Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Cyflwynodd Canghellor y Trysorlys ei Gyllideb ddoe. Roedd hwn yn gyfle i fynd i'r afael ag effeithiau’r argyfwng costau byw sy’n prysur waethygu, ac i sbarduno twf economaidd.
Mae Cyllideb hefyd yn ddatganiad o flaenoriaethau. Ac mae'n amlwg o'r diffyg cyllid ychwanegol ar gyfer iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a llywodraeth leol – heb sôn am y gefnogaeth bitw sydd ar gael i bobl a busnesau sydd angen help yr eiliad hon – nad oes gan Lywodraeth y DU afael ar y darlun ehangach a'i bod yn fwy na pharod i ryw dincran o gwmpas yr ymylon.
Mae’r DU ar ei phen ei hun ymhlith gwledydd y G7, a’i hallbwn economaidd yn dal heb adfer i’w lefel cyn y pandemig. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) yn disgwyl i economi'r DU grebachu ymhellach eleni. Ar y llaw arall, mae'r Gronfa Ariannol Ryngwladol yn rhagweld y bydd pob economi G7 arall yn tyfu. Disgwylir i ddiweithdra gynyddu hefyd yn y DU ac i incwm aelwydydd ar ôl chwyddiant ostwng 6% rhwng 2021-22 a 2023-24 – y gostyngiad mwyaf mewn safonau byw ers dechrau cadw cofnodion.
Cyhoeddodd y Canghellor ddoe y byddwn yn cael £178m yn ychwanegol yn ystod y ddwy flynedd nesaf (2023-24 a 2024-25) yn sgil penderfyniadau gwario a wneir yn Lloegr. Ond mae ein setliad yn 2023-24 yn dal i fod hyd at £900m yn is mewn termau real na’r hyn a ddisgwylid adeg yr adolygiad o wariant yn 2021.
Cyllideb ar gyfer twf oedd hon i fod. Ond er bod Comisiwn Twf Ysgol Economeg Llundain, y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) ac eraill wedi tynnu sylw at bwysigrwydd hanfodol buddsoddi cyhoeddus ychwanegol mewn seilwaith i wella cynhyrchiant a thwf, dim ond swm pitw o £1m o gyllid cyfalaf ychwanegol y mae’r Gyllideb hon yn ei chynnig i Gymru yn 2024-25.
Yr wythnos diwethaf, cymeradwyodd y Senedd Gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24, sy'n darparu buddsoddiad ychwanegol sylweddol i'r gwasanaeth iechyd, gofal cymdeithasol ac ysgolion. Fe fyddwn ni, wrth gwrs, yn ystyried y ffordd orau o ddefnyddio'r swm bach o arian ychwanegol a gyhoeddwyd gan y Canghellor, er mwyn diwallu anghenion pobl Cymru a’n blaenoriaethau ni yng Nghymru.
Cyn y Gyllideb, roeddwn wedi pwyso ar y Canghellor i roi cymorth i aelwydydd; i roi rhagor o gyllid i wasanaethau cyhoeddus ac i fuddsoddi er mwyn hybu twf yn yr economi. Rwy’n falch ei fod wedi gwrando ar y galwadau mynych i sicrhau bod y warant pris ynni yn cael ei chynnal ar £2,500 o fis Ebrill ymlaen. Ond mae’n siom ei fod wedi gwrthod cymryd y camau ymarferol eraill y galwon ni amdanynt, sydd wedi cael sêl bendith y grŵp o arbenigwyr annibynnol sy’n cefnogi is-bwyllgor y Cabinet ar gostau byw. Gyda’i gilydd, gallai’r rhain fod wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i'r bobl hynny y mae’r argyfwng costau byw yn effeithio arnynt fwyaf.
Rydym wedi bod yn pwyso’n gyson ar y Canghellor i gydnabod y bobl hynny yn ein cymdeithas y mae angen y cymorth mwyaf arnynt, megis pobl anabl, pobl sy'n cael budd-daliadau a phobl sydd â chyfrifoldebau gofal. Er bod y Canghellor wedi cyhoeddi y bydd yn gwneud rhagor i helpu pobl i gael gwaith, wnawn ni ddim cefnogi unrhyw gamau a fydd yn ei gwneud hi’n anodd i bobl gael gafael ar fudd-daliadau neu a fydd yn gosod amodau a chosbau ar bobl sy'n cael budd-daliadau ar hyn o bryd.
O ran y cymorth a gyhoeddwyd ar gyfer pobl dros 50 oed, ychydig iawn o effaith y mae’n debygol o’i gael os na wnaiff Llywodraeth y DU gymryd camau i wella arferion gweithio hyblyg. Mae'r OBR wedi amcangyfrif y gallai'r cynnydd yn y cyflenwad llafur o ganlyniad i'r polisïau a gyhoeddwyd yn y Gyllideb hon fod cyn ised â 55,000. Mae cael gwared ar y cap pensiynau yn bolisi atgas sydd o fudd i'r rhai mwyaf cefnog yn ein cymdeithas – dylai’r cymorth hwn fod wedi cael ei dargedu at y rhai sydd ei angen fwyaf.
Mae'r GIG a gwasanaethau cyhoeddus eraill o dan bwysau eithriadol. Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gynnal gwasanaethau effeithiol yma yng Nghymru. Ond mae'r Canghellor wedi dewis dal yn ôl yn y Gyllideb hon ar adeg pan fo dirfawr angen cyllid i sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus, sydd dan bwysau difrifol, yn gallu ymateb i'r pwysau sylweddol yn dilyn y pandemig a’r argyfwng costau byw, ac er mwyn sicrhau bod gweithwyr y sector cyhoeddus yn cael cyflog teg. O ystyried yr hyblygrwydd cyllidol oedd ar gael i’r Canghellor, dylai'r cyllid hwn fod wedi bod ar gael nawr.
Mae'r Canghellor yn mynnu mai sicrhau twf yn economi’r DU yw ei flaenoriaeth. Mae wedi cyhoeddi £20m ar gyfer gwaith y mae angen ei wneud i’r morglawdd ym mhorthladd Caergybi, ond roedd diffyg amlwg fel arall o ran buddsoddiad cyfalaf. Mae cyfoeth o gyfleoedd ar gael i fuddsoddi er mwyn hybu twf economaidd, gan gynnwys y rheilffyrdd, ynni adnewyddadwy ac ymchwil a datblygu yng Nghymru. Unwaith eto, mae’r Canghellor wedi methu â chydnabod y rhain.
Gan Lywodraeth y DU y mae’r gallu i fynd i’r afael â materion costau ynni ac mae angen mwy o gefnogaeth i fusnesau, yn enwedig i’r diwydiannau sy’n drwm eu defnydd o ynni a hefyd elusennau.
Mae’r Canghellor yn dal ati i gynnig atebion annigonol tymor byr. Ond fe wnawn ninnau ddal ati i ganolbwyntio ar ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen, gan helpu’r rhai sydd wedi’u heffeithio fwyaf gan yr argyfwng costau byw a chan gefnogi ein heconomi ni yma yng Nghymru.