Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mehefin 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae canlyniadau Arolwg Cenedlaethol a gyhoeddwyd heddiw yn darparu rhai canfyddiadau calonogol iawn. Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru wedi cael ei gynnal ers 2012 ac mae'n seiliedig ar gyfweliadau gyda mwy na 14,000 o bobl ar draws Cymru bob blwyddyn. Mae hyn yn cynhyrchu gwybodaeth gadarn a manwl ar farn a phrofiadau pobl yng Nghymru ar ystod eang o bynciau.

Mae'r arolwg yn dangos bod 91% o bobl yng Nghymru yn fodlon ar y gofal a gawsant gan eu meddyg teulu a 92% yn fodlon ar y gofal a gawsant yn eu hapwyntiad diwethaf yn yr  ysbyty. Mae canfyddiadau iechyd eraill yn dangos bod 96% o gleifion mewn ysbytai yn teimlo eu bod yn cael eu trin gydag urddas a pharch; a bod 79% o bobl, a oedd wedi defnyddio'r gwasanaeth ambiwlans, yn fodlon gyda'r amser a gymerir i'r ambiwlans gyrraedd.

Dangosodd cwestiynau’r arolwg ar addysg a chefnogaeth rhieni fod 81% o rieni yn helpu eu plant i ddarllen ac i ysgrifennu o leiaf sawl gwaith yr wythnos. Mae dros 75% o rieni yn hyderus i helpu eu plant ysgol gynradd i ddarllen neu ysgrifennu yn Saesneg; 60% yn hyderus i helpu eu plant gyda mathemateg.

Yn galonogol, gwelwn fod fwy o bobl (60%) nag yn y blynyddoedd blaenorol yn dweud nad oedd ganddynt unrhyw anawsterau cadw i fyny â’u biliau ac ymrwymiadau ariannol – cynnydd o 50% yn 2013-14 a 48% yn 2012-13.

Mae’r canran sydd â mynediad i'r rhyngrwyd ac sy’n ei ddefnyddio yn parhau i gynyddu gyda 78% o gartrefi â mynediad at y rhyngrwyd – cynnydd o 75% yn 2013-14 a 73% yn 2012-13.

Mae cwestiwn newydd yn yr arolwg 2014-15 yn dangos y byddai 35% o bobl rhwng 16 a 65 oed, yn dymuno dechrau busnes eu hunain.

Canfu'r arolwg fod 83% o bobl yng Nghymru yn fodlon ar eu bywydau bob dydd.

Gellir gweld y datganiad ar dudalennau gwe newydd yr Arolwg Cenedlaethol.