Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid 

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mawrth 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

A hithau’n fis Mawrth, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi ei Chyllideb heddiw. Mae’r Gyllideb honno’n amlinellu ei chynlluniau trethu a gwario, a rhagolygon economaidd y Deyrnas Unedig. Mae’r Datganiad Ysgrifenedig hwn yn amlinellu’r goblygiadau ar gyfer Cymru.

Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad y bydd Bil Cymru yn cael ei gyhoeddi yfory. Mae hwn yn gam pwysig ymlaen, a fydd yn mynd â ni gam yn nes at sicrhau’r pwerau benthyca hanfodol sydd eu hangen arnom fel y gallwn fuddsoddi yn seilwaith Cymru. Yn y dyddiau ariannol anodd hyn, mae’n hollbwysig fod gennym amrywiaeth eang o ddulliau at ein defnydd i feithrin twf economaidd, ac rwy’n croesawu’r ffaith y byddwn yn gallu defnyddio ein pwerau benthyca.

Fel arall, mân iawn yw’r dyraniadau ychwanegol yn sgil datganiad y Canghellor. Bydd y Gyllideb yn rhoi £36.4 miliwn yn ychwanegol i Lywodraeth Cymru yn ystod y ddwy flynedd nesaf. £18.7 miliwn yw cyfanswm y cynnydd mewn refeniw, sef £7 miliwn yn 2014-15 a £11.7 miliwn yn 2015-16. £17.7 miliwn yw cyfanswm y cynnydd mewn cyfalaf, ar ffurf £13.7 miliwn o gyfalaf traddodiadol yn 2014-15 a £2 miliwn yn 2015-16, ynghyd â £0.2 miliwn o drafodion ariannol ad-daladwy yn 2014-15, ac £1.7 miliwn yn 2015-16.

Nid yw’r ychwanegiadau bach hyn yn newid y ffaith y bydd cyllideb Cymru, drwyddi draw, 10% yn is yn 2015-16 na’r hyn oedd pan ddaeth Llywodraeth bresennol y Deyrnas Unedig i fodolaeth yn 2010. Nid yw ychwaith yn newid y ffaith fod ein cyllideb gyfalaf wedi gostwng 31%, mewn termau real, rhwng 2009-10 a 2015-16. Ar ben hynny, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi bod cyfraniadau cyflogwyr i bensiynau’r sector cyhoeddus yn newid. Bydd hynny’n effeithio ar bob rhan o sector cyhoeddus Cymru, gan roi pwysau ychwanegol ar wasanaethau cyhoeddus drwy ein gorfodi i dalu o leiaf £70 miliwn o gostau ychwanegol dros gyfnod o ddwy flynedd. Yn y bôn, mae hyn yn golygu mai toriadau pellach yw effaith net  y Gyllideb hon ar Gymru.

Rydym wedi galw’n daer ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig dro ar ôl tro i fuddsoddi rhagor mewn seilwaith er mwyn hybu twf ac amddiffyn swyddi. Dyma golli cyfle arall. Er bod yr economi yn tyfu o’r diwedd, dyma’r adferiad mwyaf araf ers cyn cof. Dywedodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ei hun mai bach iawn fydd effaith cyhoeddiad y Gyllideb heddiw ar dwf CMC blynyddol. Er bod y Gyllideb yn dangos bod yr economi a chyllid cyhoeddus wedi gwella, mae’r economi yn wannach o lawer na’r hyn yr oedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei ddisgwyl pan lansiodd ei chynllun o arbedion ariannol ym mis Mehefin 2010. Roedd y Gyllideb hon yn gyfle i fuddsoddi rhagor o arian cyfalaf er mwyn gallu parhau i fuddsoddi mewn twf a swyddi. Nid yw Llywodraeth y DU wedi achub y cyfle hwn heddiw.

Mae wedi cyhoeddi mesurau er budd busnesau a theuluoedd drwy wledydd y DU. Dylai’r pecyn ynni a gyhoeddwyd fod yn newyddion da i gwmnïau dur ac aelwydydd Cymru, a fydd yn siŵr o groesawu’r gostyngiad yn eu biliau ynni. Mae Prif Weinidog Cymru wedi bod yn galw am gymorth fel hyn ers tro. Byddai’r cymorth ar gyfer gofal plant i deuluoedd sy’n gweithio yn newyddion cadarnhaol, ond rwy’n annog y Llywodraeth i gyflwyno’r cynlluniau hyn cyn gynted â phosibl. Er hynny, nid yw’r cynigion hyn yn gwneud dim i leihau effaith y newidiadau a wnaed i gredydau treth yn ystod Adolygiad o Wariant 2010, sy’n golygu bod llai o deuluoedd yn gymwys i’w derbyn. Wrth edrych ymhellach i’r dyfodol, gwelwn mai caledi pellach sy’n wynebu aelodau mwyaf difreintiedig cymdeithas yn sgil y cap arfaethedig ar wariant ar fudd-daliadau lles.

Cyhoeddais gynigion Gyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15 fis Rhagfyr diwethaf. Roedd y rhain yn seiliedig ar ein blaenoriaethau fel Llywodraeth, ac yn adlewyrchu’r penderfyniadau anodd yr oedd yn rhaid inni eu gwneud. Roedd yn cynnwys pecyn buddsoddi cyfalaf newydd gwerth £657.5 miliwn dros dair blynedd, gan roi hwb sylweddol i dwf a swyddi yng Nghymru.  Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar y blaenoriaethau hyn, ac yn defnyddio pob dull sydd ar gael inni, er gwaethaf y toriadau a’r cyni di-baid.