Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyflwynodd Canghellor y Trysorlys Gyllideb y DU ar gyfer yr Hydref ddoe.

Cyn Cyllideb ddoe, gelwais ar Lywodraeth y DU i gymryd camau gweithredu cadarn i roi terfyn ar gyni ac i gynyddu gwariant cyhoeddus i fodloni'r galw cynyddol am wasanaethau cyhoeddus.

Er gwaethaf honiadau'r Canghellor, nid oes unrhyw dystiolaeth yng Nghyllideb y DU fod cyni ar ben. Ni wnaiff fawr ddim i wella bywydau a bywoliaeth pobl yng Nghymru; fawr ddim i liniaru'r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus nac i leddfu'r niwed sydd wedi'i achosi gan ddegawd o doriadau.

O ganlyniad i'r mesurau a gyhoeddwyd gan y Canghellor ddoe, bydd y cyllid y mae Cymru'n ei gael gan y grant bloc yn cynyddu  £554.8 miliwn mewn termau arian parod rhwng 2018-19 a 2020-21. Mae hyn yn cynnwys swm ychwanegol o £25 miliwn o ganlyniad i'r cyllid gwaelodol a gafodd ei sicrhau fel rhan o'r fframwaith cyllidol y cytunwyd arno yn 2016.  

Hyd yn oed gyda'r cyllid ychwanegol hwn bydd cyllideb Llywodraeth Cymru'n dal 5% yn is mewn termau real yn 2019-20 nag oedd yn 2010-11, sy'n cyfateb i £850 miliwn yn llai i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus.

Er ei bod yn ymddangos y bydd ein cyllideb refeniw yn cynyddu £486 miliwn dros y cyfnod 2018-19 i 2019-20, mae hyn yn cynnwys  y cyllid canlyniadol a gyhoeddwyd gynt ar gyfer y GIG fel rhan o ddathliadau pen-blwydd y GIG yn 70 oed. Ym mis Gorffennaf roeddem yn credu y byddai £365 miliwn ar gael i’w fuddsoddi yng ngwasanaethau’r GIG yng Nghymru y flwyddyn nesaf. Erbyn hyn, mae mwy na hanner y cyllid hwn wedi’i wario gan Lywodraeth y DU ar benderfyniadau y mae wedi’u gwneud ar dâl a phensiynau. At hynny, cafodd £32 miliwn yn rhagor ei dorri o’r swm hwnnw yn y Gyllideb ddoe. O ganlyniad, mae’r arian sydd ar gael i’w fuddsoddi mewn penderfyniadaua wneir yma yng Nghymru wedi’i gwtogi i £165 miliwn.

Mae Llywodraeth y DU wedi colli cyfle yn y Gyllideb i roi eglurder ar ei newidiadau pensiwn i'r gyfradd disgownt (SCAPE). Mae Llywodraeth Cymru'n rhannu pryderon pobl eraill yn y sector cyhoeddus bod perygl y gallai cyllid gael ei wyro ymhellach oddi wrth wasanaethau rheng flaen oherwydd y newidiadau hyn.

Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y newidiadau hyn a rhaid iddi sicrhau eu bod yn cael eu hariannu'n llawn. Mae Llywodraeth Cymru'n ysgrifennu, ar y cyd â'r gweinyddiaethau datganoledig eraill, i alw ar i'r newidiadau pensiwn hyn gael eu hariannu gan Drysorlys Ei Mawrhydi a hynny ar frys.

Mae pwysau sylweddol o hyd ar yr adnoddau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i'w buddsoddi mewn seilwaith ac rydym yn croesawu’r bwriad a gafodd ei ailddatgan gan Lywodraeth y DU i adolygu ein pwerau benthyca yn unol â'r galwadau yr ydym wedi'u gwneud.

Soniodd y Canghellor ddoe am ryddhau buddsoddiadau er mwyn hybu ein ffyniant yn y dyfodol, ond y gwirionedd yn sgil y cyhoeddiad ddoe yw mai dim ond £2.6 miliwn o gynnydd fydd yn ein cyllideb gyfalaf yng Nghymru yn 2019-20 – bydd £68.4 miliwn o gyfalaf ychwanegol dros y cyfnod 2018-19 i 2020-21.

O gymharu tebyg â’i debyg, bydd ein cyllideb gyfalaf 10% yn is mewn termau real ar ddiwedd y degawd nag yr oedd ar ei ddechrau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gefnogol iawn ers tro i fargen dwf ar gyfer y Gogledd, ac wedi bod yn ymwneud yn rhagweithiol â’r gwaith i sicrhau bargen sy’n iawn i bobl, cymunedau a busnesau’r Gogledd. Roedd  cyhoeddiad unochrog Llywodraeth y DU ddoe yn peri siom, gan nad oedd yn bodloni’r disgwyliadau, o bell ffordd, o ran yr hyn yr ydym ni a phobl y Gogledd wedi bod yn gweithio’n galed tuag ato.

Rydyn ni’n parhau’n hollol ymrwymedig i sicrhau’r fargen dwf hon, a allai fod yn drawsnewidiol, a byddwn yn dal ati i weithio i sicrhau pecyn a’r cyfeiriad cywir i’r Gogledd.

O edrych ar oblygiadau ehangach Cyllideb yr Hydref i Gymru, rydym wedi mynegi pryderon dro ar ôl tro am ddiwygiadau a thoriadau niweidiol Llywodraeth y DU i’r system les. Cafodd hyn ei ategu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol mewn adroddiad a gyhoeddwyd yn gynharach eleni.

