Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Gorffennaf 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 1 Gorffennaf 2015, cyhoeddodd Llywodraeth y DU Ddatganiad Llafar ar dlodi plant.  Ynddo, datganwyd bwriad Llywodraeth y DU i ollwng ei tharged i ddileu tlodi plant erbyn 2020, sef sail Deddf Tlodi Plant 2010 a chyflwyno deddfwriaeth i newid y ffordd y mae’n mesur tlodi plant ar hyn o bryd.  Bydd hynny’n golygu rhoi’r gorau i fesur tlodi plant trwy fesur incwm cymharol.  Mae’r dull hwnnw’n diffinio tlodi plant fel canran y plant sy’n byw ar aelwydydd sy’n ennill 60% yn llai na’r incwm canolrif.  Yn hytrach, maent yn bwriadu cyflwyno dyletswydd statudol newydd i adrodd ar fesurau sy’n ymdrin â diweithdra a chyrhaeddiad addysgol.  Law yn llaw â’r mesurau newydd hyn, byddant yn datblygu hefyd ystod o ddangosyddion eraill  i fesur hynt ymdrechion yn erbyn achosion gwaelodol tlodi. Bydd y dangosyddion hynny’n cynnwys teuluoedd sy’n chwalu, dyled broblematig a dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol.

Er mai targed i Lywodraeth y DU yw’r targed yn y Ddeddf Tlodi Plant, pwrpas y Datganiad hwn yw cadarnhau bwriad Llywodraeth Cymru i barhau â’i huchelgais hi i ddileu tlodi plant erbyn 2020.  

Byddwn yn parhau i ddefnyddio’r mesur tlodi cymharol i asesu a ydym yn gwireddu’r uchelgais, hynny fel rhan o’r gyfres o ddangosyddion tlodi rydym eisoes yn ei defnyddio i fesur canlyniadau aelwydydd isel eu hincwm, fel rhan o’n Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi a’r Strategaeth Tlodi Plant ddiwygiedig. Yn eu plith y mae dangosyddion ynghylch nifer y plant sy’n byw ar aelwydydd heb waith a chyrhaeddiad addysgol disgyblion sy’n gymwys am Brydau Ysgol am Ddim.  Nid oes gennym unrhyw fwriad i newid Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, sef y mesur sy’n gosod y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer trechu tlodi plant yng Nghymru.

Er mor aruthrol o fawr yw her yr uchelgais i ddileu tlodi plant, dangosodd ein hymgynghoriad diweddar ar ein Strategaeth Tlodi Plant ddiwygiedig bod yr uchelgais honno’n bwysig iawn o ran cynnal y sylw ar yr uchelgais hon.  Mae’n cynnal y momentwm, mae’n blaenoriaethu’r pwnc ac yn rhoi neges glir a chryf i bob partner a rhanddeiliad allanol y dylai trechu tlodi plant fod yn nod allweddol i bob un ohonom.  Mae angen i bawb ganolbwyntio eu hymdrechion ar helpu’r rheini sy’n byw ar aelwydydd isel eu hincwm i sicrhau canlyniadau gwell.

Rydym yn ymwybodol iawn o’r heriau mawr sy’n ein hwynebu wrth geisio gwireddu’r uchelgais hon.  Mae astudiaethau o effeithiau’r diwygiadau i’r system les yng Nghymru yn parhau i ddangos eu bod yn cael effaith anghymarus ar y rheini sydd yng nghyffiniau’r llinell dlodi ac yn enwedig ar aelwydydd â phlant.  Er gwaetha’r cefndir hwn, rydym yn dal yn ymroddedig i wneud popeth a allwn gyda’r cyfryngau sydd ar gael.  Rhoddodd ein Strategaeth Tlodi Plant ddiwygiedig ddau amcan newydd inni o ran trechu tlodi plant yng Nghymru.  Y cyntaf yw defnyddio pob cyfrwng sydd ar gael inni i greu economi a marchnad lafur gref sy’n cefnogi’r agenda trechu tlodi ac sy’n lleihau tlodi mewn gwaith.  Yr ail yw helpu teuluoedd sy’n byw mewn tlodi i gynyddu incwm eu haelwyd trwy gynnig cyngor ar arian a dyledion iddynt, gweithredu i fynd i’r afael â’r “premiwm tlodi” (pan fydd aelwydydd yn talu’n gymharol fwy am eu nwyddau a’u gwasanaethau) a gweithredu i leihau effeithiau’r diwygiadau i’r system les.  Yr un pryd, byddwn yn parhau â’n ffocws ar leihau nifer y plant sy’n byw mewn tlodi, ar wella sgiliau er mwyn i rieni a phobl ifanc allu cael swyddi sy’n talu’n dda, ac ar leihau’r anghydraddoldebau yng nghanlyniadau iechyd, addysgol ac economaidd y rheini sy’n byw mewn tlodi.

Trwy ein Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi, byddwn yn parhau i daclo achosion gwaelodol tlodi, gan roi sylw arbennig ar fuddsoddi yn y blynyddoedd cynnar, gwella cyrhaeddiad addysgol a helpu pobl i gael gwaith.  Mae’r holl dargedau yn ein Cynllun Gweithredu yn sbarduno cynnydd ac rydym wedi ymrwymo’n llwyr i gyflawni pob un.

Fel y dywed y Strategaeth Tlodi Plant ddiwygiedig, byddwn yn parhau i weithio i ddod i ddeall yn well beth sydd ei angen i newid y prif ddangosydd tlodi plant.  Eir ymlaen â’r gwaith i asesu beth sydd angen ei wneud ac erbyn pryd, pe bawn am ddileu tlodi plant.  Byddwn yn defnyddio’r gwaith hwn i ddatblygu canlyniadau a cherrig milltir cyfamserol.  Bydd gweithio mewn partneriaeth a chydweithio’n hanfodol i lwyddiant ein hymdrechion i drechu tlodi plant.