Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddodd Ymchwiliad Covid-19 y Deyrnas Unedig ei adroddiad cyntaf Cadernid a pharodrwydd y Deyrnas Unedig ym mis Gorffennaf 2024. Roedd modiwl un yr ymchwiliad yn ystyried a oedd y DU wedi'i pharatoi'n briodol ar gyfer y pandemig. 

Mae cadeirydd yr ymchwiliad, y Gwir Anrhydeddus Farwnes Hallett DBE, wedi gwneud 10 argymhelliad allweddol, ar gyfer y DU a’r llywodraethau datganoledig, ar ôl cymryd tystiolaeth ysgrifenedig a llafar manwl yn ystod modiwl un. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda llywodraethau eraill y DU dros y chwe mis diwethaf i ystyried a datblygu'r argymhellion hyn yn ofalus. Heddiw rwyf wedi ysgrifennu at y cadeirydd gydag ymateb Llywodraeth Cymru i'w hargymhellion, sydd ar gael yma.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cymryd camau sylweddol i ddysgu o brofiadau'r pandemig i ddatblygu ein dull o baratoi ac ymateb. Gwnaed y newidiadau hyn ar sail nifer o adolygiadau gan gynnwys yr adolygiad annibynnol o System Diogelu Iechyd Cymru ac adolygiad o argyfyngau sifil posibl. Mae’r gwaith hwn, ynghyd ag argymhellion adroddiad modiwl un yr ymchwiliad, wedi llywio newidiadau i drefniadau parodrwydd Cymru. 

Adroddiad ac argymhellion modiwl un yr ymchwiliad yw'r cyntaf mewn cyfres a fydd yn cael ei chyhoeddi gan yr ymchwiliad. Mae fy ymateb i'r Farwnes Hallett yn ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddysgu gwersi o'r pandemig ac rydym yn parhau i gymryd rhan weithgar yn ymchwiliad y DU, drwy ddarparu datganiadau tystion, cynnwys tystiolaeth lafar yn ei wrandawiadau, a thystiolaeth ddogfennol i gefnogi ei waith pwysig.

Rydym yn parhau i ddysgu o'r gwaith hwn; o'r dystiolaeth a roddwyd gan y tystion arbenigol i'r ymchwiliad a chan y rhai a gafodd brofedigaeth yn ystod y pandemig a'r rhai y mae'r pandemig yn parhau i effeithio arnynt.