Neidio i'r prif gynnwy

Mabon ap Gwynfor AS, Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal

Nerys Evans AS, Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Medi 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddodd Ymchwiliad Covid-19 y DU ei drydydd adroddiad, Effaith pandemig Covid-19 ar systemau gofal iechyd y Deyrnas Unedig, ym mis Mawrth 2026.  Ar ôl ystyried yr adroddiad a'i 10 argymhelliad, rydym heddiw wedi anfon ymateb Llywodraeth Cymru at y Cadeirydd, y Farwnes Heather Hallett DBE. Gellir gweld yr ymateb hwn ar ein tudalen we Ymchwiliad Covid-19

Dros y chwe mis diwethaf, mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cydweithio â chydweithwyr ledled y DU, o fewn y Llywodraeth a'r GIG, i ystyried yr argymhellion a sut i'w rhoi ar waith. Mae ein hymateb yn nodi sut y byddwn yn rhoi'r argymhellion hyn ar waith ac erbyn pryd. Byddwn yn darparu diweddariadau pellach ar gynnydd fel rhan o'r cylch diweddariadau rheolaidd ar Ymchwiliad Covid-19 bob mis Tachwedd a mis Mai. Bydd y diweddariad cyntaf ar argymhellion yr adroddiad hwn yn cael ei gyhoeddi ym mis Mai 2027. 

Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb a gefnogodd ymateb Cymru i'r pandemig. Mae hyn yn cynnwys ymdrechion anhygoel staff y GIG, gweithwyr gofal cymdeithasol, gwirfoddolwyr, gweision cyhoeddus a llawer o rai eraill a ddaeth i'r adwy yn ystod un o'r cyfnodau mwyaf heriol a welwyd yn ddiweddar. Rydym yn cydnabod yr effaith ddofn a pharhaol y mae'r pandemig yn parhau i'w chael ar bobl a chymunedau yng Nghymru, ac rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i ddysgu'r gwersi yn ei sgil.