Huw Irranca-Davies, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi fy mod wedi ymestyn ail dymor yr Athro Steve Ormerod am bum mis ychwanegol, o 1 Tachwedd 2025 i 31 Mawrth 2026. Bydd ymestyn tymor yr Athro Ormerod yn cefnogi proses gynefino effeithiol Cadeirydd newydd Cyfoeth Naturiol Cymru ac yn helpu i sicrhau bod aelodaeth y Bwrdd yn parhau i fod yn sefydlog tra bod aelodau newydd yn cael eu recriwtio yn ddiweddarach eleni.
Bydd y rôl yn parhau i dderbyn tâl cydnabyddiaeth o £350 y dydd am uchafswm o 48 diwrnod y flwyddyn (pro rata ar gyfer tymor y penodiad).
Mae Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru yn atebol am sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn arfer ei swyddogaethau deddfwriaethol yn briodol ac yn effeithiol. Mae'r Bwrdd hefyd yn atebol i Weinidogion Cymru am gyflawni blaenoriaethau'r corff fel y nodir yn fy llythyr cylch gwaith Gweinidogol.
Diolchaf i'r Athro Ormerod am gytuno i'r estyniad hwn ac am y cyfraniadau sylweddol y mae'n parhau i'w gwneud ers ei benodi'n aelod o'r Bwrdd yn 2018 ac yn ei rôl fel Dirprwy Gadeirydd y Bwrdd ers 2019.
