Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip
Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, Derek Walker, a'i swyddfa am lunio'r adroddiad pwysig hwn, ac am y rôl hanfodol y maent yn parhau i'w chwarae o ran hyrwyddo uchelgeisiau'r ddeddfwriaeth nodedig hon. Dros y degawd diwethaf, mae'r Ddeddf wedi dod yn nodwedd ddiffiniol o fywyd cyhoeddus yng Nghymru. Mae'n sail i bopeth a wnawn yn Llywodraeth Cymru ac yn parhau i fod wrth wraidd ein cenhadaeth.
Rwy'n ddiolchgar i'r Comisiynydd am ehangder a dyfnder yr argymhellion a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru a Chyrff Cyhoeddus, ac am yr her a'r cymorth adeiladol y mae ei swyddfa yn eu darparu. Mae'r argymhellion hyn yn adlewyrchu’n uniongyrchol y ffyrdd o weithio hirdymor, ataliol a chydweithredol y mae'r Ddeddf yn eu gwneud yn ofynnol gennym i gyd.
Yn yr atodiad i'r datganiad hwn, rwyf wedi darparu ymateb Llywodraeth Cymru i bob un o argymhellion y Comisiynydd a wnaed i Lywodraeth Cymru. Rwy'n falch ein bod wedi gallu cytuno ar lawer o'r argymhellion, ac rwy'n gwybod y bydd Llywodraeth nesaf Cymru yn ystyried sawl un arall.
Rwyf wedi ymateb i'r argymhellion ar ran Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, hoffwn hefyd fynegi fy nghefnogaeth i'r argymhellion ar gyfer Cyrff Cyhoeddus eraill, ac annog gwaith ymgysylltu gweithredol gan y sector cyhoeddus ynghylch y rhain. Ochr yn ochr ag adroddiad y Comisiynydd, rwy'n cefnogi 22 o'r 23 o argymhellion yr adroddiad ar gyfer Cyrff Cyhoeddus. Dangosir fy nghefnogaeth i'r argymhellion hyn yn yr atodiad i'r datganiad hwn. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda swyddfa'r Comisiynydd i helpu i fwrw ymlaen â mabwysiadu'r argymhellion hyn ar draws Llywodraeth Cymru a Chyrff Cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys yr argymhellion hynny a gyfeiriwyd at Gyrff Cyhoeddus ac nid at Lywodraeth Cymru (argymhellion 19, 20, 26 a 35).
Mae wedi bod yn fraint cyfrannu at barhau i roi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ar waith – un o gyflawniadau mwyaf balch Cymru. Mae'r Ddeddf wedi llunio dyfodol tecach, gwyrddach a mwy llewyrchus ar gyfer cenedlaethau i ddod, ac yn parhau i wneud hynny.
