Huw Irranca-Davies AS, Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Yn dilyn cyflwyno Gorchymyn Dynodi gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), rwy'n cyhoeddi heddiw fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu penodi Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) i gynnal ymchwiliad lleol cyhoeddus i ystyried y sylwadau a'r gwrthwynebiadau a wnaed mewn cysylltiad â chreu'r Parc Cenedlaethol Glyndŵr newydd. Mae’r gyllideb yn darparu cyllid i helpu i gyflawni ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i ddynodi Parc Cenedlaethol newydd ar gyfer Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Mae CNC wedi cwblhau rhaglen werthuso ac asesu gynhwysfawr wrth baratoi'r Gorchymyn Dynodi ac mae'n fodlon bod y dystiolaeth a gasglwyd yn dangos bod yr ardaloedd sydd wedi'u cynnwys ym Mharc Cenedlaethol arfaethedig Glyndŵr yn bodloni'r profion statudol ar gyfer dynodi. Mae'r profion statudol hyn yn cynnwys ystyried harddwch naturiol a chyfleoedd ar gyfer hamdden awyr agored. Rwy'n falch bod y gwaith helaeth y mae CNC wedi'i wneud wedi cadarnhau ein barn wreiddiol bod harddwch yr ardal yn haeddu sylw arbennig.
Rwyf hefyd wedi ystyried ystod o asesiadau effaith sydd wedi archwilio'r achos dros ddynodi Parc Cenedlaethol newydd.
Yn ystod y Cyfnod Hysbysu statudol diweddar lle rhoddwyd cyfle i'r cyhoedd wneud sylwadau a gwrthwynebiadau mewn perthynas â'r Gorchymyn Dynodi, mynegwyd amrywiaeth o safbwyntiau, o blaid ac yn erbyn creu Parc Cenedlaethol newydd, gan gynnwys gan yr Awdurdodau Lleol o fewn ei ffiniau arfaethedig.
O ganlyniad, yn unol â Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949, cynhelir ymchwiliad lleol cyhoeddus i ystyried y sylwadau a'r gwrthwynebiadau hynny.
Gwyddom fod Parciau Cenedlaethol yn cyflawni i Gymru. Mae'r tri Parc Cenedlaethol presennol yn denu tua 12 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn ac yn cyfrannu tua £1 biliwn i economi Cymru. Mae Parciau Cenedlaethol yn asedau cenedlaethol strategol ac maent yn chwarae rôl hanfodol yn:
- Diogelu tirweddau a bioamrywiaeth;
- Cefnogi ffermio cynaliadwy a chadwraeth drwy gynlluniau cydweithredol fel Ffermio Bro;
- Gyrru twristiaeth gynaliadwy a rheoli ymwelwyr, sydd o fudd i swyddi ac economïau lleol.
Yn yr un modd, rwy'n deall y pryderon a'r amheuon sydd gan Awdurdodau Lleol a rhanddeiliaid eraill ynglŷn â sefydlu Parc Cenedlaethol newydd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol newydd. Mae'n newid mawr – yn fwriadol, gan ei fod wedi'i gynllunio i gael effaith gadarnhaol sylweddol ar ein hamgylchedd naturiol a gallu pobl i'w fwynhau. O ganlyniad, mae'n iawn bod y materion hyn yn cael eu hystyried yn ofalus iawn.
Bydd yr ymchwiliad lleol cyhoeddus yn galluogi'r ystyriaeth hon i ddigwydd.
Mae dynodi Parc Cenedlaethol newydd yn ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu, a hoffwn ddiolch i CNC am y gwaith y maent wedi'i wneud i'n galluogi i gyrraedd y garreg filltir bwysig hon.
Rwyf bellach wedi gofyn i'm swyddogion ddechrau gweithio ar sefydlu'r ymchwiliad lleol cyhoeddus, gan gynnwys paratoi ei gylch gorchwyl, ei brosesau a'i weithdrefnau a chymryd camau i nodi person priodol sydd â'r arbenigedd a'r gallu i gynnal yr ymchwiliad hwnnw.
