Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd y Prif Weinidogion y byddem yn neilltuo £200m arall i helpu busnesau a chynnal swyddi dros y pandemig. 

Yn dilyn cyhoeddiad heddiw ein bod am gadw’r cyfyngiadau, gallaf yn awr roi rhagor o fanylion ichi am y cymorth ychwanegol hwnnw sy’n rhan o becyn o ragor na £2bn o gymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i neilltuo i fusnesau er mwyn diogelu swyddi a chynnal unigolion ledled Cymru.

  • Mae hwn yn estyniad o'r pecyn ariannu, a gafodd ei roi ar waith ddechrau mis Rhagfyr.
  • Mae'n golygu darparu £650m o gymorth hyd at ddiwedd mis Mawrth.

Defnyddir yr arian diweddaraf hwn i ymestyn grant Ardrethi Annomestig (NDR) y gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau y Gronfa Cadernid Economaidd a’r grantiau Dewisol ar gyfer pob sector manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth nad yw'n hanfodol. Mae'n chwyddo taliadau’r cyfnod rhwng 25 Ionawr a diwedd Mawrth 2021 i fusnesau y bydd cyfyngiadau’r Rhybudd Lefel 4 cenedlaethol wedi effeithio arnynt.

Bydd busnesau cadwyni cyflenwi hefyd yn gallu gwneud cais os yw eu trosiant wedi gostwng fwy na 40%. Rydym hefyd yn darparu grant o £5,000 i eiddo sydd â gwerth ardrethol o hyd at £500,000.

Ochr yn ochr â'r pecyn ar gyfer mis Rhagfyr a mis Ionawr, dyma grant cyfunol gwerth o leiaf £6,000 - £10,000 i bob busnes cymwys, hynny cyn cyfrif unrhyw arian a roddir trwy Gronfa Cymorth Penodol i’r Sector y Gronfa Cadernid Economaidd, a phecynnau cymorth eraill fel y Cynllun Cadw Swyddi.

Bydd busnesau sy'n gymwys am estyniad y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau yn derbyn y canlynol:

  • Bydd busnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth nad ydyn nhw’n hanfodol sy'n cael eu helpu trwy’r Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach (SBRR) ac sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai yn gymwys am daliad ychwanegol o £3,000. Bydd busnesau yn y gadwyn gyflenwi sy’n gymwys am yr SBRR yn gymwys hefyd am y cymorth hwn os yw eu trosiant wedi gostwng fwy na 40% yn ystod cyfnod y cyfyngiadau.
  • Bydd busnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth nad ydyn nhw’n hanfodol sydd â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £51,000 yn gymwys hefyd am daliad o £5,000 os yw’r cyfyngiadau wedi effeithio arnyn nhw. Bydd busnesau cyflenwi â’r un gwerth ardrethol hefyd yn gymwys am y cymorth hwn os yw eu trosiant wedi gostwng fwy na 40% yn ystod cyfnod y cyfyngiadau.
  • Bydd busnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth nad ydyn nhw’n hanfodol sydd â gwerth ardrethol o rhwng £51,001 a £500,000 yn gymwys hefyd am daliad o £5,000 os yw’r cyfyngiadau wedi effeithio arnyn nhw. Bydd busnesau cyflenwi â’r un gwerth ardrethol hefyd yn gymwys am y cymorth hwn os yw eu trosiant wedi gostwng fwy na 40% yn ystod cyfnod y cyfyngiadau.

Bydd busnesau’r sectorau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth nad ydyn nhw’n hanfodol sydd â gwerth ardrethol o hyd at £150,000 a gofrestrodd ac a dderbyniodd Grant o Gronfa Gyfyngiadau’r Gronfa Cadernid Economaidd ym mis Rhagfyr/Ionawr drwy eu Hawdurdod Lleol yn dechrau derbyn taliadau i'w cyfrif banc yn ystod mis Chwefror. Ni fydd yn ofynnol i'r busnesau hyn ail-gofrestru eu manylion.

