Mabon ap Gwynfor AS, Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal
Nerys Evans AS, Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol
Mae Ymchwiliad Covid-19 y DU wedi cyhoeddi ei bedwerydd adroddiad, 'Brechlynnau a Therapiwteg', ar 16 Ebrill 2026. Mae'r adroddiad yn ymdrin â datblygu, caffael, awdurdodi, defnyddio, a monitro diogelwch brechlynnau a therapiwteg Covid-19 ledled y DU, ac mae'n gwneud pum argymhelliad.
Ar ôl ystyried yr adroddiad a'r 5 argymhelliad, rydym heddiw wedi anfon ymateb Llywodraeth Cymru at y Cadeirydd, y Farwnes Heather Hallett DBE. Gellir gweld yr ymateb hwn ar ein tudalen Ymchwiliad Covid-19.
Wrth baratoi ymateb Llywodraeth Cymru, bu swyddogion yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y GIG yng Nghymru, yn ogystal â llywodraethau datganoledig. Mae'r ymateb yn esbonio sut y bydd yr argymhellion yn cael eu gweithredu yng Nghymru, gan gynnwys y camau a'r cerrig milltir a fydd yn ein helpu i wneud hynny. Bydd unrhyw gynnydd yn cael ei adrodd drwy gylch diweddaru bob chwe mis Ymchwiliad Covid-19, y cytunwyd arno, a'r bwriad yw darparu'r diweddariad cyntaf ar y modiwl hwn ym mis Mai 2027.
Rydym yn cydnabod effaith barhaol y pandemig ar bobl a chymunedau ledled Cymru, ac yn cynnig ein cydymdeimlad diffuant â'r rheini a ddioddefodd brofedigaeth. Rydym yn parhau i fod yn ddiolchgar i bawb a gefnogodd y rhaglen frechu a'r ymateb ehangach i'r pandemig. Byddwn yn defnyddio canfyddiadau'r Ymchwiliad i gryfhau cynllunio yn y dyfodol, gwella mynediad teg, a chefnogi parodrwydd Cymru i ymateb i argyfyngau iechyd cyhoeddus yn y dyfodol.
