Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae darparu cyfarpar diogelu personol (PPE) am ddim i'r sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru i amddiffyn gweithwyr rheng flaen rhag haint anadlol, gan gynnwys Covid-19, wedi bod yn rhan hanfodol o’n hymateb i’r pandemig. Mae hefyd yn  ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu.

Ym mis Rhagfyr, cyhoeddais y byddem yn parhau i ddarparu PPE am ddim i'r sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru tan ddiwedd mis Mehefin 2023, wrth ddisgwyl canlyniad adolygiad o'r sefyllfa. Mae'r adolygiad hwnnw bellach wedi dod i ben.

Heddiw, rwyf yn falch o gadarnhau y byddwn yn parhau â'r trefniadau presennol tan 31 Mawrth 2024. Bydd y trefniadau gweithredol a sefydlwyd yn ystod y pandemig a ddefnyddir gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) i gaffael PPE i'w ddosbarthu ymlaen i'r sector, hefyd yn cael eu hymestyn tan 31 Mawrth 2024.

Mae'n hanfodol bod gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i gadw at y canllawiau diweddaraf ar atal a rheoli heintiau. Bydd y cymorth parhaus hwn yn helpu'r GIG a’r maes gofal cymdeithasol cyn y gaeaf ac yn ystod yr hinsawdd ariannol anodd sydd ohoni.

Bydd ymestyn y dull presennol tan fis Mawrth 2024 hefyd yn helpu i reoli lefelau'r stoc bresennol o PPE, wrth ddisgwyl canlyniad adolygiad ledled y DU o wrthfesurau'r pandemig. Bydd hefyd yn rhoi amser i ddarparwyr gofal sylfaenol a chymdeithasol ailsefydlu cadwyni cyflenwi PPE ar ôl tair blynedd o gael eu cyflenwi gan NWSSP.

O 1 Ebrill 2024, bydd y trefniadau hyn yn dod i ben a bydd caffael a chyflenwi PPE yn dychwelyd i'r trefniadau a oedd yn bodoli cyn y pandemig.  Mae hyn yn golygu y bydd byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG yn mynd yn ôl i brynu eu PPE eu hunain gan NWSSP ac y bydd darparwyr gofal sylfaenol a gofal cymdeithasol yn prynu eu PPE naill ai gan y sector preifat neu gan NWSSP.