Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru yn gefnogwr brwd o Ynni Morol, yn cydnabod yr angen i gyflenwi ynni adnewyddadwy gwyrdd, a'r cyfle anhygoel a gyflwynir gan arfordir Cymru.

Oherwydd hyn, yr wyf yn falch iawn o gyhoeddi enillwyr Her y Morlyn Llanw. 

Nodwyd fel ymrwymiad yn y Rhaglen y Llywodraeth ein bod am gynnal her morlyn llanw,  ac yn rhan o'n hymrwymiad ehangach i wneud Cymru'n ganolfan fyd-eang o dechnolegau morol sydd yn dod i’r amlwg.

Bydd Her y Morlyn Llanw yn cefnogi ymchwil arloesol yn uniongyrchol a fydd yn edrych i leihau neu ddileu rhwystrau sydd ar hyn o bryd yn atal morlynnoedd llanw rhag cael eu datblygu neu fesur budd posibl o ddatblygu morlyn llanw.

Roedd safon yr ymgeiswyr i Her y Morlyn Llanw yn uchel iawn ac mae'n dyst i ansawdd ymchwilwyr yn y maes hwn yng Nghymru, ac ar draws y DU. Roeddwn yn falch iawn o weld cydweithio helaeth, gyda'r holl geisiadau'n cael eu gwneud gan gonsortia. Rydym yn gwybod bod cydweithredu yn hanfod i arloesi, ac rwy'n hyderus y bydd prosiectau ymchwil Her y Morlyn Llanw yn gatalydd ar gyfer arloesi yn y sector.

Enillwyr Her y Morlyn Llanw oedd:

  • Yng nghategori'r Amgylchedd: Prifysgol Abertawe, mewn partneriaeth â Fish Guidance Systems Ltd, Natural England, Batri Ltd a DST Innovations Ltd er mwyn galluogi caniatáu morlyn llanw: drwy ddarparu data mudo pysgod, a datblygu a dilysu system acwstig i atal pysgod ar gyfer prosiect Gwangod. Bydd y prosiect yn defnyddio tagio pysgod a monitro i brofi effeithiolrwydd system awcwstig i atal pysgod fel modd i liniaru ar gyfer cyflwyno morlyn llanw.

 

  • Yng nghategori Peirianneg a Thechnegol: Offshore Renewable Energy Catapult, mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, Intertek a Western Gateway, gyda phrosiect FLOMax (Flexible Lagoon Operation for Maximal Value)  gweithredu morlyn hyblyg ar gyfer y gwerth gorau. Bydd y prosiect yn defnyddio modelu i fesur gwerth datblygu morlyn llanw.

 

  • Yng nghategori Economaidd-gymdeithasol a Chyllid: Prifysgol Caerdydd, mewn partneriaeth â Western Gateway a British Hydropower Association Ltd gyda'r prosiect Cynllun Morlyn llanw: Prosiect Perchnogaeth, Ecwiti a Chyllid.  Bydd y prosiect yn ystyried sut y gallai gwahanol berchnogaeth a modelau datblygu/ ariannu ar gyfer morlynnoedd llanw gael effeithiau cadarnhaol ar economi Cymru.

Edrychaf ymlaen i’r canlyniadau’r ymchwil eu rhannu wrth i’r prosiectau hyn fynd rhagddynt.