Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles, Cwnsler Cyffredinol

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn gynharach eleni lansiais ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos ar y Bil Deddfwriaeth (Cymru) Drafft. Mae’r Bil yn cynnig gosod rhwymedigaethau ar Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol i wneud cyfreithiau Cymru yn fwy hygyrch, ac yn gwneud darpariaeth bwrpasol ynghylch dehongli deddfwriaeth Cymru.

Daeth yr ymgynghoriad ar y Bil Drafft i ben ddechrau mis Mehefin ac rwy’n falch o allu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion heddiw.

Derbyniwyd 20 o ymatebion ysgrifenedig o wahanol rannau o’r DU oddi wrth rai sy’n gweithio’r broffesiynol ym maes y gyfraith, ynghyd ag academyddion a myfyrwyr y gyfraith, cyrff cynrychioliadol, unigolion a’r trydydd sector. Cawsom gyfle hefyd i drafod ein cynigion mewn tri digwyddiad a gynhaliwyd gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys un a drefnwyd gan Gymdeithas y Gyfraith yng Ngymru. Rwy’n ddiolchgar i bawb a ymatebodd i’r ymgynghoriad ac a rannodd yn hael o’u gwybodaeth a’u profiad.  

Roeddwn yn falch o weld y gefnogaeth sylweddol i’r cynigion i wella hygyrchedd cyfraith Cymru. Mae rhanddeiliaid yn cytuno bod angen cymryd camau pendant cyn gynted â phosibl, gan gydnabod hefyd y bydd y dasg o gydgrynhoi a chodeiddio cyfraith Cymru yn cymryd cryn dipyn o amser. Roedd yr ymatebwyr o’r farn bod y ddyletswydd arfaethedig yn angenrheidiol er mwyn cefnogi’r gwaith hwn, a hynny er mwyn sicrhau newid gwirioneddol ac ystyrlon a sicrhau bod Llywodraethau olynol yn atebol am wella mynediad at y gyfraith. Roedd yr ymatebwyr hefyd yn croesawu’r effaith y byddai’r cynigion yn eu cael o ran sicrhau bod rhagor o gyfreithiau sy’n gymwys yng Nghymru ar gael yn Gymraeg ac o ran cryfhau’r defnydd o’r Gymraeg fel iaith y gyfraith. Rwy’n teimlo hefyd bod yr ymatebion yn arbennig o ddefnyddiol o safbwynt nodi meysydd lle bydd yn bwysig cynnal peth cysondeb â’r trefniadau presennol ar gyfer dehongli’r gyfraith yn statudol, a lle mae cyfle i arloesi drwy wneud newidiadau er mwyn adlewyrchu cyfansoddiad Cymru yn well.

Yn unol â’m rhaglen i wella hygyrchedd cyfraith Cymru, rwy’n awyddus i roi eglurder a sicrwydd i’r rhai sy’n defnyddio deddfwriaeth Cymru, fel y gallant gael gafael arni a’i defnyddio’n hyderus.

Mae’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn ffynhonnell werthfawr o safbwyntiau, gwybodaeth a syniadau a fydd o gymorth i lywio datblygiad y cynigion deddfwriaethol yn y Bil cyn iddo gael ei gyflwyno yn y Cynulliad Cenedlaethol yn ddiweddarach eleni.

Mae’r crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar gael yma:

https://beta.llyw.cymru/y-bil-deddfwriaeth-cymru-drafft

https://beta.gov.wales/draft-legislation-wales-bill

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.