Os yw busnes yn gymwys am y taliadau ac nad yw wedi derbyn y grant eto, bydd wedi gallu cofrestru ar gyfer y cyllid cymwys ers 4 Rhagfyr.

Bydd yr estyniad hwn hefyd yn helpu busnesau manwerthu, hamdden a thwristiaeth sydd â gwerth ardrethol o rhwng £150,000 a £500,000 y flwyddyn. Bydd hyn yn ein galluogi i helpu carfan o gwmnïau canolig eu maint nad ydynt hyd yma wedi cael cymorth grantiau’r Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau. Bydd gofyn i'r busnesau hyn gofrestru eu manylion, yn ogystal â gwneud cais byr ar-lein i'w hawdurdod lleol.

Bydd y broses gofrestru a chymhwyso i wneud cais am y cyllid hwn ar gael ar wefannau Busnes Cymru ac Awdurdodau Lleol..

https://businesswales.gov.wales/coronavirus-advice/cy/diogelu-cymru-yn-y-gweithle

Er mwyn cefnogi busnesau nad ydynt wedi'u cofrestru ar gofrestr yr Ardrethi Annomestig ac sydd â throsiant o dan £50,000, mae £30m arall o'r Gronfa Disgresiwn Lleol wedi'i gymeradwyo gan ddarparu grant o £2,000 drwy ail rownd ymgeisio a thalu. Byd angen i fusnesau gyflwyno cais i’r Gronfa.

Yn dilyn yr estyniad hwn i’r grant, mae cyfanswm y cymorth ariannol i fusnesau cymwys drwy’r Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Llywodraeth Cymru yn unig ar gyfer y cyfnod 4 Rhagfyr – diwedd mis Mawrth fel a ganlyn:

  • Bydd busnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth nad ydyn nhw’n hanfodol sy'n derbyn Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach (SBRR) ac sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai yn gymwys am daliad o £6,000. Bydd busnesau cyflenwi sy’n gymwys am yr SBRR hefyd yn gymwys am y cymorth hwn os yw eu trosiant wedi gostwng fwy na 40% yn ystod y cyfnod o gyfyngiadau.
  • Bydd busnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth nad ydyn nhw’n hanfodol sydd â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £51,000 yn gymwys hefyd am daliad o £10,000 os bydd y cyfyngiadau wedi effeithio arnyn nhw. Bydd busnesau cyflenwi â’r un gwerth ardrethol hefyd yn gymwys am y cymorth hwn os yw eu trosiant wedi gostwng fwy na 40% yn ystod cyfnod y cyfyngiadau.
  • Bydd busnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth nad ydyn nhw’n hanfodol sydd â gwerth ardrethol o rhwng £51,001 a £150,000 yn gymwys hefyd am daliad o £10,000 os bydd y cyfyngiadau wedi effeithio arnyn nhw. Bydd busnesau cyflenwi â’r un gwerth ardrethol hefyd yn gymwys am y cymorth hwn os yw eu trosiant wedi gostwng fwy na 40% yn ystod cyfnod y cyfyngiadau.
  • Bydd busnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth nad ydyn nhw’n hanfodol sydd â gwerth ardrethol o rhwng £150,001 a £500k nad oeddent yn gallu gwneud cais am gyllid ym mis Rhagfyr yn gymwys am daliad o £5,000. Bydd angen i'r busnesau hyn gofrestru eu manylion drwy wefan eu hawdurdod lleol.

Nid yw hyn yn cynnwys, lle y bo hynny'n gymwys, fusnesau sydd wedi defnyddio Cronfa Cymorth Penodol i’r Sector yr ERF a fyddai'n golygu bod busnesau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth nodweddiadol sydd â 10 o weithwyr yn derbyn £15,000 ychwanegol, cyfanswm o £25,000 dros y cyfnod.

Byddaf yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi busnesau yn ystod y dyddiau hynod anodd hyn er mwyn diogelu swyddi a chynnal unigolion a byddwn yn asesu ac yn diweddaru cymorth wrth i'r sefyllfa esblygu.