Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething – Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar ddechrau tymor y llywodraeth hon, gwnaethom ymrwymiad i sicrhau mwy o nyrsys mewn mwy o leoliadau drwy ymestyn ail ddyletswydd Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 - adrannau 25B a 25C sy’n gorfodi’r ddyletswydd i gyfrifo a chynnal lefelau staff nyrsio. Diolch i waith caled Grŵp Staff Nyrsio Cymru Gyfan a’r llif gwaith pediatreg, mae dull cynllunio’r gweithlu seiliedig ar dystiolaeth angenrheidiol wedi’i ddatblygu i’w ddefnyddio mewn wardiau pediatreg ar gyfer cleifion mewnol. Mae’r fersiwn bediatreg hon o Lefelau Gofal Cymru - y dull a ddefnyddiwyd ar wardiau meddygol a llawfeddygol acíwt i oedolion - wedi’i datblygu a’i phrofi gyda mwy na dwy flynedd o ddata ar wardiau pediatreg Cymru.

Mae’r pandemig COVID-19 diweddar wedi rhoi pwysau ychwanegol sylweddol ar ein gweithlu nyrsio, gan darfu hefyd ar waith Grŵp Staff Nyrsio Cymru Gyfan, a gwaith paratoi’r byrddau iechyd tuag at yr estyniad arfaethedig. Er hyn, rwyf wedi ymrwymo i gyflawni’r nod deddfwriaethol hwn o fewn tymor y llywodraeth hon, ac mae fy swyddogion wedi parhau â’r holl gamau cyfreithiol angenrheidiol i sicrhau bod hyn yn bosibl.

Rwy’n cyhoeddi heddiw y bydd cyfnod ymgynghori 12 wythnos yn agor yr wythnos hon i gasglu barn am y newidiadau i’r canllawiau statudol diwygiedig i gynnwys wardiau pediatreg ar gyfer cleifion mewnol ochr yn ochr â’r wardiau meddygol a llawfeddygol acíwt gwreiddiol i oedolion. Bydd y dogfennau ymgynghori yn https://llyw.cymru/deddf-lefelau-staff-nyrsio-cymru-2016-canllawiau-statudol-diwygiedig o ddydd Mercher 16 Medi.

Mae’r amserlen ddeddfwriaethol arfaethedig ar gyfer yr estyniad fel a ganlyn:

Medi 16 – 9 Rhagfyr: Y cyfnod ymgynghori ar agor

Dechrau mis Ionawr: Cyhoeddi’r adroddiad ymgynghori

Diwedd mis Ionawr: Gosod y rheoliadau drafft gerbron y Senedd

Chwefror: Trafodaeth yn y cyfarfod llawn ar y rheoliadau drafft

1 Hydref 2021: Dyddiad dod i rym arfaethedig