Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymchwilio i glwstwr o heintiadau enterofeirws difrifol gyda myocarditis (llid ar gyhyr y galon) mewn babanod ifanc iawn yn rhanbarth y De. Maent yn gweithio’n agos gyda’r tîm pediatrig yn Ysbyty Plant Cymru.

Digwyddodd yr achosion hyn o fis Mehefin 2022 ymlaen, gyda brig yr achosion ym mis Tachwedd 2022. Roedd y babanod a effeithiwyd yn ieuengach na 28 diwrnod oed. Mae enterofeirws yn haint cyffredin mewn plentyndod a gall achosi amryw o symptomau. Yn anaml iawn y bydd yn effeithio ar y galon a bydd y rhan fwyaf o fabanod a phlant yn gwella yn llwyr. Fodd bynnag, mewn babanod ifanc iawn, gall enterofeirws achosi salwch difrifol yn ystod wythnosau cyntaf bywyd.  

Mae deg baban yn y clwstwr hwn wedi datblygu myocarditis – mae un baban yn parhau i fod yn yr ysbyty; wyth yn cael sylw fel cleifion allanol ac, yn drist iawn, mae un baban wedi marw. Mae’r teuluoedd yn cael eu cefnogi yn ystod y cyfnod anodd hwn, ac rwy’n cydymdeimlo â phob un ohonynt.

Hoffwn gysuro rhieni, er y bu cynnydd mewn achosion, eu bod yn brin iawn o hyd. Cynghorwyd pediatregwyr yng Nghymru i ystyried y posibilrwydd o myocarditis mewn babanod sydd â sepsis (gwenwyn gwaed), a bydd hyn yn parhau. Mae gan Gymru system wyliadwriaeth dda ar waith ar gyfer enterofeirws ac rydym yn cymryd rhan mewn astudiaeth glinigol i ddeall yr achosion hyn ymhellach a dysgu gwersi, gan gynnwys newidiadau yn y modd y mae heintiau’n cylchredeg ac imiwnedd y boblogaeth yn dilyn y pandemig.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi cael gwybod am y clwstwr gan Iechyd Cyhoeddus Cymru o dan ei rwymedigaethau Rheoliadau Iechyd Rhyngwladol o ganlyniad i natur anghyffredin a difrifol yr achosion.