Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Ebrill 2020, cyhoeddodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS) ddadansoddiad o effaith ailbrisio a diwygio’r dreth gyngor yng Nghymru ar ardaloedd awdurdodau lleol a gwahanol fathau o aelwydydd. Comisiynwyd y dadansoddiad hwn gan Lywodraeth Cymru, gan gyfrannu at gorff o ymchwil i’r opsiynau ar gyfer creu treth gyngor decach yng Nghymru – sy’n un o ymrwymiadau ein Rhaglen Lywodraethu. Mae’r ymrwymiad hwnnw’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio hefyd.

Roedd yr ymchwil flaenorol wedi’i seilio ar amcangyfrifon o werth eiddo cyn y pandemig diweddar (Ch1 2019). Yn ddiweddar, mae’r IFS wedi cyhoeddi dadansoddiad wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu newidiadau yng ngwerth eiddo rhwng 2019 a 2022. Mae’r adroddiad: Updated analysis of the effects of revaluing & reforming council tax across Welsh local authorities ar gael yma.

Mae’r ddau ddarn o ymchwil yn hybu ein dealltwriaeth o effeithiau posibl diwygio. Heb ymarfer i ddiweddaru ac ailbrisio’r 1.5 miliwn eiddo domestig yng Nghymru, byddai’r system yn parhau i fod ugain mlynedd ar ei hôl hi. Yn ogystal, heb yr wybodaeth hon, cyfyngedig yw ein gallu i wneud newidiadau sylfaenol i’r dreth gyngor a allai helpu i wneud y system yn decach. Ym mis Gorffennaf, cyhoeddais ymgynghoriad Cam 1 ar Dreth Gyngor Decach. Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 4 Hydref.

Mae’r dadansoddiad wedi’i ddiweddaru gan yr IFS yn cadarnhau bod gwerth eiddo ledled Cymru wedi cynyddu ers 2019 a bod y cynnydd yn amrywio ar draws y wlad. Mae ffigurau’r Gofrestrfa Tir yn awgrymu bod cynnydd canrannol mewn gwerth wedi bod yn llai yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe, ac yn fwy ym Merthyr Tudful, rhannau o’r Cymoedd a llawer o ardaloedd eraill. Mae’n bwysig cofio na fydd newidiadau’n cael eu hadlewyrchu ym miliau’r dreth gyngor mewn termau absoliwt: bydd y dreth gyngor y byddwn yn ei chynllunio yn y dyfodol yn parhau i fod yn system gymharol, gyda bandiau ym mhennau isaf ac uchaf prisiadau eiddo.

Mae’r canfyddiadau hyn yn ychwanegu gwybodaeth bwysig am yr anghenion a’r gofynion penodol ar gyfer treth gyngor decach, wrth inni barhau i ystyried y ffordd ymlaen.