Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi ymateb manwl Llywodraeth Cymru i adroddiad Comisiwn y Gyfraith, ‘Rheoleiddio Diogelwch Tomennydd Glo yng Nghymru’.

Yn 2020, gofynnodd Gweinidogion Cymru i Gomisiwn y Gyfraith ar gyfer Cymru a Lloegr gynnal adolygiad manwl o'r fframwaith deddfwriaethol yn ymwneud â diogelwch tomenni glo yng Nghymru. Cyhoeddwyd a gosodwyd ei adroddiad gerbron y Senedd ar 24 Mawrth 2022.

Ym mis Medi 2022, cyhoeddais ymateb interim i Gomisiwn y Gyfraith. Roedd hyn yn canolbwyntio ar themâu allweddol yn yr adroddiad a'n dull arfaethedig o ymdrin â'i argymhellion.

Mae'r ymateb manwl a gyhoeddir gennyf heddiw yn mynd i’r afael â 36 argymhelliad Comisiwn y Gyfraith ac yn rhoi trosolwg o'r modd y mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i roi cyfundrefn reoli newydd ar waith ar gyfer diogelwch tomenni yng Nghymru.

Mae ein hymateb yn tynnu ar ein hymgynghoriad Papur Gwyn haf diwethaf, a’n gwaith treialu ar gyfer elfennau allweddol y gyfundrefn arfaethedig, gan weithio gyda'r Awdurdod Glo, yr awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru, er mwyn mireinio ein polisi ac adeiladu ar ganfyddiadau Comisiwn y Gyfraith. Bydd hyn yn ein galluogi i ddarparu fframwaith rheoleiddio modern, addas i'r diben ac sydd wedi’i ddiogelu at y dyfodol, ar gyfer tomenni sborion nas defnyddir yng Nghymru.

Mae adolygiad Comisiwn y Gyfraith, yn ogystal ag ymatebion gan randdeiliaid i'n Papur Gwyn, wedi cadarnhau'r angen am fframwaith deddfwriaethol modern. Bydd rhoi argymhellion yr adroddiad ar waith yn cynnwys sefydlu awdurdod goruchwylio newydd a darparu cyfundrefn i oruchwylio diogelwch tomenni yng Nghymru.

Ar ôl ystyried yr adroddiad yn ofalus, rwy'n falch i nodi fy mod wedi derbyn neu wedi derbyn ar ffurf wedi'i addasu, mwyafrif yr argymhellion yn yr adroddiad. Pan fo cynigion Llywodraeth Cymru yn amrywio o'r argymhellion, maent yn adlewyrchu'r cynigion y gwnaethom ymgynghori arnynt yn ein Papur Gwyn.  Yn rhannol, mae'r amrywiadau hyn yn darparu ar gyfer y gwaith o ehangu ein cyfundrefn arfaethedig i gynnwys mathau eraill o domenni sborion yn raddol dros amser. Mae ein hymateb i'r canfyddiadau hefyd yn mynd i'r afael â'r meysydd hynny yr oedd Comisiwn y Gyfraith wedi’u nodi y byddent yn eu gadael i Lywodraeth Cymru benderfynu arnynt. Yn y rhan fwyaf o achosion, lle nad yw argymhelliad wedi'i dderbyn yn llawn, mae'r bwriad sylfaenol wedi'i gadw a'i gymhwyso i anghenion cyfundrefn ehangach.

Roedd Comisiwn y Gyfraith wedi rhag-weld cymhwyso'r gyfundrefn i domenni nad ydynt yn domenni glo. Fodd bynnag, wrth asesu ei argymhellion drwy’r lens ehangach hon bu'n angenrheidiol cynllunio cyfundrefn sy'n gymesur a heb fod yn rhy feichus ar unrhyw gorff unigol.  Mae'r asesiad hwn a’r gwaith o ddatblygu cynigion ar gyfer y maes polisi cymhleth hwn, a fydd yn sefydlu cyfundrefn gyntaf o’i math yn y byd ar gyfer rheoli tomenni nas defnyddir wedi cymryd amser, ond mae'n bwysig sicrhau ein bod yn cael hyn yn iawn. 

Ar y sail hon, rwyf wedi rhoi cyfarwyddyd i swyddogion barhau i baratoi a drafftio Bil ar Ddiogelwch Tomenni Sborion nas Defnyddir.  Rwy'n bwriadu cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon yn nhrydedd flwyddyn rhaglen ddeddfwriaethol y llywodraeth. 

Ar ran Llywodraeth Cymru, hoffwn ddiolch i Gomisiwn y Gyfraith am ei adroddiad manwl a'i gefnogaeth barhaus ar gyfer darparu'r maes polisi pwysig hwn. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i nifer o randdeiliaid sydd wedi trafod â Chomisiwn y Gyfraith a Llywodraeth Cymru fel rhan o waith datblygu'r gyfundrefn hanesyddol hon.

O ran y rhaglen ddiogelwch tomenni glo yn ehangach, cwblhawyd y cylch diweddaraf o archwiliadau’r gaeaf ddechrau mis Mawrth, a bydd cylch arall o archwiliadau o'r holl domenni categori D yn cael eu cynnal dros fisoedd yr haf.  Yn ogystal, rydym wedi gofyn i'r Awdurdod Glo ddechrau archwilio’r tomenni categori is. Gan fod llawer mwy o domenni categori is na thomenni categori uwch, bydd hyn yn cymryd mwy o amser i'w gwblhau.  Rydym wedi gwario dros £2 filiwn ar y dasg hon, a gall awdurdodau lleol barhau i gael gafael ar ein cynllun grant tomenni glo i gefnogi gwaith cynnal a chadw ar domenni.

Rwyf hefyd yn parhau i fod yn ymrwymedig i gyhoeddi lleoliad tomenni glo nas defnyddir sydd yn y categori uwch yng Nghymru. Er bod heriau o hyd o ran casglu a dadansoddi data tomenni, fy mwriad yw cyhoeddi hyn yn ystod tymor yr Hydref 2023.

Hoffwn atgoffa aelodau'r cyhoedd i adrodd am unrhyw bryderon ynghylch tomenni glo neu i gael cyngor diogelwch o linell gymorth yr Awdurdod Glo ar 0800 021 9230 neu drwy tips@coal.gov.uk.