Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd , Llesiant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy'n falch o roi’r diweddaraf i Aelodau'r Cynulliad ar beilot y model ymateb clinigol ar gyfer y gwasanaethau ambiwlans brys, a chyhoeddi bod y peilot yn cael ei ymestyn am chwe mis arall.

Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod y galwadau ar ein gwasanaethau ambiwlans brys yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Os ydym am gwrdd â'r galwadau hyn a sicrhau'r canlyniadau gorau i gleifion, mae'n amlwg bod angen inni drawsnewid y ffordd yr ydym yn darparu'r gwasanaethau hanfodol hyn.

Ym mis Gorffennaf 2015, cyhoeddais y byddai Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn cynnal peilot o fodel newydd ar gyfer ymateb clinigol dros gyfnod o 12 mis. Yn achos pob galwad heblaw'r rheini lle mae bywyd yn y fantol ar unwaith, mae'r model ar gyfer ymateb clinigol yn gwyro oddi wrth y targed amser a ddefnyddiwyd yn y gorffennol. Yn hytrach, mae'n rhoi mwy o bwyslais ar brofiad a chanlyniadau cleifion.  

Penderfynwyd cynnal y peilot fel ymateb i dystiolaeth a oedd gymhellgar gan glinigwyr sy'n arwain yn y maes. Mae'r peilot hefyd yn seiliedig ar yr adolygiad clinigol ar brydlondeb ac ansawdd y gwasanaethau ambiwlans, o dan arweiniad Dr Brendan Lloyd, Cyfarwyddwr Meddygol Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Yn ôl yr adolygiad clinigol, nid oedd yna dystiolaeth bod targed ymateb o wyth munud yn gwneud unrhyw wahaniaeth i ganlyniadau tua 95% o unigolion.

Mae'r model newydd yn rhan o gynllun moderneiddio clinigol ehangach ar gyfer y gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru ac mae'n seiliedig ar argymhellion yr Adolygiad Strategol o Wasanaethau Ambiwlans Cymru, gan yr Athro Siobhan McClelland. Roedd yr adolygiad hwnnw yn argymell yn gryf y dylid symud tuag at set o ddangosyddion mwy deallus, sy'n rhoi mwy o bwyslais ar ganlyniadau a phrofiad y claf.  



Nod y peilot yw blaenoriaethu'r rheini sydd fwyaf angen ymateb drwy sicrhau bod pob adnodd sy'n rhydd yn cael ei anfon at unigolion sydd mewn perygl o farw. O dan y peilot hefyd, mae gan staff y ganolfan gyswllt glinigol ddwy funud ychwanegol i benderfynu pa fath o adnodd sydd ei angen ar bob claf arall. Diben yr amser ychwanegol hwn yw galluogi'r staff sy'n cymryd galwadau i anfon y math cywir o glinigydd a cherbyd at y claf, i roi'r cyfle gorau posibl o gael canlyniad da.

Dechreuodd y peilot ar 1 Hydref 2015, ac rwyf wedi fy nghalonogi gan y cynnydd sydd wedi'i wneud dros yr 11 mis a aeth heibio. Rhagorwyd bob mis ar y targed cenedlaethol o ymateb i 65% o alwadau lle mae bywyd yn y fantol ar unwaith, neu alwadau 'coch', cyn pen wyth munud. Yn wir, gwnaeth pob bwrdd iechyd lleol fodloni'r targed hwn ym mis Mehefin a Gorffennaf. Mae cleifion 'coch' sy'n derbyn ymateb ac ymyrraeth glinigol o fewn munudau yn cael y cyfle gorau posibl o oroesi a'r canlyniadau gorau posibl. Mae'n destun boddhad, felly, fod y data diweddaraf yn dangos bod 3 o bob 4 (75.3%) o gleifion wedi cael ymateb cyn pen wyth munud ac mai pum munud ac un eiliad oedd yr amser ymateb ar gyfartaledd.

Mae'r targed amser hwn yn cael ei ategu gan Ddangosyddion Ansawdd Ambiwlans y Cyd-bwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys, er mwyn rhoi mwy o gyd-destun o ran ansawdd y gwasanaethau y mae cleifion yn eu derbyn gan glinigwyr ambiwlans. Dylai hyn hefyd roi sicrwydd bod cleifion nad yw'r targed amser yn berthnasol iddynt bellach yn cael ymateb prydlon, priodol ar gyfer gwella'u canlyniadau.

Cyhoeddwyd y gyfres ddiweddaraf o ddangosyddion ar 27 Gorffennaf, ac roedd yn cynnwys gwybodaeth ar lefel byrddau iechyd ar gyfer nifer o'r dangosyddion am y tro cyntaf.  Yn bwysig iawn, dangosodd y ffigurau hyn bod cyfartaledd yr amser ymateb ar gyfer cleifion a fyddai gynt wedi dod o dan y targed, nifer ohonynt bellach yn cael eu cyfrif fel galwadau 'oren', wedi bod rhwng 11 munud 4 eiliad ac 16 munud 36 eiliad ers dechrau'r peilot. Maent hefyd yn dangos cynnydd o 32% ers dechrau'r peilot yn nifer y cleifion a gafodd eu rhyddhau'n ddiogel dros y ffôn yn dilyn asesiad gan glinigydd yn y ganolfan gyswllt.

Hefyd, mae'r 'dangosyddion clinigol' yn dangos i ba raddau mae'r parafeddygon yn darparu bwndeli gofal o'r radd flaenaf i gleifion â chyflyrau fel strôc neu sepsis, neu sydd wedi dioddef trawiad ar y galon. Mae'n galonogol gweld perfformiad da yn y meysydd clinigol hyn sy'n dangos bod parafeddygon yn darparu gofal da sy'n gwella'r canlyniadau i gleifion ym mwyafrif llethol o achosion.

Bydd gwerthusiad cadarn o'r peilot hwn yn hanfodol i sicrhau bod yr holl rhanddeiliaid yn deall effeithiolrwydd y model ac i benderfynu a oes modd ei weithredu'n barhaol. Cyn dechrau'r peilot, rhoddais gyfarwyddyd i'r Cyd-bwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys gomisiynu gwerthusiad annibynnol, ac mae arbenigwyr ym maes ymchwil gwasanaethau meddygol brys yn y broses o gynnal y gwaith hanfodol bwysig hwn ar hyn o bryd.  Ar ôl ystyried yr adroddiad gwerthuso interim gan yr Athro McCelland, Cadeirydd y Cyd-bwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys, rwyf wedi cytuno y dylid ymestyn y peilot am chwe mis er mwyn caniatáu amser i ystyried yr adroddiad gwerthuso terfynol. Mae disgwyl iddo fod yn barod ym mis Rhagfyr 2016.  Byddaf yn penderfynu'n derfynol ar ddyfodol y peilot erbyn diwedd mis Mawrth 2017.

Yn olaf, rwy'n cydnabod bod y gwelliannau a wnaed gan ein gwasanaethau ambiwlans wedi bod yn addawol, ond rydym yn gwybod bod angen gwneud mwy i ddefnyddio adnoddau a phartneriaethau presennol mewn ffordd well i gryfhau'r ymateb yn lleol. Mae'n glir, fodd bynnag, bod Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a'i staff wedi cymryd camau sylweddol a chalonogol, ac rwy'n gobeithio y bydd yr holl aelodau yn cydnabod ac yn cefnogi hyn.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er gwybodaeth i'r aelodau. Os bydd yr aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am y mater hwn pan fydd y Cynulliad yn ailymgynnull, byddaf yn fwy na pharod i wneud hynny.