Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 11 Mehefin, cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Cymreig ganfyddiadau ei ymchwiliad i ddatganoli Toll Teithwyr Awyr i Gymru. Yr argymhelliad yn ddigamsyniol oedd y dylai Llywodraeth y DU roi rheolaeth lawn o’r Doll Teithwyr Awyr i Lywodraeth Cymru erbyn 2021. Ar 2 Gorffennaf, pleidleisiodd y Cynulliad Cenedlaethol yn unfrydol i basio cynnig a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, Plaid Cymru a Cheidwadwyr Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatganoli Toll Teithwyr Awyr yn llawn i Gymru.

Heddiw, mae'r Pwyllgor Materion Cymreig wedi cyhoeddi ymateb Llywodraeth y DU i'w argymhelliad. Eto fyth, mae Llywodraeth y DU wedi dangos ei bod yn amharod i dderbyn y dystiolaeth glir y dylid datganoli Toll Teithwyr Awyr i Gymru. Mae anhyblygrwydd safbwynt Llywodraeth y DU yn achosi penbleth pellach oherwydd ei phenderfyniadau blaenorol i ddatganoli Toll Teithwyr Awyr i'r Alban a Gogledd Iwerddon. Does dim cyfiawnhad i drin Cymru yn llai ffafriol na gwledydd datganoledig eraill.

Ceir cefnogaeth unfrydol gan y sector hedfan, twristiaeth a busnes yng Nghymru i ddatganoli'r Doll Teithwyr Awyr, a thystiolaeth gadarn o’r manteision economaidd a allai ddod yn sgil y cynnig, gan roi hwb i'r sector hedfan a'r economi ehangach. Byddaf yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i adolygu'r safbwynt anghynaliadwy hwn.

Gellir gweld ymateb Llywodraeth y DU i adroddiad ymchwiliad y Pwyllgor Materion Cymreig ar ddatganoli Toll Teithwyr Awyr i Gymru drwy'r ddolen isod:

https://publications.parliament.uk/pa/cm201719/cmselect/cmwelaf/2634/2634.pdf

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er gwybodaeth i Aelodau'r Cynulliad. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd o'r toriad, byddaf yn fwy na pharod i wneud hynny.