, Prif Weithredwr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, sy'n croesawu'r argymhelliad sy'n atgyfnerthu eu hamcan i gymryd camau cyflym a theg i ymdrin ag unigolion pan fo'u huniondeb neu eu gallu i ddarparu gofal diogel yn cael ei gwestiynau, gan sicrhau bod gan y cyhoedd hyder yn ansawdd a safonau'r gofal a ddarperir gan nyrsys a bydwragedd.
Bydd hefyd o ddiddordeb i aelodau bod y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth bellach wedi gorffen ei weithdrefnau disgyblaeth mewn perthynas â'r digwyddiadau hyn, ac wedi cytuno i gwrdd â’r teuluoedd yn y dyfodol agos.

Argymhelliad 9

9. Bod y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus yn cyfeirio Ymchwiliad Ymgyrch Jasmine at yr Adran Troseddau Arbennig a Gwrthderfysgaeth (yr Adran Troseddau Arbennig gynt) Gwasanaeth Erlyn y Goron

Ar 31 Gorffennaf, derbyniais lythyr gan Alison Saunders, Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus mewn ymateb i argymhellion Dr Flynn. Er bod Ms Saunders yn croesawu adroddiad Dr Flynn, sy'n tynnu sylw at nifer o faterion y dylai bob asiantaeth eu hystyried a mynd i'r afael â hwy wrth symud ymlaen, mae Ms Saunders hefyd yn dweud bod yr achos hwn wedi cael ei gyfeirio at yr Adran Troseddau Arbennig yn flaenorol, a edrychodd ar y nodiadau adolygu achosion, a phenderfyniadau yn ymwneud â chyhuddiadau ac ansawdd a sicrhawyd gan gyfreithiwr profiadol o'r Adran Troseddau Arbennig. Mae Ms Saunders yn dweud nad oes angen cyfeirio’r mater eto.
 
Argymhelliad 10

10. Bod Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) yn sicrhau bod blaenoriaeth ymchwiliad heddlu yn cyflawni gallu (a) Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) a (b) rheoleiddwyr proffesiynol, fel y Cyngor Meddygol Cyffredinol, y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a Chyngor Gofal Cymru i ddatblygu camau gweithredu sifil a throseddol; a mynd i'r afael â phryder am addasrwydd honedig i ymarfer o fewn amserlen a ddiffinnir

Argymhelliad 11

11. Bod Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a'r rheoleiddwyr proffesiynol yn rhannu'r hyn a ddysgwyd o ganlyniad i’r Adolygiad hwn, gan gydweithio ymhellach i bennu a chadarnhau cydrannau fframwaith ar gyfer cynnal gweithredu amserol ar y cyd yn y dyfodol

Ar 9 Medi, derbyniais ymateb gan y Prif Gwnstabl Sara Thornton, Cadeirydd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu. Mae'n credu mai'r hyn sy'n ganolog i'r argymhellion yw'r angen i'r rheini sy'n ymchwilio i achosion difrifol o gam-weithredu difrifol yn y sector gofal gydweithio'n glir ac yn effeithiol. Dylai'r holl sefydliadau a enwir ddeall a chytuno ar unrhyw ymatebion i'r argymhellion hyn.

Am y rheswm hwn, cefais un ymateb cyfunol gan y Prif Gwnstabl Sara Thornton yn nodi'r cynnydd sy'n cael ei wneud. Roedd y cydweithrediad yn cynnwys Neil Craig, Pennaeth Gwaith Maes Cymru, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, Steve Thomas, Prif Weithredwr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, David Francis, Dirprwy Brif Arolygwr, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, Jackie Smith, Prif Weithredwr, y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, Niall Dickson, Prif Weithredwr, y Cyngor Meddygol Cyffredinol a Rhian Williams, Prif Weithredwr, Cyngor Gofal Cymru.

