Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, cyflwynodd Canghellor y Trysorlys Ddatganiad yr Hydref gyda chwyddiant ar ei lefel uchaf ers 40 mlynedd ac wrth i bobl, gwasanaethau cyhoeddus a busnesau barhau i wynebu’r argyfwng costau byw a chostau ynni.

Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi cadarnhau bod economi’r DU ar ddechrau dirwasgiad ac y bydd y dirwasgiad hwnnw’n debygol o fod yn un hir. Bydd hyn yn arwain at gostau gwirioneddol a sylweddol i bobl ledled y DU. Mae disgwyl i’r gyfradd diweithdra gynyddu’n sylweddol, ac i incwm gwario cartrefi leihau dros 7% yn ystod y ddwy flynedd nesaf – y gostyngiad mwyaf ers dechrau cadw cofnodion – i lefelau a welwyd ddiwethaf yn 2013.

Cyn Datganiad yr Hydref, galwais ar y Canghellor i fuddsoddi mewn pobl a gwasanaethau cyhoeddus. Adlewyrchwyd hyn yn rhannol heddiw, gyda chyllid ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf ond nid yw’n gwneud llawer i fynd i’r afael â’r heriau enfawr a achosir gan chwyddiant cynyddol.

Mae ein setliad cyffredinol dros y cyfnod adolygu gwariant tair blynedd (2022-23 i 2024-25) yn dal yn werth llai mewn termau real nag yr oedd adeg yr Adolygiad o Wariant y llynedd. Byddwn yn cael £1.2 biliwn yn ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf (2023-24 a 2024-25) ond ni fydd ein cyllideb gyffredinol yn 2024-25 yn fwy mewn termau real nag yn y flwyddyn bresennol a bydd ein cyllideb gyfalaf 8.1% yn llai.

Fel y mae Ysgol Economeg Llundain, y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) ac eraill wedi’i nodi, mae buddsoddiad cyfalaf ychwanegol yn hanfodol i wella cynhyrchiant a thwf, ac eto nid oedd fawr ddim o sylwedd yn natganiad y Canghellor i helpu i ddiogelu ein ffynonellau ynni a chefnogi datgarboneiddio.

Mae’r mesurau treth a gyhoeddwyd heddiw yn golygu y bydd gofyn i’r rhai sydd ag incwm uwch, ac sydd â mwy o allu i’w fforddio, gyfrannu mwy i helpu i lenwi’r bwlch a gafodd ei greu gan gamreolaeth Llywodraeth y DU o gyllid cyhoeddus. Serch hynny, bydd gofyn i bawb dalu mwy.

Rwy’n bryderus ynghylch cynnydd llechwraidd Llywodraeth y DU yn y trethi ar weithwyr a’i phenderfyniad i rewi trothwyon treth incwm, yn enwedig y lwfans personol. Wrth i fwy a mwy o weithwyr gael eu tynnu i’r bandiau treth uwch, bydd cyfran uwch o’u cyflog yn cael ei cholli’n syth. Mae’r mesur hwn yn debygol o effeithio’n anghymesur ar bobl Cymru.

Mae Llywodraeth y DU wedi gwrando ar fy awgrym i gynyddu’r dreth ffawdelw ar y sector ynni. Er hynny, gallai fod wedi gwneud mwy i gau bylchau sy’n galluogi cwmnïau olew a nwy i wrthbwyso eu hatebolrwydd treth os ydynt yn buddsoddi elw yn y DU. Roedd cyfle hefyd i Lywodraeth y DU ehangu’r dreth hon i gynnwys y sector bancio.

Mae’n gwbl angenrheidiol targedu cymorth i’r mwyaf bregus ac roedd yn hanfodol bod y Canghellor yn ymateb i’n galwad i godi pensiynau a budd-daliadau yn unol â chwyddiant.  Nid oedd unrhyw beth yn y datganiad am fesurau ychwanegol a allai wneud gwahaniaeth ymarferol i’r argyfwng costau byw, fel help i’r rheini sydd ar fesuryddion rhagdalu, cymorth i undebau credyd a gweithredu pellach i rwystro pobl rhag mynd yn ddigartref.

Er i Ddatganiad y Canghellor roi ychydig o fanylion inni am y warant ym mhrisiau ynni ar gyfer cartrefi, o fis Ebrill flwyddyn nesaf gall yr aelwyd gyffredin ddisgwyl gweld cynnydd pellach o hyd at £500 yn ei bil ynni blynyddol ac nid oes eglurder i fusnesau faint y byddant hwy’n ei dalu flwyddyn nesaf.

Mae chwyddiant wedi erydu cyllideb Llywodraeth Cymru i lefelau gofidus ac mae awdurdodau lleol a chyrff y GIG yn dweud eu bod yn gweld diffygion arwyddocaol yn eu cyllid oherwydd chwyddiant, y pwysau ar gyflogau a chostau ynni cynyddol. Nid yw datganiad y Canghellor heddiw yn mynd i’r afael â’r bwlch cyllido sylweddol hwn.

I wneud iawn am y diffyg hwn ac i ddiogelu dyfodol tymor byr y gwasanaethau cyhoeddus hanfodol rydym yn dibynnu arnynt, mae angen i’n cyllideb godi yn unol â chwyddiant. Ni ddigwyddodd hynny.

Fel Llywodraeth Cymru, byddwn yn parhau i weithio i flaenoriaethu’n cyllidebau er mwyn gwarchod y mwyaf bregus a chadw ein hymrwymiad i greu Cymru gryfach, decach a gwyrddach wrth inni baratoi’n Cyllideb ddrafft ar gyfer 2023-24.

Byddwn yn ystyried manylion datganiad heddiw’n ofalus wrth inni weithio at gyhoeddi’r Gyllideb ddrafft fis nesaf.