Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar ddiwedd mis Hydref, daeth yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyn, Taro’r cydbwysedd iawn: cynigion ar Bil y Gymraeg i ben. Ymhlith yr ymatebion a dderbyniwyd, cafwyd un gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Gwnaeth yr Ombwdsmon yr ymateb hwn yn gyhoeddus ac mae wedi bod yn destun peth ddadlau, yn enwedig yn ystod y sesiynau tystiolaeth ar Fil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) sydd gerbron y Cynulliad ar hyn o bryd.

Yn ei ymateb, cynigodd yr Ombwdsmon  y dylai swyddfa'r Ombwdsmon fod yn gyfrifol am ymdrin â chwynion ac ymchwiliadau i achosion honedig o dorri Safonau’r Gymraeg y mae’n rhaid i gyrff penodol gydymffurfio â hwy yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Rwyf wedi dweud eisoes, mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau etholedig yn y Senedd ac mewn pwyllgor, fy mod yn dymuno ystyried y cynnig hwn yn fanwl cyn gwneud penderfyniad p’un a ddylid ymgynghori ymhellach. Nid oedd y cynnig yn un o'r opsiynau a ystyriwyd yn y Papur Gwyn ac felly pe byddwn ni’n dymuno mynd ar drywydd yr opsiwn hwn, roeddwn o'r farn y byddai angen ymgynghoriad pellach.

Rwyf bellach wedi cael amser i ystyried cynnig yr Ombwdsmon yn fanwl. Ar yr wyneb, mae rhinwedd i'r cynnig. Mae'r Ombwdsmon yn arbenigwr mewn ymdrin â chwynion a chynnal ymchwiliadau mewn amrywiaeth eang o amgylchiadau lle mae gwasanaethau cyhoeddus wedi methu. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod ombwdsmyn yn effeithiol yn sicrhau canlyniadau ac yn effeithlon yn y ffordd y maent yn cynnal eu busnes. Yn ogystal, mae'n un o amcanion Llywodraeth Cymru, sydd wedi’i nodi yn ein strategaeth tymor hir ar y Gymraeg, Cymraeg 2050, i normaleiddio'r Gymraeg. Byddai trosglwyddo swyddogaethau sy’n ymwneud â chwynion ac ymchwiliadau i gydymffurfio â safonau’r Gymraeg i’r Ombwdsmon yn helpu i gyflawni hyn drwy ymdrin â chwynion ac ymchwiliadau am y Gymraeg yn yr un modd â chwynion am wasanaethau cyhoeddus eraill. Cefais hefyd gyfle i ystyried y sefyllfa yng Nghatalwnia a Gwlad y Basg, lle mae ombwdsmyn cyhoeddus yn gyfrifol am ymdrin â chwynion am achosion o dorri hawliau iaith yn y gwledydd hynny. Mae'r rhain yn ddadleuon grymus y dylwn ni gadw mewn cof ar gyfer y dyfodol.

Fodd bynnag, pan ystyrir cynnig yr Ombwdsmon yn fanwl, mae nifer o anawsterau yn dod i'r amlwg. Mae adrannau Llywodraeth y DU a rhai cyrff preifat, yn enwedig cwmnïau cyfleustodau, eisoes wedi'u cynnwys yn y Mesur ac y gellir ei gwneud yn ofynnol iddynt gydymffurfio â safonau. Yn ogystal, yn y Papur Gwyn gwnaethom fynegi bwriad clir i geisio pwerau i ymestyn y safonau i unrhyw gorff yn y sector preifat sy'n dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Mae ystyriaethau eraill yn cynnwys cyfyngiadau ar bwerau'r Ombwdsmon pan ddaw i orfodi, a'r ffaith bod safonau’n ymwneud nid yn unig â gwasanaethau i'r cyhoedd, ond hefyd i wasanaethau y mae cyflogwyr yn darparu i'w cyflogeion.

Pe byddem yn gweithredu ar gynnig yr Ombwdsmon, byddai angen i ni ymestyn cwmpas pwerau'r Ombwdsmon yn sylweddol. Ar hyn o bryd, mae awdurdodaeth yr Ombwdsmon yn ymestyn i wasanaethau cyhoeddus datganoledig yn unig. Byddai hyn angen newid er mwyn cynnwys adrannau Llywodraeth y DU ac, o bosibl, unrhyw gorff yn y sector preifat. Byddai angen i’w awdurdodaeth gynnwys gwasanaethau a ddarperir gan gyflogwyr i gyflogeion. Byddai angen i ni ystyried rhoi pwerau gorfodi’r Ombwdsmon neu drefniant cymhleth a fyddai’n cynnwys naill ai’r Comisiwn arfaethedig, Tribiwnlys y Gymraeg, neu'r ddau. Ar y cyfan, byddai angen deddfu ar gyfer diwygiadau sylfaenol i gylch gwaith a phwerau’r Ombwdsmon. Rwy’n ystyried  y byddai yn creu goblygiadau ymhell y tu hwnt i bolisi’r Gymraeg yn unig.

Ar ôl ystyried cynnig yr Ombwdsmon yn fanwl, yr wyf wedi penderfynu bod yr anawsterau yn drech na’r buddion. Felly, ni fyddaf yn dilyn hyn ymhellach a ni fyddaf yn cynnal ymgynghoriad ar y cynnig. Mae’r cynnig, serch hynny, wedi bod yn rhywbeth i ni gnoi cil arno ac rwy’n diolch i'r Ombwdsmon am ei gyfraniad gwerthfawr ac am ysgogi dadl ar ddeddfwriaeth y Gymraeg.

Yr wythnos nesaf byddaf yn cyhoeddi adroddiad yn crynhoi’r ymatebion i'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn, ‘Taro’r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg’ a'r ymatebion a ddaeth i law.