Mae’r newidiadau trethi a gyhoeddwyd gan y Canghellor yn rhai anflaengar. Bydd y trethdalwyr sy’n ennill y cyflogau mwyaf yng Nghymru ar eu hennill o fwy na £800 y flwyddyn yn eu sgil. Dim ond £130, ar y mwyaf, a gaiff trethdalwyr sy’n talu’r gyfradd sylfaenol. Gan y bydd y rhan fwyaf o fudd-daliadau’n parhau wedi’u rhewi ar lefel 2015, ni fydd llawer o’r teuluoedd tlotaf sy’n dibynnu ar y system fudd-daliadau yn cael ceiniog yn ychwanegol.  

Mae Llywodraeth y DU wedi cymryd camau yn ei Chyllideb i leddfu ergyd y cynlluniau yr oedd wedi’u cyhoeddi’n gynharach. Mae hyn yn cynnwys cynnydd o £1,000 y flwyddyn yn y lwfansau gweithio o fewn y Credyd Cynhwysol fel bod modd i bobl ennill mwy cyn i’w hawl i fudd-dal gael ei gwtogi; ond nid yw hyn yn mynd yn ddigon pell.

Mae angen amserlen glir arnom ar gyfer cyflwyno’r Credyd Cynhwysol yng Nghymru, fel y gellir rhoi sicrwydd i bobl ynglŷn â’r trefniadau diogelu yn ystod y cyfnod pontio a’r modd y bydd y £1 biliwn ychwanegol a gyhoeddwyd ddoe o gymorth yn hyn o beth. Byddai amserlen hefyd yn helpu teuluoedd i gynllunio ar gyfer newid, ac yn sicrhau bod y cymorth y maent yn dibynnu arno yn cael ei roi iddynt mewn modd amserol.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i alw ar i’r doll teithwyr awyr gael ei datganoli i Gymru. Unwaith yn rhagor, mae Llywodraeth y DU wedi anwybyddu’r dystiolaeth annibynnol rymus a’r galwadau ar i Gymru gael ei thrin yn yr un ffordd â Gogledd Iwerddon a’r Alban drwy ddatganoli’r doll teithwyr awyr er mwyn hybu twf economaidd a hyrwyddo Cymru dramor. Byddaf yn disgwyl i Lywodraeth y DU weithio gyda ni i sicrhau cynnydd ystyrlon ar y mater hwn.

Yn dilyn cais Llywodraeth y DU am dystiolaeth yn gynharach eleni mewn perthynas â deunyddiau plastig untro, cyhoeddodd y Canghellor amryw o fesurau trethiant wedi’u targedu at wneuthurwyr plastig. Byddwn yn edrych yn agos ar y manylion ac yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i asesu’r ffordd orau i symud ymlaen.  

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo o hyd i roi terfyn ar ddefnydd dianghenraid o blastig a’r llygredd a achosir gan hyn. Byddwn yn parhau i weithio hefyd gyda busnesau a rhanddeiliaid yn fwy eang i ddatblygu ein syniadau a sicrhau bod eu safbwynt hwythau yn cael eu bwydo i’r broses.  

Gan edrych at y dyfodol, mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn ddibynnol ar y rhagolwg ar gyfer cyllid cyhoeddus y DU yn fwy cyffredinol. Rhagwelir y bydd y twf yn yr economi yn cynyddu ychydig yn y cyfnod hyd at 2023, ond bydd yn parhau’n araf o gymharu â’r hyn a welwyd yn y gorffennol. Rhagwelir twf o 1.5% ar gyfartaledd y flwyddyn o gymharu â’r tueddiad yn y gorffennol o dros 2%. Fesul pen y boblogaeth, mae hyn yn is eto hyd yn oed, sef 0.9% ar gyfartaledd dros gyfnod y rhagolygon. Yn yr un modd, mae’r cynnydd a ragwelir mewn cyflogau gwirioneddol yn cael ei groesawu, ond mae’n isel o gymharu â’r hyn a welwyd yn y gorffennol hefyd.  

Mae Brexit yn parhau i bwyso ar y rhagolygon twf ar gyfer Cymru a’r DU yn gyfan. Siaradodd y Canghellor ddoe am addewid o fwy o gyllid yn y dyfodol os sicrheir cytundeb manteisiol yn dilyn y negodiadau Brexit. Mae cryn ansicrwydd ynghylch y negodiadau rhwng y DU a’r UE ac mae’r bygythiad na cheir cytundeb yn ymddangos yn fwy tebygol. Byddai’r canlyniad hwn yn drychinebus ac yn amharu ac yn cael effaith negyddol anghymesur ar Gymru.  

Mae Cyllideb ddoe yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn parhau i wynebu dewisiadau anodd yn y blynyddoedd sydd i ddod er mwyn cyflawni ein blaenoriaethau i ddiogelu ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a buddsoddi yn ein heconomi. Ni fydd y cyni cyllidol yn dod i ben dros nos.

Mae ffordd bell i fynd cyn i bobl Cymru yn cael eu gwobrwyo am ffrwyth eu llafur. Bydd cysgod polisi cyni cyllidol aflwyddiannus Llywodraeth y DU yn parhau drosom am flynyddoedd i ddod.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried effaith Cyllideb ddoe ar ein cynigion ni ein hunain cyn pennu manylion Cyllideb 2019-290 yn derfynol ym mis Rhagfyr.