Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Hoffwn i roi’r diweddaraf ichi ar ganfyddiadau’r Adolygiad o Fridio Cŵn a gafodd ei gomisiynu ym mis Hydref 2019.

Rwyf heddiw wedi cyhoeddi Ymateb y Llywodraeth i argymhellion yr Adolygiad

https://llyw.cymru/brido-cwn-adolygiad-rheoliadau-lles-anifeiliaid-bridio-cwn-cymru-2014

Cafodd yr adolygiad ei gynnal gan Dasglu Gorchwyl a Gorffen o Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru. Diben yr adolygiad oedd gwneud argymhellion ar yr Adolygiad o Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) Cymru 2014, gyda'r nod o hyrwyddo llesiant cŵn bridio a'u cŵn bach.

Yn ystod yr adolygiad, cyfarfu Prif Swyddog Milfeddygol Cymru hefyd â chynrychiolwyr o'r Awdurdodau Lleol yng Nghymru i drafod rhwystrau rhag cymryd camau gorfodi. Yn dilyn hyn, mae’n dda gennyf eich hysbysu bod prosiect tair blynedd, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, bellach yn mynd rhagddo. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar hyfforddiant a chanllawiau gwell ar gyfer arolygwyr Awdurdodau Lleol, a chydweithio gwell rhwng Awdurdodau Lleol ledled Cymru. Un o nodau eraill y prosiect yw datblygu strategaeth wybodaeth ranbarthol mewn perthynas â bridio cŵn i gynyddu effeithiolrwydd wrth nodi ac atal bridwyr cŵn anghyfreithlon a didrwydded.