Neidio i'r prif gynnwy

Y Prif Weinidog, Eluned Morgan AS

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydym yn croesawu ymateb Llywodraeth y DU i adroddiad Comisiwn y DU ar Goffáu Covid.

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd coffáu’r rhai a gollodd eu bywydau yn ystod pandemig COVID-19, yn ogystal â chydnabod ei effaith hirdymor ar fywydau pobl ledled Cymru, y Deyrnas Unedig a thu hwnt. 

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwaith Rhaglen Coffáu COVID-19 Llywodraeth y DU a amlinellir yn yr adroddiad. Yn arbennig, rydym yn croesawu’r pwyslais ar raglenni coffáu ar y cyd fel y Diwrnod Myfyrio blynyddol, cynnal cofebion cymunedol, a chadwraeth mannau arwyddocaol fel y Wal Goffa Covid Genedlaethol, a’r Coedlannau Coffa Covid rydym wedi’u sefydlu yma yng Nghymru.

Edrychwn ymlaen at barhau i ymwneud â Llywodraeth y DU a’r Llywodraethau Datganoledig eraill i sicrhau bod gwaith y Rhaglen yn adlewyrchu anghenion pobl ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig.

Mae canllawiau ar Goffáu Pandemig COVID-19 wedi’u cyhoeddi ar-lein yma: Coffáu Pandemig COVID-19 - GOV.UK