Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Awst 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'n bleser gennym gyhoeddi y bydd y Gronfa Gofal Integredig a'r Gronfa Trawsnewid yn cael eu hymestyn am 12 mis tan fis Ebrill 2022.

Bydd yr arian ar gael drwy Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol sy'n dod â byrddau iechyd, llywodraeth leol a'r trydydd sector ynghyd.

Mae'r saith Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol sy'n gweinyddu'r cyllid hwn yn wrth arwain gwaith integreiddio a thrawsnewid yn y maes Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae ganddynt rôl hanfodol i'w chwarae wrth sicrhau ein bod yn cynllunio ac yn darparu ar gyfer y gaeaf sydd o'n blaenau mewn modd integredig. Mae'r prosiectau y maent wedi'u datblygu hyd yma gan ddefnyddio cyllid y Gronfa Gofal Integredig a'r Gronfa Trawsnewid nid yn unig wedi dod yn rhan hanfodol a chreiddiol o'r ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ond maent hefyd wedi chwarae rôl sylfaenol yn ein hymateb i COVID-19.

Mae'r prosiectau Adre o'r Ysbyty (rhyddhau cleifion yn gyflym) a'r modelau osgoi derbyniadau i'r ysbyty a ddatblygwyd drwy'r Gronfa Gofal Integredig a'r Gronfa Trawsnewid, ynghyd â'r defnydd o dechnoleg ddigidol, wedi darparu gwasanaethau hanfodol yn ystod y pandemig.

Bydd y 12 mis ychwanegol o gyllid - sef £89m o refeniw a £40m o gyfalaf i'r Gronfa Gofal Integredig, ynghyd â £50m o refeniw i'r Gronfa Trawsnewid, yn rhoi sefydlogrwydd i'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ac yn golygu bod gwasanaethau iechyd a gofal allweddol yn gallu parhau er mwyn ein cefnogi drwy gyfnod heriol y gaeaf sydd o'n blaenau, a gosod sylfeini cadarn ar gyfer ein camau sefydlogi ac ailadeiladu.

Bydd yr amser estynedig hwn hefyd yn ein galluogi ni i adfywio momentwm y rhaglen drawsnewid a oedd yn datblygu'n gyflym cyn argyfwng COVID-19.  Er enghraifft, bydd gan rwydwaith y Canolfannau Cydlynu Ymchwil, Arloesi a Gwella a sefydlwyd yn ddiweddar ar draws Cymru, rôl ganolog i'w chwarae wrth nodi ffyrdd newydd arloesol o gydweithio sydd wedi dod i'r amlwg yn ystod y pandemig, a'u mabwysiadu ar lefel ehangach. Bydd y canolfannau hyn hefyd yn elwa o'r 12 mis ychwanegol o gyllid sy'n cael ei gyhoeddi.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd yr aelodau eisiau i ni wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddem yn falch o wneud hynny.