Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n croesawu adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, Trais ar Sail Rhywedd – Anghenion Menywod Mudol, ac yn diolch i’r Pwyllgor am ystyried ac amlygu’r rhwystrau sy’n wynebu mudwyr sy’n dioddef trais ar sail rhywedd.

Mae trais yn erbyn menywod a merched yn llawer rhy gyffredin ac mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi bod yn glir am ei dyhead i roi diwedd ar bob ffurf ar gam-drin ar sail rhywedd. Mae’n broblem strwythurol sy’n gofyn am ymateb strwythurol; rhaid inni barhau i herio agweddau a newid ymddygiad y rhai sy’n cam-drin.

Mae menywod mudol, menywod sy’n ffoaduriaid a menywod sy’n ceisio lloches sy’n ffoi rhag trais a chamdriniaeth yn profi heriau a chaledi penodol, a gafodd eu dwysáu yn ystod y pandemig. Yn aml mae’r grwpiau hyn yn wynebu lefelau uwch o drais, nid yn unig wrth iddynt fudo, ond hefyd oherwydd y gall rhwystrau fel oedran, iaith, ynysigrwydd, ansicrwydd ynghylch statws mewnfudo a thlodi ei gwneud yn fwy tebygol y byddant yn profi trais a chamdriniaeth ar ôl iddynt gyrraedd Cymru.

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Genedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV), sy’n amlinellu sut y byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid er mwyn herio’r anghydraddoldeb rhwng y rhywiau, y casineb tuag at fenywod a’r trais gan ddynion sydd yn achosi trais a chamdriniaeth yn erbyn menywod, ac yn ganlyniad iddo. Mae’r strategaeth yn cydnabod nad yw effaith trais a chamdriniaeth o’r fath yn unffurf, ac yr effeithir ar wahanol bobl mewn gwahanol ffyrdd. Felly, mae deall effeithiau anghydraddoldeb ar sail croestoriadedd yn hanfodol os ydym am fynd i’r afael â’r broblem i bawb yng Nghymru, gan gynnwys deall y rhwystrau penodol sy’n wynebu menywod mudol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi holl ddioddefwyr a goroeswyr VAWDASV. Mae hyn yn cynnwys dioddefwyr mudol a’r rheini nad oes ganddynt fynediad at gyllid cyhoeddus. Rydym yn gweithio’n galed gyda phartneriaid allweddol ledled Cymru i sicrhau nad yw’r grwpiau hyn yn llithro drwy’r bylchau yn y strategaethau sydd wedi eu dylunio i gefnogi menywod sy’n cael eu cam-drin.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi gwneud ymrwymiad i warchod hawliau mudwyr a’r rheini sy’n cael eu heffeithio gan VAWDASV ac mae ganddi sawl fframwaith a sawl darn o ddeddfwriaeth yn eu lle er mwyn cyflawni hynny. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud Cymru’n Genedl Noddfa; mae’r cynllun Cenedl Noddfa yn cynnwys ymrwymiadau trawslywodraethol amlwg i leihau’r anghydraddoldebau a wynebir gan y rheini sy’n ceisio noddfa; mae hyn yn cynnwys cefnogi dioddefwyr VAWDASV.

Er bod cynnydd wedi ei wneud, mae angen cymryd camau gweithredu ychwanegol i  fodloni anghenion y rheini nad oes ganddynt hawl i gyllid cyhoeddus, i gynyddu faint mae cyrff cyhoeddus yn gallu ei wneud i gefnogi mudwyr sy’n dioddef trais rhywiol, ac i fynd i’r afael â’r ynysigrwydd a brofir gan fenywod mudol, menywod sy’n ffoaduriaid a menywod sy’n ceisio lloches yng Nghymru.

Rwy’n cytuno’n llwyr gyda'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y dylai pob menyw yng Nghymru gael mynediad rhwydd at gymorth os byddant yn wynebu trais a cham-drin. Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried y pymtheg o argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor. Mae’r ymatebion yn cydnabod yr angen am ddull gweithredu trawslywodraethol, yn ogystal â gweithio’n agos gyda sefydliadau partner, rhai datganoledig a rhai heb eu datganoli. Mae’r dull manwl wedi ei nodi yn ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder ar drais ar sail rhywedd ac anghenion menywod mudol.