Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddodd Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ei Chweched Adroddiad Blynyddol ym mis Awst 2025, gan fanylu ar weithrediadau, llwyth gwaith a blaenoriaethau Tribiwnlysoedd Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25. Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae’r Llywydd yn cynrychioli barn aelodau Tribiwnlysoedd Cymru i Weinidogion Cymru a’r Senedd drwy ei adroddiad blynyddol. Gosodais yr adroddiad gerbron y Senedd ym mis Hydref y llynedd felly. 

Yn anffodus, o ystyried y pwysau eithriadol ar fusnes y Senedd y tymor hwn – gan gynnwys hynt Deddf Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) 2026 o dan weithdrefnau brys – nid yw wedi bod yn bosibl trefnu dadl dan arweiniad y Llywodraeth ar yr adroddiad yn y Cyfarfod Llawn cyn diddymu’r Senedd, fel y gwnaed yn y gorffennol. O ganlyniad, mae Datganiad Ysgrifenedig yn sicrhau felly fod cofnod cyhoeddus yn cael ei wneud o ymateb y Llywodraeth cyn diwedd y Senedd bresennol hon.Rwyf hefyd yn croesawu bod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad wedi craffu ar yr adroddiad ym mis Rhagfyr 2025.

Cyn ymateb i’r materion a amlygwyd yn yr adroddiad, hoffwn yn gyntaf, bwysleisio unwaith yn rhagor werthfawrogiad Llywodraeth Cymru o arweinyddiaeth Syr Gary Hickinbottom fel Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru. Mae ymrwymiad Syr Gary i weithrediad effeithiol y system gyfiawnder ddatganoledig ac i sicrhau’r perfformiad gorau posibl gan ein holl dribiwnlysoedd yn amlwg yn ei adroddiad. Mae ei ymagwedd ymarferol yn ganolog i gyflawni cyfiawnder yn effeithiol i bobl Cymru ac i gynnal perthynas adeiladol a chydweithredol â Llywodraeth Cymru.

Mae’r Llywydd wedi tynnu sylw at nifer o faterion allweddol yn yr adroddiad, yr wyf yn ymateb iddynt fel a ganlyn:

Y Gyllideb 

Rwyf i a’m rhagflaenwyr wedi cael trafodaethau adeiladol â’r Llywydd am y gyllideb ar gyfer y gwasanaeth tribiwnlysoedd. Mae’r addasiadau i ddyraniadau cyllideb y gwasanaeth tribiwnlysoedd yn 2024/25, i adlewyrchu’r pwysau ar gostau rhedeg, wedi cryfhau rheolaeth ariannol ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol a’r rhai sydd i ddod. Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i gefnogi gwasanaeth tribiwnlysoedd effeithiol, effeithlon ac annibynnol sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr.

Y rhaglen ar gyfer diwygio’r tribiwnlysoedd 

Mae cefnogaeth barhaus y Llywydd ar gyfer agenda diwygio’r tribiwnlysoedd yn cael ei chroesawu. Fodd bynnag, rwy’n cydnabod ei siom ynglŷn â diffyg Bil Tribiwnlysoedd yn ystod tymor y Senedd bresennol. Roedd llawer o gystadleuaeth am le yn y rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer blwyddyn olaf y Senedd, ac rydym wedi gorfod gwneud rhai dewisiadau anodd. Rydym wedi ymrwymo i fwrw ati i ddiwygio’r tribiwnlysoedd ac mae’r gwaith ar ddrafftio Bil yn parhau ac wedi gwneud cynnydd da.

Rwy’n hyderus y bydd y gefnogaeth i ddiwygio’r tribiwnlysoedd ar draws y Senedd bresennol yn parhau yn ystod y Senedd nesaf, ac y bydd y Llywodraeth Cymru newydd yn ystyried Bil i’w gyflwyno.

Hyfforddiant Barnwrol

Mae’r Llywydd wedi amlinellu’r heriau i gynnal trefniadau ar gyfer hyfforddiant barnwrol i aelodau Tribiwnlysoedd Cymru. Mae’r heriau hynny’n deillio’n bennaf o’r ffaith mai cymharol fach yw’r garfan o aelodau tribiwnlysoedd ac o gylch gwaith diffiniedig y Coleg Barnwrol, sy’n cyfyngu ar yr hyfforddiant sydd ar gael i aelodau Tribiwnlysoedd Cymru. Rwy’n croesawu’r camau a gymerwyd gan y Llywydd i benodi Barnwr Arweiniol ar Hyfforddiant ac i gryfhau’r mecanweithiau ar gyfer nodi anghenion hyfforddi. Mae ymgysylltu â’r Coleg Barnwrol i ystyried y gefnogaeth sydd ar gael i aelodau Tribiwnlysoedd Cymru hefyd yn ddatblygiad cadarnhaol, ac rwy’n nodi sylwadau’r Llywydd fod y Coleg yn barod i gynorthwyo cymaint â phosibl.

Amrywiaeth 

Rwy’n nodi ac yn cefnogi’r gwaith parhaus i gasglu a dadansoddi data ar amrywiaeth paneli achosion Tribiwnlysoedd Cymru. Mae hwn yn gam pwysig tuag at wella’r ddealltwriaeth o gyfansoddiad tribiwnlysoedd ac ar gyfer llywio unrhyw gamau gweithredu yn y dyfodol.

Y Gymraeg

Rwy’n cefnogi’r ymdrechion parhaus i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn nhrafodion y tribiwnlysoedd, gan gynnwys annog gwrandawiadau dwyieithog i hwyluso trefniadau i ddefnyddwyr tribiwnlysoedd sy’n dymuno defnyddio’r Gymraeg a’u cefnogi.

Yn olaf, er na chrybwyllir hyn yn yr adroddiad, hoffwn hefyd gydnabod cydweithrediad, cyngor a chefnogaeth Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru a Llywydd Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru yn ystod hynt Deddf Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) 2026. Sicrhaodd eu harweinyddiaeth a’u hymrwymiad hwy weithrediad parhaus y tribiwnlys hwnnw mewn amgylchiadau heriol. Rwy’n ddiolchgar am yr ymroddiad a ddangoswyd gan yr holl aelodau ar draws Tribiwnlysoedd Cymru i wasanaeth cyhoeddus ac i gynnal mynediad at gyfiawnder i bobl Cymru.