Neidio i'r prif gynnwy

Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mai 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn gynharach eleni, fe wahoddais Gareth Williams yn ôl i adolygu’r cynnydd gyferbyn â’r argymhellion a wnaed ganddo yn ei adroddiad Hwyluso’r Drefn ac asesu a oedd gwelliannau wedi’u cyflawni.  Cyflwynodd Gareth Adroddiad Diweddaru ar Hwyluso’r Drefn – Gweithio Gyda’n Gilydd i Hybu Twf Busnesau Fferm yng Nghymru i mi, a nodais innau fy mod yn croesawu’r adroddiad hwnnw yn fy natganiad llafar ar 12 Mawrth.

Roedd ail adroddiad Gareth yn rhoi darlun positif o’r gwaith oedd yn digwydd i gyflawni’r 74 argymhelliad yn ei adroddiad gwreiddiol, sef Hwyluso’r Drefn (Adroddiad o argymhellion i Lywodraeth Cymru ar well rheoleiddio ym maes ffermio). Cafwyd cadarnhad bod 29 argymhelliad eisoes wedi’u cwblhau a bod gwaith yn mynd rhagddo  ar bron pob un o’r gweddill.

Bellach, mae ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad wedi’i gyhoeddi ac rwyf i wedi derbyn arfarniad Gareth o’r cynnydd mor belled, yn ogystal â’i gynigion ef ar gyfer y dyfodol a’r 4 argymhelliad newydd y mae wedi eu gwneud i mi.

Un argymhelliad allweddol oedd yn yr adroddiad gwreiddiol Hwyluso’r Drefn oedd y dylid cynnal cynhadledd ffermio flynyddol. Cynhelir y gynhadledd gyntaf ddydd Iau nesaf, yn Llandrindod a bydd prif cynrychiolwyr byd amaeth yn bresennol yno. Yn ogystal â chynnig platfform i Lywodraeth Cymru amlinellu ei chynlluniau ar gyfer amaethyddiaeth dros y deuddeg mis nesaf ac yn y tymor hirach, bydd y gynhadledd yn rhoi cyfle pwysig i randdeiliaid allweddol byd amaeth ddweud sut byddant yn cydweithio â’r Llywodraeth i gyflawni’r hyn sydd ei angen ar y diwydiant dros y blynyddoedd nesaf.

Mae Gareth wedi dweud bod rhaid cwblhau ei holl argymhellion erbyn Gorffennaf 2015 fan bellaf, ac rwyf innau wedi derbyn y terfyn amser heriol hwnnw. Rwy’n hyderus y bydd ein menter Hwyluso’r Drefn, ynghyd ag amryw o fesurau eraill gan gynnwys diwygio’r PAC, Cyswllt Ffermio, y Cynllun Cymorth i Newydd-ddyfodiaid, a systemau ar-lein, i enwi ond ychydig, yn cynnig cefnogaeth gynhwysfawr i’r diwydiant ffermio yng Nghymru. Bydd hyn, ynghyd â fframwaith rheoleiddio mwy rhesymol a phriodol, yn helpu ffermwyr -yn enwedig y rheini sy’n barod i gofleidio newid - i ganolbwyntio ar ehangu a datblygu eu busnesau i’w llawn botensial.