Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
Heddiw, cyflwynodd Canghellor y Trysorlys, Rachel Reeves, ei Datganiad ar gyfer y Gwanwyn, ynghyd â rhagolwg economaidd a chyllidol newydd gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR).
Cadarnhaodd Datganiad y Canghellor fod cynllun economaidd Llywodraeth y DU yn adfer sefydlogrwydd i'r economi a chyllid cyhoeddus. Bydd hyn yn darparu diogelwch y mae ei fawr angen yn erbyn cefndir o ansicrwydd geowleidyddol cynyddol.
Mae rhagolwg diweddaraf yr OBR yn galonogol - yn dangos bod cynlluniau Llywodraeth y DU i sefydlogi a chryfhau'r economi yn dechrau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol gan arwain at well safonau byw a sicrhau bod pobl sy'n gweithio ar eu hennill a bod plant yn cael eu codi allan o dlodi. Cadarnhaodd rhagolwg yr OBR fod y rhagolygon chwyddiant ar hyn o bryd yn well na'r hyn a ddisgwylid yn yr Hydref. Bydd cynhyrchiant, enillion, ac incwm gwario gwirioneddol aelwydydd yn cynyddu bob blwyddyn hyd at 2030. Disgwylir i'r gyllideb bresennol fod mewn gwarged o £24 biliwn yn 2029-30, gan greu byffer pwysig yn erbyn siociau economaidd andwyol.
Mae'r rhain yn arwyddion calonogol o economi'r DU sy'n cryfhau, sy'n gredadwy ac yn wydn, gyda manteision y disgwylir iddynt gael eu gwireddu ledled y DU, gan gynnwys yng Nghymru. Mae Cymru'n parhau i ddangos momentwm economaidd cadarn, gan gynnwys twf cryf diweddar mewn cynhyrchiant, gan gynyddu'n gyflymach na chyfartaledd y DU.
Er bod ffigurau heddiw yn dangos bod amodau'r farchnad lafur yn cyflwyno heriau, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ganolbwyntio ar wella rhagolygon cyflogaeth a chyflog ar gyfer pob grŵp oedran ledled Cymru, cau bylchau sgiliau, cefnogi swyddi o ansawdd gwell, a mynd i'r afael â thlodi—gan flaenoriaethu cymorth i'r rhai sydd bellaf o'r farchnad lafur.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cael £555m ychwanegol mewn cyllid adnoddau a chyfalaf dros y tair blynedd nesaf.
| Newidiadau Datganiad y Gwanwyn (£m) | 2026–27 | 2027–28 | 2028–29 | Cyfanswm |
| DEL Adnoddau | 327 | 8 | 208 | 543 |
| DEL Cyfalaf Cyffredinol | 4 | 4 | 4 | 12 |
| Cyfanswm | 331 | 12 | 212 | 555 |
Mae hyn yn ymwneud â chyhoeddiadau gwario Llywodraeth y DU yn Lloegr ers Cyllideb yr Hydref, yn bennaf mewn perthynas â rhyddhad Ardrethi Annomestig (NDR) ar gyfer lletygarwch a thafarndai a chyllid ychwanegol ar gyfer Anghenion Addysgol Arbennig ac Anableddau. Mater i Lywodraeth nesaf Cymru fydd penderfynu sut i ddefnyddio'r cyllid ychwanegol hwn gan gymryd i ystyriaeth anghenion ac amgylchiadau Cymru. Mae cymorth NDR eisoes wedi'i gadarnhau yng Nghyllideb Llywodraeth Cymru 2026-27 a gymeradwywyd gan y Senedd ar 27 Ionawr.
Mae'r Canghellor wedi ychwanegu at yr hyn sydd eisoes wedi bod yn gyfnod o gyllid cynyddol i Gymru. Mae setliad Llywodraeth Cymru dros y tair blynedd nesaf bron £6bn yn uwch nag y byddai wedi bod o dan y cynlluniau gwariant a osodwyd gan Lywodraeth flaenorol y DU.
Mae sefydlogrwydd a gwydnwch yn hanfodol ar gyfer twf economaidd hirdymor, ac i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r buddsoddiadau diweddar gan Lywodraeth y DU yng Nghymru, gan gynnwys dwy Ardal Twf AI, buddsoddiad o £14bn mewn seilwaith rheilffyrdd a bargen twf amddiffyn, yn dangos dwy lywodraeth sy'n cydweithio i adeiladu economi gref a diogel, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol a diriaethol i fywydau pobl a theuluoedd.