I grynhoi, credai'r Grŵp ei bod yn werth ymateb i'r cwestiwn 'Beth fyddai'n wahanol pe bai'r digwyddiadau a arweiniodd at adroddiad Flynn yn digwydd heddiw?' yn hytrach nag ateb yr argymhellion yn uniongyrchol.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Thornton bod newidiadau sylweddol wedi'u gwneud i'r fframwaith deddfwriaethol yn y deng mlynedd ers dechrau Ymgyrch Jasmine, a bod cynnydd sylweddol wedi'i wneud wrth ddatblygu ein fframweithiau cydweithredol. Mae'r newidiadau hynny wedi arwain at well dealltwriaeth o rolau a chylchoedd gwaith ei gilydd; ac mae ein cydberthnasau, sy'n arwain at gydweithio, llawer yn gryfach. Cytunodd y grŵp i ddeall yn well sut i gefnogi gwaith ei gilydd i sicrhau'r ymatebion a'r canlyniadau cywir mewn modd rhagweithiol ac amserol wrth ymateb i ddigwyddiad.  

Argymhelliad 12

12. Bod Comisiwn y Gyfraith yn adolygu'r sefyllfa gyfreithiol bresennol mewn perthynas â chwmnïau preifat gyda pherthnasedd penodol at lywodraethu corfforaethol y sector gofal preswyl a nyrsio


Yn fwy diweddar, rwyf hefyd wedi derbyn e-bost gan Elaine Lorimer, Prif Weithredwr Comisiwn y Gyfraith, yn fy hysbysu bod Comisiwn y Gyfraith yn cytuno bod yr adroddiad annibynnol wedi codi materion difrifol iawn, a bod Comisiwn y Gyfraith ar y Deuddegfed Raglen Diwygio'r Gyfraith ar hyn o bryd, a gyhoeddwyd yn 2014. Nid yw'r rhaglen waith honno yn cynnwys prosiect penodol sy'n mynd i'r afael â'r argymhelliad yn uniongyrchol. Fodd bynnag, mae'r protocol rhwng Comisiwn y Gyfraith a Llywodraeth Cymru yn rhoi hyblygrwydd i ymateb i faterion pwysig sy'n codi y tu allan i gylch eu rhaglen. Mae Ms Lorimer wedi dweud wrthyf y byddai'n hapus i drafod ymhellach p’un a allai'r maes hwn o'r gyfraith fod yn briodol fel testun cyfeiriad ffurfiol gan Weinidogion Cymru i Gomisiwn y Gyfraith o dan adran 3(1)(ea) o Ddeddf Comisiwn y Gyfraith 1965.    

Casgliad
Mae Llywodraeth Cymru yn credu y bydd gwersi pwysig i'w dysgu o hyd o'r adolygiad hwn a'r gwaith a wnaed gan Dr Flynn. Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ysgrifennu at bob un o'r chwe bwrdd diogelu oedolion yng Nghymru, a sefydlwyd gan y Llywodraeth hon o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, i ystyried yr adroddiad ac i annog ystyriaeth ranbarthol ehangach. Gofynnodd iddynt grynhoi syniadau a chamau gweithredu rhanddeiliaid ar ôl iddynt ystyried hyn, erbyn canol mis Ionawr. Mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu y dylid cynnal digwyddiadau rhanbarthol i helpu â'r broses hon, ac rydym wedi sicrhau bod arian ar gael gan y Llywodraeth i'w cefnogi hwy. Mae'n bleser gen i ddweud hefyd fod Dr Margaret Flynn wedi cytuno i ddod i bob un o'r digwyddiadau hyn.
Byddaf, wrth gwrs, yn cyhoeddi'r chwe adroddiad ar wefan Llywodraeth Cymru. Yn hyn o beth, bydd y gwersi a ddysgwyd o'r digwyddiadau trasig hyn yn rhan barhaus o'r ffordd rydym yn gofalu am bobl hŷn ledled Cymru, ac yn eu cefnogi.