Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Ionawr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Medi cyhoeddais fod Adroddiad yr Adolygiad o'r Trefniadau Clustnodi Ariannol ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl yng Nghymru gan PricewaterhouseCoopers wedi'i gyhoeddi.  Daeth yr adroddiad i'r casgliad bod diben y trefniadau - sef diogelu gwariant ar wasanaethau iechyd meddwl - wedi cael ei gyflawni ar y cyfan.  Roedd yr adroddiad hefyd yn gwneud nifer o argymhellion ynghylch sut i wella'r cysylltiad rhwng buddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd meddwl a chanlyniadau.

Pan gyhoeddwyd yr adroddiad ym mis Awst, dywedais fy mod yn cadarnhau y byddai'r trefniadau clustnodi yn aros yn eu lle, ac ymrwymais i wneud datganiad pellach ar ddyfarniadau Llywodraeth Cymru ar ôl trafod canfyddiadau’r adroddiad gyda’r prif randdeiliaid.

Roedd yr adroddiad yn cadarnhau bod y trefniadau clustnodi wedi helpu i ddiogelu gwariant ar y gwasanaethau iechyd meddwl, ac roedd yn argymell y dylai'r trefniadau gael eu cadw a'u cryfhau drwy fabwysiadu dull gweithredu wedi'i seilio ar ganlyniadau, ynghyd â gwell atebolrwydd, asesiad o anghenion iechyd meddwl a chyfres o ddangosyddion ariannol newydd.  Pan fydd dull gweithredu yn seiliedig ar ganlyniadau wedi'i osod yn ei le, a'r canlyniadau hynny wedi'u sicrhau, mae'r adroddiad yn awgrymu na fyddai angen y trefniadau clustnodi mwyach o bosib.  

Er mwyn dylanwadu ar benderfyniadau strategol, roedd yr adroddiad yn argymell y dylai'r trefniadau clustnodi gael eu gwneud yn rhan annatod o'r trefniadau cynllunio craidd ar gyfer GIG Cymru.

Bydd Llywodraeth Cymru'n gwneud hyn drwy Fframwaith Cynllunio'r GIG, lle mae byrddau iechyd yn cynhyrchu Cynlluniau Tymor Canolig Integredig sy'n edrych ar gyfnod o dair blynedd, wedi'u seilio ar gynllun comisiynu a gwasanaethau clinigol ar sail anghenion iechyd. Bydd Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd gryfhau elfen iechyd meddwl eu Cynlluniau Tymor Canolig Integredig, gyda'r asesiadau o anghenion yn cael eu hymgorffori'n llwyr i'r broses gynllunio. Byddai hyn yn sicrhau bod yr anghenion yn cael eu nodi, ynghyd â'r gofynion o ran y gwasanaeth, y gweithlu a'r arian i ddiwallu'r anghenion hynny. Wrth i'r broses o lunio'r Cynlluniau Tymor Canolig Integredig ddatblygu, bydd yn symud tuag at y dull gweithredu wedi'i seilio ar ganlyniadau sy'n cael ei argymell yn yr adroddiad.

Yn y cyfamser mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda chydweithwyr yn y GIG i wella prydlondeb dychwelyd ffurflenni cyllidebu rhaglenni, gan sicrhau ar yr un pryd eu bod yn cydymffurfio gyda chyhoeddi ystadegau swyddogol. Mae hefyd yn ceisio gwella argaeledd, cyflawnrwydd a dibynadwyedd data'r gweithgarwch.  Fel hyn, bydd modd craffu ar effeithiolrwydd gwariant iechyd meddwl.

Gan gydnabod bod adroddiadau cyllidebu rhaglenni yn cael eu cyhoeddi bob blwyddyn, nododd yr adolygiad nad yw'r categorïau a ddefnyddir yn y ffurflenni bob tro yn syml, ac o ganlyniad dylid eu defnyddio â gofal.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi'i gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd adrodd yn y dyfodol ar eu gwariant yn erbyn y trefniadau clustnodi fel rhan o'u hadroddiadau blynyddol ar Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, sy'n cael eu cyhoeddi ar eu gwefannau.  Hefyd, bydd prif adroddiadau blynyddol y byrddau yn adrodd ar gynnydd a'r hyn a gyflawnwyd yn erbyn y Cynlluniau Tymor Canolig Integredig, gyda'r adroddiadau hynny'n cael eu cyhoeddi a'u cyflwyno mewn cyfarfodydd bwrdd cyn diwedd mis Medi ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol.
Roedd adroddiad yr adolygiad yn argymell y dylai'r trefniadau clustnodi gael eu hategu gan set o fesurau canlyniadau a dangosyddion ariannol.

Bydd datblygiadau pellach yn y maes hwn yn cael eu seilio ar waith sydd eisoes wedi'i gyflawni i ddatblygu set ddata graidd ar iechyd meddwl, yn unol â mesurau sy'n canolbwyntio ar y defnyddwyr.  Profwyd y gwaith mewn cynllun peilot yn 2014, ac mae bellach yn cael ei roi ar waith ar draws byrddau iechyd.  Bydd gwaith hefyd yn digwydd drwy Is-adran Gwelliant Iechyd Cyhoeddus Cymru, er mwyn sicrhau bod y set ddata graidd ar iechyd meddwl yn cael ei rhoi ar waith yn llawn yn unol â chyflwyno'r llwyfan TG cyffredin newydd. Bydd unrhyw ddangosyddion ariannol eraill sy'n ofynnol yn cael eu datblygu i'w cynnwys mewn adroddiadau blynyddol Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yn y dyfodol.

Yn ehangach, mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cydweithio'n agos gydag asiantaethau partner a rhanddeiliaid er mwyn datblygu'r Cynllun Cyflawni tair blynedd nesaf i gefnogi Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, sydd yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd.  Mae’r camau gweithredu gofynnol gan fyrddau iechyd i gryfhau'r trefniadau clustnodi yn cael eu hymgorffori fel cam gweithredu o fewn y cynllun. Bydd y Byrddau Partneriaeth Iechyd Meddwl yn craffu ar weithrediad yn lleol ac yn genedlaethol, a bydd adroddiadau blynyddol Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yn cael eu cyhoeddi bob blwyddyn.  Bydd gofynion pellach ar y byrddau iechyd yn parhau i gael eu nodi'n flynyddol yn y canllawiau i fyrddau iechyd ar lunio Cynlluniau Tymor Canolig Integredig. Hefyd bydd argymhellion yr adroddiad yn cael eu hystyried fel rhan o gam dau o'r adolygiad neilltuo adnoddau i barhau i glustnodi dyraniadau o fewn sefydliadau iechyd integredig.