Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mai 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 2 Gorffennaf 2012, cyhoeddais Bapur Gwyn a oedd yn gofyn am farn ar y cynigion ar gyfer y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Cymru). Mewn Datganiad Ysgrifenedig, a gyhoeddwyd ar 6 Mawrth 2013, dywedais fy mod wedi cael fy nghalonogi gan y gefnogaeth eang a gafwyd ar gyfer y cynigion. Cyhoeddais hefyd y byddai fy swyddogion yn bwrw ati i ddadansoddi a datblygu ymhellach y cynigion ar gyfer addysg uwch. Mae'r gwaith hwnnw wedi'i gwblhau erbyn hyn a, heddiw, rwy'n cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i'r cynigion ar gyfer addysg uwch yn y Papur Gwyn ynghyd ag ymgynghoriad technegol manylach.

Mae'r ymateb i Bapur Gwyn y Bil Addysg Bellach ac Uwch yn rhoi ystyriaeth lawn i'r adborth a gafwyd mewn ymateb i'r ymgynghoriad. Mae'n manylu hefyd ar y cynigion a fydd yn cael eu datblygu mewn deddfwriaeth, a'r rhai na chânt eu datblygu.

Mae'r ymgynghoriad technegol yn amlinellu'r cynigion mewn perthynas â sefydlu fframwaith rheoleiddio diwygiedig ar gyfer addysg uwch yng Nghymru ac mae'n gofyn am farn rhanddeiliaid ar weithredu'r cynigion hynny. Bydd fy swyddogion hefyd yn ymgysylltu â rhanddeiliaid yn ystod y cyfnod ymgynghori. Fy mwriad yw cyflwyno darpariaethau mewn perthynas â diwygio addysg uwch drwy ddeddfwriaeth yn hwyrach yn ystod tymor y Cynulliad hwn.